Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Beirniadaeth Jeremy Turner a draddodwyd yn ystod Seremoni'r Fedal Ddrama     

Beirniadaeth a draddodwyd yn ystod Seremoni'r Fedal Ddrama, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro, 2002.

I ddechrau, hoffwn ddiolch, ar ran fy nghydfeirniad, Huw Garmon, a minnau, i bob cystadleuydd yn y gystadleuaeth hon eleni - am ei gwaith, am eu syniadau ac, i raddau helaeth, am eu gwreiddioldeb. Dyma'r ail flwyddyn yn olynnol imi feirniadu'r gystadleuaeth hon; roedd y cynnyrch y llynedd yn dda; eleni mae'r cynnyrch gystal os nad yn well.

Cafwyd wyth ymgais yn y gystadleuaeth a dwi am sôn yn fras iawn am bob un ohonynt.

Mae Atalnod Llawn gan LENI yn ymgais at ddychanu a lambastio meddylfryd arwynebol honedig 'byd y cyfryngau'. Yn anffodus mae sefyllfa a gofynion theatraidd y ddrama yn anymarferol ac mae'r cymeriadau braidd yn rhy unochrog.

Yn Calon, Enaid a Ddychymyg gan CALON, ENAID A DYCHYMYG cafwyd dynwarediad comic o ddrama sefyllfa felodramataidd yn ymdrin â'r ffordd mae ffasiwn a harddwch yn cael eu hystyried yn bwysicach na dawn. Mae llawer o botensial comic yn y ddrama hon ond teimlwn ni'n dau nad yw hi'n agos at fod yn orffenedig.

Er gwaethaf eu cryfderau mae gan y ddwy ddrama ddiwethaf 'ma lawer o anghysondebau. Ond, o'u hail-ysgrifennu gellid creu dwy ddrama werth eu llwyfannu.

Anodd iawn oedd clorianu'r chwech uchaf a cafodd Huw Garmon, fy nghydfeirniad, a minnau sgyrsiau difyr iawn wrth drafod a cheisio didoli'r chwech. I gyffredinoli am eiliad, diddorol yw sylwi bod elfen gref o ymchwiliad seicolegol yn rhan bwysig, i raddau fwy neu lai, o bob un o'r dramáu a hynny, weithiau, ar draul unrhyw naratif na datblygiad dramatig.

Ond nid yw hynny'n wir am Plant Alis gan CESAIL CAMAL. Yn Plant Alis ceir drama boliticaidd, gan droi hanes boddi Cwm Tryweryn ar ei phen i ddangos un o brotestwyr hen ddinas Lerpwl yn cwyno bod gwlad 'bwerus' Cymru wedi boddi'r ddinas i greu cronfa ddðr. Gwelir y brotestwraig o Saesnes yn cwrdd, mewn cell mewn gorsaf heddlu, â hanes Cymraes a garcharwyd oherwydd iddi ladd cyn-gariad. Gwrthgyferbynnir stori'r ddwy - gan ein rhybuddio, efallai, fod protest ac hunan-amddiffyniad, weithiau, yn arwain at drais gwaedlyd.

Mae Babi Mam gan MAGI yn stori fer o ddrama - am ferch ifanc yn dioddef iselder ysbryd wedi i'w babi farw. Mae'r distawrwydd a ddaw wedi'r marwolaeth yn drech na'r ferch ac fe'i gwelir fel carcharor seicolegol, bron, yn ei chartef ei hun. Tri chymeriad sydd yn y ddrama - y ferch, Kate, cymdoges a mam Kate. Ond drama un person, Kate, yw hi i bob pwrpas gan fod y ddau gymeriad arall yn ymddangos yn unochrog (os nad yn gartwnaidd yn achos y gymdoges) o'u cymharu â dyfnder y prif gymeriad. Mae'r monologau a'r ddeialog yn dda a'r iaith yn goeth iawn. Gwyr yr awdures sut i greu cymeriad; gresyn nad aeth ymhellach yn ei gwaith trwy ymhelaethu ar y ddau gymeriad arall er mwyn creu drama lawnach a mwy cytbwys.

Mae Chwalu Cregyn gan CATH DDU ANLWCUS yn ddrama fentrus iawn ag iddi weledigaeth amgenach na’r rhelyw. Mae’r awdur yn ceisio creu sefyllfa newydd yn hytrach nag ail-greu ar lwyfan sefyllfa gyfarwydd. Dyma griw o fyfyrwyr yn herio ac adlonni’i gilydd wrth iddynt fynd am bicnic traeth yng nghanol y gaeaf - y fath o antur mae nifer o fyfyrwyr yn cuddio oddi wrth eu rhieni mae'n siwr. Ceir cyfuniad da o stori a seicoleg yn y ffordd y mae’r unigolion y trin ei gilydd, yn dwyn perswâd ar ei gilydd ac, yn y pen draw, yn peryglu bywydau ei gilydd. Mae iaith lafar deialog y cymeriadau yn realistig o lafar ac yn safonol ar yr un pryd - er, weithiau, braidd yn anodd i‘w darllen. Mae sefyllfa’r ddrama yn un anodd i’w llwyfannu yn y theatr, gyda llanw’r môr yn rhan anhepgor o’r stori ond byddai cyfarwyddydd a chynllunydd da yn medru goresgyn y broblem yna. Gyda rhywfaint mwy o waith ar y sgript, byddai hon yn gwneud ffilm fer ddifyr iawn.

