CANOLFAN MILENIWM CYMRU AR AGOR I BAWB Y PENWYTHNOS HWN
|
Mae naw sefydliad celfyddydol preswyl Canolfan Mileniwm Cymru yn addo penwythnos llawn hwyl, rhad ac am ddim, wrth iddynt ddod ynghyd i roi gwir flas o'r hyn sy'n digwydd y tu mewn a thu ôl i lenni'r adeilad eiconig.
Bydd y Ganolfan yn agor ei drysau y penwythnos hwn [2 a 3 Hydref 2010] gyda deuddydd llawn dop o berfformiadau a gweithgareddau am ddim i'r teulu cyfan rhwng 10.00am a 7.00pm ar y ddau ddiwrnod.
Anogir ymwelwyr i'r Penwythnos Agored gymryd rhan yn y gweithgareddau, crwydro o amgylch y Ganolfan a gwylio perfformiadau ym mhob rhan o'r adeilad. Bydd staff y Ganolfan hefyd ar gael i sgwrsio â hwy am bob mathau o bethau o’r sioeau a lwyfannir i’r profiad o weithio yn y diwydiannau creadigol.
Ymysg uchafbwyntiau'r Penwythnos Agored bydd:
• Teithiau cefn llwyfan i weld lle caiff y setiau eu storio, rhoi cynnig ar weithio’r bwrdd goleuadau neu ddringo'r platfform esgynnol 12 metr uwchben y llwyfan
• Bydd Balloonatics yn creu teganau a chymeriadau anhygoel o falŵnau ar y ddau ddiwrnod
• Gweithdai canu gydag Opera Cenedlaethol Cymru a pherfformiad gan Gantorion Wesley o Lanidloes
• Gweithdai ysgrifennu Cymraeg gydag Academi a sesiynau 'barddoniaeth stand-yp' dwyieithog
• Perfformiadau gan Grand Theatre of Lemmings a'i estrysiaid direidus
• Arddangosiadau gan adran wisgoedd OCC a cholur effeithiau arbennig gan y cynllunydd goluro Roxy Butler
• Ymarfer agored gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
• Hwyl mewn drama i'r teulu gyda'r ymarferydd drama o Gaerdydd, Dylan Adams
• Geithdy crefftau - crëwch eich Canolfan fechan eich hun neu rhowch gynnig ar greu gyda ffelt
• Taith o amgylch ardal Touch Trust a dysgwch sut mae'n defnyddio cerddoriaeth a therapi cyffwrdd i unigolyn sydd ag anghenion cymhleth
• Perfformiad gan grŵp theatr yr Urdd, Ffwrnais Awen ar Lwyfan Glanfa
• Darnau gan grŵp cymunedol Hijinx Theatre, Odyssey Theatre Group, a pherfformiad gan fand Hijinx Theatre, Vaguely Artistic’
• Sgwrs cyn y sioe gydag OCC cyn ei berfformiad o opera Mozart, The Magic Flute
Yn ôl Fiona Allan, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru. 'Rydym yn agor ein drysau y penwythnos hwn ac yn ymuno â'n sefydliadau preswyl a'r gymuned gelfyddydol ehangach fel y gall pobl alw heibio, cael blas ar y celfyddydau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau am ddim.
'Mae'r Ganolfan yn lle i bawb yng Nghymru a chynhelir ystod eang o weithgareddau ynddi. Mae'r penwythnos hwn yn gyfle gwych i gymunedau ledled Cymru weld beth sydd gan y Ganolfan i'w gynnig ac i deuluoedd fwynhau cymryd rhan yn yr holl weithgareddau gwahanol a gynhelir, o ganu a drama i deithiau a sgyrsiau.'
Mae'r Penwythnos Agored yn cyd-daro â'r ŵyl gelfyddydol gymunedol, Demo, a gynhelir ledled Caerdydd. Bydd y Ganolfan yn ymuno â sefydliadau celfyddydol eraill yn Neuadd Dewi Sant lle bydd yn cynnal sesiwn canu a dawnsio i blant bach a gweithdy dawns hip-hop. |
web site: |
e-mail: |
Tuesday, September 28, 2010 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999