Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Yr Anrheg Nadolig Perffaith     

Yr Anrheg Nadolig Perffaith Methu meddwl am ba anrheg Nadolig i brynu i’r person anodd hynny yn eich bywyd? Wedi bod yn crafu’ch pen am anrheg gwahanol i’r arfer?

Beth am brynu taleb iddynt i weld sioe nesaf Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Deffro’r Gwanwyn’ a fydd yn teithio Cymru benbaladr yn ystod mis Mawrth a Ebrill 2011.

Cyfieithiad o’r sioe gerdd newydd ‘Spring Awakening’ yw ‘Deffro’r Gwanwyn’. Bu’r sioe yn llwyddiant mawr yn Llundain yn 2009 gan ennill cyfanswm o 4 gwobr Olivier – dau ohonynt i’r actorion o Gymru Aneurin Barnard a Iwan Rheon.

Bydd ‘Deffro’r Gwanwyn’, sydd a’r cast yn cynnwys Ffion Dafis, Dyfed Thomas, Aled Pedrick, Ellen Ceri Lloyd, Elain Lloyd, Elin Llwyd a Iddon Jones, yn cychwyn ar daith o amgylch Cymru ar 09 Mawrth 2011 gan ymweld â Chaerfyrddin, Caerdydd, Pontardawe, Aberaeron, Dolgellau, Llanrwst, Wrecsam a Biwmares.

Er mwyn prynu taleb fel anrheg Nadolig, cysylltwch gyda’r swyddfa docynnau leol (manylion isod) a gofynwch am daleb Nadolig Theatr Genedlaethol Cymru (ac eithrio Canolfan Mileniwm Cymru). I gyfnewid y daleb am docyn, yr oll fydd yn rhaid i’r sawl sydd yn ei dderbyn fel anrheg ei wneud yw cysylltu â’r swyddfa docynnau erbyn 28 Chwefror 2011.

Meddai Elin Williams, Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae gan bawb aelod o’r teulu neu ffrind sydd yn anodd prynu anrheg Nadolig iddynt, felly eleni am y tro cyntaf erioed, mae’r Theatr Genedlaethol wedi penderfynu cynnig taleb ar gyfer ein sioe nesaf ni ‘Deffro’r Gwanwyn’.

“Mae hi’n argoeli i fod yn noson o adloniant gwych gyda cherddorfa yn chwarae yn fyw gan gynnig croesdoriad diddorol o ddrama a chyngerdd roc.”



09 (*rhagwelediad) -11 Mawrth 2011
Caerfyrddin - Y Llwyfan, Heol y Coleg
0845 226 3510 (Theatrau Sir Gar yn gwerthu tocynnau)

15-16 Mawrth 2011 Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
08700 40 2000

22-23 Mawrth 2011 Canolfan Hamdden Pontardawe
01792 863722 (Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn gwerthu tocynnau)

25-26 Mawrth 2011 Canolfan Hamdden Syr Geraint Evans, Aberaeron
01239 621200 (Theatr Mwldan yn gwerthu tocynnau)

29 Mawrth - 01 Ebrill 2011 Canolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau
01341 421800 (Ty Siamas yn gwerthu tocynnau)

05-06 Ebrill 2011 Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy, Llanrwst
01492 642357 (Menter Iaith Conwy yn gwerthu tocynnau)

08-09 Ebrill 2011 Canolfan Hamdden Plas Madoc, Acrefair, Wrecsam
01978 293293 (Prifysgol Glyndwr yn gwerthu tocynnau)

12-15 Ebrill 2011 Canolfan Hamdden Biwmares, Ynys Mon
01248 382141 (PONTIO, Bangor yn gwerthu tocynnau)



Am fwy o fanylion, cysylltwch â Elin Williams, Rheolwr Marchnata ar 01267 245617
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Thursday, December 9, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk