Theatr Genedlaethol ar gyfer pob tywydd
|
Mae'r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi canmol llwyddiant ein Theatr Genedlaethol Iaith Saesneg yn ei naw mis prysur cyntaf lle gwelwyd ei gwaith yn cael croeso mawr.
Wrth siarad ar ol ymweld a'r Weather Factory, un o brosiectau???r Theatr, ym Mhenygroes, ger Caernarfon neithiwr, dywedodd Mr Jones fod cwmni Theatr Genedlaethol Saesneg cyntaf Cymru yn cael blwyddyn gyntaf wych.
Roedd creu Cwmni Theatr Genedlaethol i Gymru yn un o ymrwymiadau ein rhaglen Cymru'n Un. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cymorth ariannol gwerth £3m i'r cwmni dros gyfnod o dair blynedd. Cyflwynodd y cwmni ei gynhyrchiad cyntaf ym mis Mawrth eleni.
Meddai'r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones: "Mae???r Weather Factory yn enghraifft wych o'r gwaith newydd ac arloesol y mae???r Theatr Genedlaethol Saesneg wedi bod yn ei wneud ers iddi ddechrau.
"Roedd croeso cynnes i raglen uchelgeisiol ei blwyddyn gyntaf ac mae'r adolygiadau wedi bod yn ffafriol iawn. Yn ddi-os, mae'n gwireddu ei hamcanion o ran datblygu a chyfoethogi theatr iaith Saesneg yng Nghymru.
"Mae'r ymrwymiad i greu theatr iaith Saesneg i Gymru yn rhan o raglen Cymru???n Un, sef rhaglen Llywodraeth y Cynulliad, felly dw i wrth fy modd o weld yr ymrwymiad hwn yn cael ei wireddu"
Meddai'r Cyfarwyddwr Artistig John McGrath: "Mae'r Theatr Genedlaethol Saesneg yn falch o gyflwyno ei nawfed cynhyrchiad mewn blwyddyn o gynhyrchu gwaith anghyffredin ledled Cymru. Fel pob un o'n prosiectau yn ein blwyddyn gyntaf, mae'r Weather Factory yn gynnyrch ei leoliad unigryw - y tro hwn ty ym Mhen-y-groes sy'n edrych draw tuag at yr Wyddfa. Unwaith eto, mae'r Theatr Genedlaethol yn dangos pa mor rhydd yw ei ffordd o weithio, a pha mor bwysig yw ymgysylltu a chymunedau lleol"
Y Weather Factory yw nawfed sioe y Theatr allan o'r 13 o brosiectau newydd fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn. Hyd yn hyn, mae'r Theatr wedi gweithio mewn 19 o leoliadau, a chyda 15 o gynghorau lleol, naw o gwmn??au eraill a naw o awduron.
Enillodd y cwmni wobr TMA eleni am y Dyluniad Theatr Gorau, ac yn ol y Guardian, mae'n gwmni sydd eisoes yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r theatr ym Mhrydain". |
web site: |
e-mail: |
Thursday, December 16, 2010 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999