Yn ddiweddar rhoddwyd De Korea ar lwyfan byd-eang wrth iddynt gyd-gynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd, a chael llwyddiant anhygoel yn y gystadleuaeth honno. Ond ym mis Gorffennaf eleni fe fydd criw o bobl o Gymru yn teithio i Dde Korea i geisio denu gŵyl byd eang i Gymru yn y flwyddyn 2005. Mae cynhadledd a chyngres ASSITEJ (Association International du Théâtre pour l’Enfance et la Jeunesse) yn ŵyl wythnos o hyd sy’n hybu theatr i blant a phobl ifanc. Mae’r corff yn cysylltu miloedd o theatrau, sefydliadau ac unigolion trwy canolfannau cenedlaethol mewn dros 70 o wledydd, ac yn dathlu ac yn trafod pynciau amrywiol mewn gŵyl liwgar ac amrywiol bob tair mlynedd. Mae’r ŵyl arbennig hon eisoes wedi ymweld â Chiwba a Norwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyn teithio i Seoul eleni. Prif nod y trip i’r Cymry sy’n mynd yw i geisio denu’r ŵyl bwysig hon i Aberystwyth yn 2005. Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch, Jeremy Turner yw’r sbardun y tu ôl i’r ymgyrch arbennig hon. Dywed Jeremy, sydd wedi ymweld â’r ŵyl o’r blaen “Mae hyn yn gyfle gwych i ni ddod a’r gorau o theatr y byd i Gymru. Nid yw’r ŵyl erioed wedi ymweld a unrhyw un o wledydd Prydain o’r blaen, ac mae’n gyfle i ddangos i weddill y byd yr hyn sydd gennym yng Nghymru.” Yn teithio gyda Jeremy i gynorthwyo gyda’r ymgyrch fe fydd Peter Tyndall, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, a Kate Woodward, Swyddog Marchnata a Chyhoeddusrwydd Arad Goch. Mae Jenny Randerson, y Weinidog ar gyfer Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Iaith Gymraeg yn y Cynulliad Genedlaethol hefyd yn cefnogi’r ymgyrch hon. Thema’r ŵyl eleni yw ‘Theatr a Thechnoleg’, ac o ganlyniad mae drama heriol o Gymru wedi cael gwahoddiad i’r ŵyl. Mae cwmni ‘Y Gymraes’ yn mynd a drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cyffiniau i Gorea. Fe fydd ‘Mab’, gan Sêra Moore Williams, yn gweddu i’r dim gan ei fod yn gwthio ffiniau theatr wrth asio technoleg a drama. Cynhelir yr ŵyl rhwng dydd Sadwrn yr 20fed o Orffennaf tan ddydd Sul yr 28ain o Orffennaf yn Seoul, De Korea. |
Arad Goch web site: |
Kate Woodward e-mail: kate@aradgoch.org |
Tuesday, July 2, 2002![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999