Yn ystod y tri mis diwethaf, mae Sgript Cymru, cwmni ‘sgrifennu newydd cenedlaethol Cymru, wedi bod yn gweithio gyda phobl leol yn Abertawe fel rhan o’r cynllun Awduron Bro a gefnogwyd gan Gronfa Loteri Cyngor y Celfyddydau Cymru. O dan arweiniad y dramodydd addawol Clare Duffy, yn ogystal â thîm artistig Sgript Cymru, mae ysgrifenwyr lleol wedi bod yn gweithio’n rheolaidd yn Theatr y Grand, Abertawe ac yn Adran Addysg Barhaol ac Oedolion Prifysgol Abertawe. Cynhaliwyd sesiynau yn Gymraeg a Saesneg yng Ngholeg Caerfyrddin, Llanelli ac yng Ngholeg Gorseinon, Abertawe gyda’r ffocws yn bennaf ar bobl ifanc sy’n troi’i llaw at ysgrifennu drama lwyfan lawn , o bosib am y tro cyntaf. Wythnos yma, fe welir uchafbwynt y preswylfan yn Abertawe gyda digwyddiad yng Nghanolfan Dylan Thomas rhwng dydd Iau, Ionawr 17eg a dydd Sadwrn, Ionawr 19eg. Sgript Xplosure! yw’r chweched digwyddiad o’r bath a gynhaliwyd gan Sgript Cymru – gw^yl fechan o ddarlleniadau a gweithdai, o ddiddordeb i bawb sydd â’r brwdfrydedd i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Prif ffocws y Sgript Xplosure! hwn yw arddangos y gwaith a ddatblygwyd yn ystod y preswylfan. Caiff bobl leol y cyfle i weld a chlywed eu gwaith yn cael ei ddarllen a’i lwyfannu gan actorion proffesiynol a chyfarwyddwyr theatr profiadol mewn cyflwyniadau sgript-mewn-llaw arbennig. Hefyd, mae ysgrifenwyr ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun yn cael eu hannog i ysgrifennu nid yn unig i Sgript Cymru, ond hefyd i The Royal Court Theatre, Llundain, sy’n cynnal eu gw^yl Ysgrifenwyr Ifanc , a ddigwydd bob yn ail flwyddyn, yn Ebrill 2002. Mewn rhai achosion, fe gynigir y Sgript Xplosure! hwn y cyfle i weld gwaith dramodwyr ifanc cyn iddynt droedio llwyfannau y West End mewn ychydig fisoedd. Un o’r ysgrifenwyr i amlygu ei hunan yn ystod y cynllun hwn yw Tracy Harris o Dreforys, Abertawe. Fe greodd ei drama “Past Away” argraff mor ddofn ar dim artistig Sgript Cymru fel ei bod yn cael ei chyflwyno yn ei chyfanrwydd ar nos Wener, Ionawr 18fed am 8.30yh. Gyda gweledigaeth theatrig gref a llais personol cryf, mae’r ddrama yn edrych ar ddirywiad teulu ar farwolaeth y tad, ac fel y mae cystadlu rhywiol a thensiwn rhwng brodyr yn gosod y llwyfan ar gyfer y frwydr am y “gwirionedd”. Ar nos Sadwrn, Ionawr 19eg, gwelir Sgript Cymru yn cyflwyno “Leslie’s Electric Video” gan awdur ifanc arall, Rob Evans o Dredegar. Yn dechrau am 8yh, mae hon yn ffars direidus o ddigri , yn dangos sut mae pethau wedi newid i Leslie ers i’w chyn-gariad “lwyddo” fel y dyn tywydd diweddaraf ar y teledu, ers iddi ddechrau derbyn bygythion sy’n ymwneud a’r fideo amheus ‘na, a marwolaeth ei chi anwes Rex. Hefyd ar nos Sadwrn, 19eg , gwelir uchafbwynt gwaith y cyfarwyddwr cydnabyddedig, Firenza Guidi, gyda deg o ysgrifenwyr o dan y teitl: “TESTUN: PEN Y DAITH mewn PERFFORMIAD”. Mae Firenza wedi arloesi gyda ffordd newydd o ddatblygu ysgrifennu ar gyfer perfformiad, sy’n archwilio gwahanol ffurfiau ac arddulliau o ysgrifennu - monolog, rhyddiaith, naratif farddonol, barddoniaeth a rap – fel man cychwyn. Ceir perfformiad arloesol a meddylgar mewn gwahanol fannau yng Nghanolfan Dylan Thomas o 6yh. Mae’r prosiectau hyn ond yn rhan bach o ymrwymiad parhaol Sgript Cymru i ddatblygu yr ysgrifennu llwyfan cyfoes gorau yng Nghymru trwy ddarganfod lleisiau ffres ac unigryw o ystod eang o ffynonellau ar hyd a lled Cymru Am wybodaeth bellach am Sgript Xplosure! 6 ac am waith Sgript Cymru yn gyffredinol, cysylltwch a Bill Hopkinson, Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru ar 029 2023 6650. |
Sgript Cymru web site: |
Bill Hopkinson, Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru e-mail: |
Tuesday, January 8, 2002![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999