Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Wales Millennium Centre Young Company mewn partneriaeth â Big Talent School     

Wales Millennium Centre Young Company mewn partneriaeth â Big Talent School Dyddiau Sadwrn o 15 Ion - 2 Ebr (ac eithrio 19 a 26 Chwe) | 10-11.30am | 7-11 oed
Cwrdd wrth y Ddraig Arian | Y gost am 1 tymor (10 wythnos) yw £75

Mae’r Ganolfan yn dechrau prosiect newydd lle byddwn ni’n gweithio gyda pherfformwyr ifanc ac addawol trwy ein cwmni ieuenctid newydd.

Dan arweiniad Shelley Barrett-Norton a Leigh-Ann Regan, ac mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru, byddwn ni’n cynnal gwersi drama, dawns a chanu newydd sbon bob dydd Sadwrn i ddatblygu sgiliau a hyder darpar berfformwyr ifanc.

Athroniaeth Young Company yw cyflwyno hyfforddiant actio, canu a dawnsio o safon broffesiynol y West End, i sicrhau fod pob plentyn yn gallu meithrin sgiliau bywyd fel gwaith tîm, hyder, sgiliau cyfathrebu, gwneud ffrindiau a mwynhau eu hunain.

Bydd y gwersi gyd yn hwyliog a chynhwysol. Caiff y plant eu hannog i gyfarwyddo, creu coreograffi ac i drochi eu hunain yn y broses greadigol. Bydd y Ganolfan yn ganolbwynt creadigol sy’n cynnig cyfleoedd i aelodau ei theatr ieuenctid i ymgysylltu â chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â’n Cwmnïau Preswyl.

Trwy gyfrwng y Celfyddydau Perfformio, rydyn ni’n gobeithio creu sefyllfa lle bydd ein gwersi’n dod â grwpiau o bobl ifanc o bob cefndir at ei gilydd i gael hwyl a datblygu eu sgiliau creadigol a pherfformio.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni ar addysg@wmc.org.uk neu 029 2063 4632. Neu, os hoffech chi archebu lle ar y cwrs yma, ffoniwch ein Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464.
Canolfan y Mileniwm  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail: addysg@wmc.org.uk
Tuesday, December 7, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk