![]() O Gaernarfon i’r Wyddgrug, i gapeli wedi eu haddasu i Venue Cymru yn Llandudno, bydd OCC yn treulio’r pedair blynedd nesaf yn creu map arbennig iawn o weithgareddau celfyddydol ar gyfer cynulleidfaoedd ar hyd a lled Gogledd Cymru. Mae OCC wedi bod yn ymweld yn aml iawn â Llandudno gyda’i brif gynyrchiadau ers yn agos i 60 mlynedd, ond erbyn hyn mae’r cwmni’n ychwanegu at ei raglen gan gynnig nifer helaeth o weithgareddau’n seiliedig ar ganu mewn amgylcheddau llai cyfarwydd. Bydd artistiaid o Gymru’n ymuno â chantorion a cherddorion i weithio ar brosiectau a’u datblygu, gan gynnwys Mirian Bowen, Annette Bryn Parri, Jenny Pearson ac Angharad Lee. Yn arwain y rhaglen bydd yr adran WNO MAX, sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau am ei waith blaenorol, gan gynnwys y trioleg o operâu amgylcheddol Tir Môr ac Awyr. Perfformiwyd y gwaith mewn pabell wedi ei throi’n d_-opera ym mhentref Cil-y-cwm yn Sir Gaerfyrddin. “Hwn fydd y tro cyntaf i OCC gynnig cynllun mor ganolog o weithgarwch yn y Gogledd,” meddai Rhian Hutchings, Cyfarwyddwraig WNO MAX. “Bydd pawb, o blant ysgol gynradd i bobl sy’n mynd yn rheolaidd i’r ganolfan gymunedol, yn cymryd rhan. Bydd diwrnodau canu mewn nifer o fannau, datganiadau a’r cyfle i ymuno â chôr cymunedol a fydd yn cymryd rhan yn y perfformiad cyntaf erioed o Gair ar Gnawd, gwaith newydd sbon gan Pwyll ap Sion a Menna Elfyn.” Fe ddaw cyllid craidd WNO MAX gan Cyngor Celfyddydau Cymru ac Cyngor Celfyddydau Lloegr, ond cefnogir y prosciect hwn gan Sefydliad Esmee Fairbairn, sy’n galluogi WNO MAX i lunio blwyddyn baratoi o weithgareddau yn 2011, a fydd hefyd yn cyfrannu at Flwyddyn Diwylliant Wrecsam. Bydd cyfres o ddiwrnodau canu yng Nghaergybi, Caernarfon, yr Wyddgrug a Wrecsam. Bydd prosiect canu hefyd mewn dwy ysgol gynradd yn Wrecsam, a fydd yn cyrraedd ei uchafbwynt mewn Cyngerdd Cerddorfaol Ysgolion ym mis Mehefin 2011 yn Neuadd William Aston ym Mhrifysgol Glynd_r. Yn ystod y cyngerdd bydd y bobl ifanc yn y prosiect yn ymuno â Cherddorfa OCC ar y llwyfan i berfformio o flaen cynulleidfa o’u cyfoedion. Yn ystod 2011 hefyd bydd Cyngerdd Opera Pops gyda Cherddorfa OCC, Cyngerdd Pres a datganiadau gan gerddorion a chantorion OCC, yn ogystal ag ymarferiadau ar gyfer y perfformiad cyntaf erioed o Gair ar Gnawd yn y gwanwyn 2012. William Morgan, cyfieithydd cyntaf y Beibl i’r Gymraeg o’r Roeg a’r Hebraeg yn yr 16fed ganrif , sydd wedi ysbrydoli’r gwaith newydd. Bydd libreto Menna Elfyn yn canolbwyntio ar ddau brif gymeriad, sef cyfieithydd yn byw yng Nghymru heddiw sy’n brysur yn cyfieithu’r Beibl i nifer o ieithoedd eraill, a merch ifanc sy’n gweithio fel tat_ydd ac sy’n llythrennol yn troi’r gair yn gnawd drwy gyfrwng ei chelfyddyd o beintio ar y cnawd. “Mae opera’n gyfrwng gwych i adrodd storïau wrth gynulleidfa newydd, gan dynnu ar brofiadau sy’n helpu llunio’u bywydau,” meddai Rhian. “Rydyn ni am glywed y storïau hyn yn cael eu hadrodd yn Gymraeg ac yn Saesneg, felly bydd Gair ar Gnawd yn rhoi ar ganol y llwyfan ddigwyddiad allweddol yn hanes diwylliant Cymru sy’n dal yn berthnasol heddiw. Mae’r syniad o greu cymuned o gantorion yn y Gogledd i ymuno â ni mewn prosiectau yn y dyfodol yn un cyffrous iawn. Mae’n siwrnai a wnaed rhyngom ni a phobl o Gymoedd y De yn ein prosiect Caneuon Stryd yn ddiweddar. Daeth tua 2,700 o bobl i gymryd rhan yn ein gweithdai a’r perfformiadau yn ystod y tair blynedd pan fuom yn gweithio yn y Cymoedd. Cyrhaeddwyd cynulleidfa gyfan o 6,460 ar gyfer ein perfformiadau a’n cyngherddau, a gobeithiwn gael effaith fawr yn y Gogledd hefyd.” |
web site: www.wno.org.uk |
e-mail: |
Tuesday, November 16, 2010![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999