Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

S’gin ti Hawl?     

S’gin ti Hawl? Mae cynhyrchiad diweddaraf Cwmni’r Frân Wen sef Hawl gan Iola Ynyr bellach ar daith ac yn barod yn ennyn ymateb chwilfrydig gan y gynulleidfa.

Dyma gynhyrchiad sy'n gwthio'r ffiniau o ran cysyniad a llwyfaniad ac sydd wedi ei ddatblygu i herio pobl ifanc, yn bennaf, i gwestiynu eu hawliau nhw ac eraill yn wyneb digwyddiadau rhyngwladol erchyll y byd heddiw. Caiff y gynulleidfa eu hannog i ddehongli o'r funud gyntaf wrth iddynt gael eu tywys drwy sganiwr i babell mewn lloches ffoaduriaid ar y ffin rhwng Kyrgyzstan ac Uzbekistan. Yn y babell, cyflwynir cynhyrchiad theatrig a chynhyrfus y gellir ei ddehongli ar sawl lefel. Ar un lefel, cawn ein cyflwyno i ddynameg perthynas a sut y mae un yn dylanwadu ar y llall. Ar lefel fwy dyrys, ceir mewnwelediad i sut y mae unigolion a gwledydd yn llwyddo i fanipiwleiddio a gormesu eraill er lles eu hunain. Y gobaith yw cyflyru emosiynau’r gynulleidfa gan eu hysgogi i edrych ar y byd o'r newydd.

Pwy sy’n gwarchod ein hawliau? Pam fod cymaint yn amharchu hawliau eraill? Oes cyfiawnhad dros hynny pan fo sefyllfa enbyd yn ein hwynebu? A ddylem gyfyngu ar hawliau lleiafrifoedd er mwyn gwarchod buddiannau’r mwyafrif? Sut all gwledydd mwyaf pwerus y byd dorri rheolau hawliau dynol sylfaenol heb dderbyn cosb? Pam bod pobl o bob oed yn cael eu hamddifadu o’u hawliau o dan ein trwynau yng Nghymru ac yn rhyngwladol? Ai anwybodaeth neu ddifaterwch sy’n caniatáu'r anghyfiawnderau hyn?

Gellir gwylio clip fidio a chael cip olwg ar luniau proffesiynol o’r cynhyrchiad ar ein gwefan trwy ddilyn y linc isod:

http://www.franwen.com/cymraeg/sioe/hawl/sioe.aspx

Cyflwynir Hawl gan Iwan Charles, Carys Gwilym, Elen Gwynne, Neil Williams

Cyfarwyddwr: Iola Ynyr
Cynllunydd Set: Gwyn Eiddior
Cynllunydd Goleuo: Gwion Llwyd
Cerddoriaeth: Osian Gwynedd

Mae'r cynhyrchiad yn teithio ysgolion uwchradd Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy hyd at y 7fed o Ragfyr 2010 (trwy gyfrwng y Saesneg tan 3/11/10 a thrwy gyfrwng y Gymraeg wedi hynny). Atodir ffleiar pdf sy'n nodi dyddiadau'r daith. Sylwer bod perfformiadau arbennig wedi eu trefnu ar gyfer pobl ifanc o Wynedd, Ynys Môn a Chonwy sydd ddim mewn gwaith, addysg nac hyfforddiant yn ogystal.

Cynhelir perfformiad cyhoeddus o Hawl yn Neuadd JP, Bangor ar nos Fawrth, 16 Tachwedd 2010 am 8 o'r gloch (perfformiad trwy gyfrwng y Gymraeg). Dyma ymgais ar ran Cwmni’r Frân Wen i ehangu ei gynulleidfa draddodiadol a chynnal perfformiadau cymunedol. Gellir archebu tocynnau drwy anfon e-bost at post@franwen.com / 01248 715048. Rhybuddir bod nifer cynulleidfa yn gyfyngedig i 55 felly archebwch eich tocynnau nawr! Mae’r cynhyrchiad yn addas ar gyfer pobl ifanc 13 oed +.

Cofiwch ymweld â gwefan newydd y cwmni www.franwen.com am wybodaeth pellach yngl_n â Hawl a chynlluniau’r cwmni ar gyfer y dyfodol.
Cwmnin Fran Wen  
web site
: www.franwen.com/cymraeg/sioe/hawl/sioe.aspx

e-mail:
Monday, October 18, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk