Fred Yw’r Prentis Perffaith, Meddai Theatr Genedlaethol Cymru! |
![]() Bydd Fred Harvey-Love yn dechrau ar ei swydd gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar 08 Dachwedd 2010 am gyfnod pendodol o 12 mis - y person cyntaf erioed i gael prentisiaeth gyda’r Cwmni. Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig prentisiaeth technegol a fydd, ar y cyd gyda Coleg Gorseinon, yn cynnig y cyfle i Fred i weithio tuag at gymhwyster Tystysgrif Lefel 2/3 Prentisiaeth Fodern ‘Theatr Dechnegol: Rigio, Goleuo a Sain’. Daw Fred, sydd yn 18 oed, o Gaerdydd ac mae’n gyn ddisgybl Ysgol Gyfun Radyr yn y ddinas. Mae ganddo ddiddordeb ysol mewn theatr a’r celfyddydau, ac eisoes, mae ganddo brofiad o weithio gefn llwyfan ar amryw o gynyrchiadau gan gynnwys cynyrchiadau Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Meddai Fred: “Edrychaf ymlaen yn eiddgar at weithio yn Theatr Genedlaethol Cymru. Yn ystod fy mlwyddyn fel prentis, rwy’n awyddus i weithio mor galed a phosibl er mwyn cael gymaint o brofiad, hyfforddiant a gwybodaeth ar bob agwedd o waith technegol y theatr. Gobeithiaf y bydd hyn yn gymorth i mi gael fy nerbyn ar gwrs Prifysgol perthnasol yn y dyfodol gan arwain y ffordd i mi gael gyrfa yn y maes.” Meddai Wyn Jones, Rheolwr Technegol a Gweithrediadau Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae’n bleser i allu cynnig y cyfle unigryw yma i berson ifanc, brwdfrydig fel Fred. Bydd y brentisiaeth yn buddsoddi yn sgiliau technegwyr y dyfodol ac yn sicrhau fod siaradwyr Cymraeg yn cael y cyfle gorau i ennyn profiad ac i ddatblygu o fewn y maes.” |
theatr genedlaethol cymru web site: ww.theatr.com |
e-mail: |
Wednesday, November 3, 2010![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999