Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

-RHAGBRAWF BALE CYFFROUS YN Y NEW THEATRE, CAERDYDD – 21 Chwefror     

-RHAGBRAWF BALE CYFFROUS YN Y NEW THEATRE, CAERDYDD – 21 Chwefror Bydd dydd Llun 21 Chwefror yn ddiwrnod cyffrous iawn i ddawnswyr ifanc ardal Caerdydd. Byddant yn gallu cael rhagbrawf i geisio cael lle unigryw i ddawnsio mewn cynhyrchiad bale proffesiynol llawn gyda'r English Youth Ballet (EYB). Mae cynhyrchiad hwyliog Coppelia yn hollol swynol ac yn cael ei arwain gan brif artistiaid rhyngwladol yn y New Theatre, Caerdydd ym mis Gorffennaf 2011.

Mae EYB yn gwmni bale gwahanol - hwn yw'r unig gwmni bale teithiol yn y DU sy'n meithrin ac arddangos doniau dros 100 o ddawnswyr lleol ifanc dethol (8-18 oed) yn ei rhaglen glasurol helaeth. Mae gan EYB saith prif artist proffesiynol rhyngwladol sy’n dawnsio’r prif rolau yn y bales cyflawn ac yn addysgu’r dawnswyr ifanc.

Athroniaeth English Youth Ballet yw datblygu celfyddyd ymysg y bobl ifanc drwy brofiad o berfformio. Erbyn hyn maen cyn fyfyrwyr yr EYB yn aelodau o rai o gwmnïau bale gorau'r byd gan gynnwys y Royal Ballet. Mae Beirniaid y Theatr, rhieni a myfyrwyr oll yn cytuno bod EYB yn gwmni arbennig iawn. Disgrifiodd Kim Chitty (BBC Nottingham) gynhyrchiad gan EYB fel "perfformiad anhygoel gyda dawnsio ysbrydoledig." Ysgrifennodd rhiant bod ei phlentyn “yn llawn brwdfrydedd bob dydd ar gyfer ymarferion. Rhoddodd hwb enfawr i’w hyder a dangosodd iddi'r byd llym a disgybledig sydd ynghlwm â bod yn ddawnsiwr.” Mae myfyrwyr yn aml yn siarad am y ffaith mai “EYB yw’r peth gorau y maent wedi'i wneud erioed".

I gael cyfle i gymryd rhan yn Coppelia gydag English Youth Ballet yn y New Theatre, Caerdydd bydd rhagbrawf ar 21 Chwefror 2011 yn y theatr. Bydd y cynhyrchiad yn cynnal 3 pherfformiad yn unig rhwng 29-30 Gorffennaf 2011. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu lle yn y rhagbrawf cysylltwch ag EYB neu ffoniwch 01689 856747 neu drwy e-bost: misslewis.english youthballet.co.uk neu ewch i wefan EYB: www.englishyouthballet.co.uk
 
web site
: www.englishyouthballet.co.uk

e-mail: misslewis.english youthballet.co.uk
Monday, December 13, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk