Mae cyfle yn bod yn awr i greu Theatr Gymraeg ar gyfer Cymru gyfan, wedi blynyddoedd o ddisgwyl. Dyna neges glir a digamsyniol Cymdeithas Theatr Cymru wrth Gyngor Celfyddydau Cymru. "Credwn yn gryf bod cyfle yn bod yn awr i greu y math o gorff cenedlaethol sydd ei angen ar y theatr yng Nghymru," meddai Huw Roberts, Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Theatr Cymru, yn rhifyn y Gwanwyn o 'Galwad', cylchlythyr aelodau'r Gymdeithas. "Mae angen creu Theatr Gymraeg ar gyfer Cymru gyfan, corff cynhwysol fydd yn agored i bob talent gyda lle blaenllaw i bobol ieuanc ac i'w hyfforddiant, ac un fydd yn cydweithio yn agos â chyrff eraill sy'n hyrwyddo defnydd o'r iaith Gymraeg ym mhob rhan o'r wlad." Ychwanegodd y dylai'r corff newydd gadw cysylltiad agos â'r sector wirfoddol, yn ogystal â hyrwyddo cysylltiadau agos â sefydliadau theatr ieithoedd lleiafrifol eraill sy'n ffynnu ar gyfandir Ewrop. Yn yr un rhifyn o 'Galwad', ceir datganiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru ynglyn â'i gynlluniau ar gyfer sefydlu Theatr yn yr Iaith Gymraeg. "Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cytuno i sefydlu cwmni comisiynu ar gyfer datblygu'r gwaith a wnaed eisoes i ddatblygu Cwmni Theatr yn yr Iaith Gymraeg. Rydym yn bwriadu defnyddio £250,000 sydd wedi'i glustnodi o gyllideb 2002-2003 i ddechrau'r broses hon," meddai Sandra Wynne, Uwch Swyddog Datblygu Celf - Drama. Defnyddir yr arian yma tuag at lwyfannu dau gynhyrchiad ar gost o £100,000 yr un yn ystod 2003, gyda £50,000 wedi ei roi i'r naill ochr i ariannu costau sefydlu'r cwmni comisiynu. Ychwanegodd y bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn sefydlu pwyllgor llywio a fydd yn cynnwys ystod eang o bobl ledled Cymru sydd â gwybodaeth arbenigol am y maes. Pwysleisiodd mai man cychwyn yn unig yw'r cynlluniau hyn ar gyfer sefydlu Theatr yn yr Iaith Gymraeg, a mae gofyn sicrhau buddsoddiad sylweddol o 2003-04 ymlaen. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ar fin dechrau trafodaethau helaeth gyda theatrau, awdurdodau lleol a chyrff eraill sydd â diddordeb yn natblygu'r cwmni newydd. "Mae Cymdeithas Theatr Cymru yn edrych ymlaen at gyfrannu'n llawn i'r broses hon, ac mae'n benderfynol o weld sefydlu'r math o gorff cenedlaethol sydd ei angen y tro hwn wedi rhwystredigaethau'r blynyddoedd diwethaf," ychwanegodd Huw Roberts. ____________________________________________________________ Cyswllt: Geraint Wyn Parry, Ysgrifennydd Cymdeithas Theatr Cymru - 07747 033756 Gellir cysylltu â Huw Roberts ar 01758 612108; a Phennaeth Cyfathrebu Cyngor Celfyddydau Cymru ar 029 20 376500. Cymdeithas Theatr Cymru yw'r gymdeithas genedlaethol o garedigion theatr yn yr iaith Gymraeg. Fe'i sefydlwyd yn 1967 gan Wilbert Lloyd Roberts. Mae'n gymdeithas wirfoddol nad yw'n derbyn na grant na chymorthdal o'r un ffynhonnell tuag at ei chynnal. Mae'n llais i'r gynulleidfa ac yn cynrychioli ei diddordebau; gyda aelodau o bob cwr o Gymru. Mae aelodau yn derbyn y cylchlythyr, 'Galwad' a Thocynnau Mantais. Cyhoedda'r gyfres achlysurol, 'Astudiaethau Theatr Cymru'. |
Cymdeithas Theatr Cymru web site: |
Geraint Wyn Parry e-mail: theatr.cymru@talk21.com |
Tuesday, April 23, 2002![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999