Mae Darn Du gan MWNCI MWYN yn ddrama soffistigedig iawn - yn ei strwythur ac yn ei chynnwys. Yn yn ddrama hon gwelwn ddyn a dynes, nad ydynt yn adnabod ei gilydd, yn edmygu llun du mewn oriel gelf. Wrth iddyn nhw sgwrsio, clywir a gwelir eu gêmau seicolegol wrth iddynt bryfocio ac themtio ei gilydd mewn ffordd gynnil o rhywiol.
Mae cynildeb yn un o brif rinweddau’r ddrama. Mae’r gynulleidfa yn dysgu llawer gan yr hyn nas dywedir a byddai angen actorion profiadol a meistrolgar i werthfawrogi a defnyddio’r cynildeb yn iawn; yn wir byddai chwarae GWYNDAF neu INDEG yn bleser i unrhyw actor neu actores.
Prif wendid y ddrama, fodd bynnag, yw ei diweddglo lle ceir rhyw athronyddu gor-daclus i gloi’r cyfanwaith; gwell yn fy marn i byddai creu diweddglo a anogai'r gynulleidfa i gredu bod dyfodol i’r cymeriadau wedi’r ddrama ac i ddyfalu beth fyddai’n digwydd iddynt - a rhyngddynt. Mae hon werth ei llwyfanu!

Yr un mor gryf ei hapel yw Troi'r Cloc yn Nôl gan HOGAN WIRION.
Mae awdures y ddrama hon yn deall theatricalrwydd. Ni ddibynna ar ystydebau teleduol ac mae ganddi'r gallu i greu ac i awgrymu llawer gan ddefnyddio dim ond ychydig iawn. Mae stori'r ddrama yn un erchyll: merch ifanc mewn ysbyty meddwl neu garchar oherwydd iddi lofruddio ei mam a hynny er mwyn dial ar ei thad a fu'n ei chamdrin pan oedd hi'n blentyn. Yn anffodus, er gwaethaf cryfder seicolegol y ddrama teimlaf ei bod yn aros yn yr un lle ac ar yr un un lefel heb ein harwain fel cynulleidfa at unrhyw droeon annisgwyl na thrwy unrhyw ddatblygiad dramatig. Mae'r ddrama yn un dda; gyda mwy o waith - a'r awdures yn herio'i hun i droedio tiroedd newydd - gallai fod yn wych.

Mae Rhannu gan JACSWT POSYMS DAVY CROCKETT yn ddrama sefyllfa: criw o fyfyrwyr mewn fflat, y berthynas rhyngddynt, eu bywydau cymdeithasol a charwriaethol, eu gobeithion, a'u siomedigaethau. Un o gryfderau'r ddrama yw'r ffaith ei bod yn cyfuno doniolwch a rhyw dristwch abswrd. Mae'r cymeriadau'n gwbl gredadwy; mae'r iaith yn naturiol ac yn safonol yr un pryd ac mae'r ddeialog yn llifo yn afaelgar o rwydd.
Nid yw'r tro ar ddiwedd y ddrama yn annisgwyl - pan gedy un o'r bechgyn ei gariad, er mwyn dechrau perthynas newydd; yn wir gellir dyfalu'r diweddglo yma ymhell cyn y diwedd. Ond o ran cydbwysedd rhwng naratif dramatig, cymeriadau crwn a'r berthynas rhyngddynt, a sefyllfa gref mae hon yn ddrama orffenedig sydd yn cyrraedd ei photensial.

**************

Mae darllen cynifer o ddramau da a dramau sydd â llawer o botensial yn galondid mawr i mi fel cyfarwyddydd theatr sydd yn chwilio o hyd am sgriptiau newydd. Tristwch y sefyllfa, wrth gwrs, yw ei fod yn anhebygol y llwyfennir rhan fwya'r dramáu hyn; ac mae unrhyw ddrama nas perfformir yn ddrama anorffenedig.
Y llynedd gwnaed cais i Gyngor Celfyddydau Cymru am nawdd i lwyfannu dwy o'r dramáu a enillodd y gystadleuaeth hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn anffoddus, penderfynnodd swyddogion ac 'arbenigwyr' Cyngor Y Celfyddydau nad oedd y syniad o lwyfannu'r dramau yn ddigon cyffrous. Pe bydden nhw wedi mynd i'r trafferth o'u darllen byddent wedi deall yn wahanol. Dylai Cyngor y Celfyddydau, y cwmniau theatr a theledu, a'r Urdd roi mwy o ystyriaeth i bwysigrwydd y gystadleuaeth hon er mwyn sicrhau modd i gynulleidfaoedd eang fwynhau'r cynnyrch gwych a geir.

**************

A rhag ofn eich bod chi heb ddyfalu, dyma'r dyfarniad:
Yn drydydd mae Chwalu Cregyn gan CATH DDU LWCUS.
Yn gydradd ail mae Darn Du gan MWNCI MWYN a
Troi'r Cloc yn Nol gan HOGAN WIRION
Ac yn gyntaf mae Rhannu gan JACSWT POSYMS DAVY CROCKETT

Jeremy Turner, Mehefin 2002

Jeremy Turner  
web site
:
Jeremy Turner
e-mail:
Wednesday, June 12, 2002back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk