Theatr Bara Caws yn cyflwyno '100'
|
Addasiad Elin Jones, o’r darn a greuwyd gyntaf gan Neil Monaghan, Diene Petterle a Christopher Heimann.
Ar daith Tachwedd 9fed – Rhagfyr 3ydd, 2010
Mae Cwmni Theatr Bara Caws yn falch o gael cyflwyno ‘100’ fel ein cynhyrchiad nesaf, Tachwedd/Rhagfyr 2010.
Dychmygwch fod yn rhaid i chi ddewis un atgof yn unig o’ch bywyd – bydd y gweddill yn diflannu am byth. Dychmygwch mai’r atgof hwnnw yw’r unig beth fydd yn gwmni i chi’n dragywydd. Dychmygwch …. 100….99….98
Addaswyd y gwaith i’r Gymraeg gan Elin Jones, o’r darn a greuwyd gyntaf gan Neil Monaghan, Diene Petterle a Christopher Heimann. Mae’r ddrama, sydd yn gymysgedd rhithiol o symud a syniadau yn rhoi cyfle i’r cwmni gydweithio ag actorion a choreograffydd newydd a chynnig cynhyrchiad gweledol, gwahanol, i’n cynulleidfa. Bydd 5 actor yng nghynhyrchiad ‘100’, Darren Stokes, Rhodri Trefor, Ioan Gwyn, Mared Elliw Huws a Sioned Wyn Jones gyda Tony Llewelyn a Sarah Mumford yn cyfarwyddo.
Mae’r cymeriadau yn ‘100’ yn cael eu gorfodi i ddewis ac i ail fyw'r eiliadau hynny o atgof gan ddefnyddio dim ond eu cyrff a’u cyd actorion. Cludir ni o swyddfa yn Llundain, i ras feiciau modur, o ddyfnder coedwigoedd yr Amazon i ymyl dibyn bodolaeth wrth i’r unigolion geisio cipio un em werthfawr o flerwch eu byw a’u bod.
Dewiswch rywbeth o blith y cyfan a wnaethoch ac a brofoch, a feddylioch ac a deimloch …. pa beth yw’r trysor drytaf?
|
Theatr Bara Caws
web site: |
e-mail: |
Friday, October 22, 2010 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999