Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Dod a Phrofiad Newydd i Lwyfannau Cymru     

Dod a Phrofiad Newydd i Lwyfannau Cymru Am y tro cyntaf erioed, fe fydd Theatr Genedlaethol Cymru yn llwyfannu sioe gerdd gyffrous a fydd yn cynnig profiad gwahanol i gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru yng Ngwanwyn 2011.

Fe fydd y Cwmni cenedlaethol yn llwyfannu addasiad o ddrama ddadleuol Frank Wedekind, ‘Spring Awakening’ sef “Deffro’r Gwanwyn’ sydd wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg gan y dramodydd Dafydd James.

Mae'r ddrama yn portreadu grŵp o bobl ifanc sydd yn profi eu glasoed - rhai mewn anwybodaeth ac heb unrhyw fath o arweiniad. Mae eu hofn a'u chwilfrydedd yn eu harwain at brofiadau herfeiddiol sydd â chanlyniadau dirdynnol i rai ac i eraill yn newid cwrs bywyd am byth.

Ers i’r sioe gerdd ‘Spring Awakening’ agor am y tro cyntaf yn 2006 yn Broadway, America derbyniwyd canmoliaeth fawr iddi ac mae hi wedi ennill 7 Gwobr Tony yn Efrog Newydd a 4 gwobr Olivier yn Llundain – dau ohonynt gan y Cymry ifanc Aneurin Barnard ac Iwan Rheon.

Meddai Elin Williams. Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae’r prosiect yma yn cynnig her wahanol iawn i’r Cwmni ac edrychwn ymlaen at y sialens o lwyfannu sioe gerdd. Mae hi’n argoeli i fod yn noson o adloniant gwych gyda cherddorfa yn chwarae yn fyw gan gynnig croesdoriad diddorol o ddrama a chyngerdd roc.

“Mae gwaith ymestyn mewn ysgolion a cholegau eisoes ar y gweill a gobeithiwn ddefnyddio technegau marchnata gwahanol i ddenu cynulleidfa newydd i’r theatr.”

Y gyfarwyddwraig amryddawn Elen Bowman fydd wrth y llyw a dyma’r tro cyntaf iddi hi weithio o dan adain Theatr Genedlaethol Cymru. Meddai: “Er i’r ddrama wreiddiol gael ei ysgrifennu nôl yn 1891, mae’r themâu yn oesol ac mae’r modd yr addaswyd y ddrama i fod yn ddrama gerdd yn apelgar iawn i bobl ifanc. Gobeithiaf yn fawr y bydd y gynulleidfa yn mwynhau’r profiad ac mae’n gyfle gwych i gast o actorion ifanc ymgymryd â sioe gerdd heriol a chreu noson fythgofiadwy a newydd iawn i lwyfannau Cymru.”

Bydd rhagor o fanylion am y cast a’r daith yn cael ei datgelu yn fuan.
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com
Elin Williams
e-mail: elin@theatr.com
Thursday, October 14, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk