Rhan gyntaf yw'r cyhoeddiad hwn o ymdrech arbennig gan Gyngor Celfyddydau Cymru i roi bywyd newydd yn y Theatr Gymraeg, Yn dilyn gwahoddiad am gynigion, cyflwynwyd ceisiadau gan saith cwmni a dewisodd y Cyngor y cwmnïau canlynol i lwyfannu eu perfformiadau yn 2003: Bydd Script Cymru yn cynhyrchu fersiwn llwyfan o Amdani, drama gyda cherddoriaeth a chaneuon sy'n deillio o nofel a chyfres deledu lwyddiannus Bethan Gwanas. Mae'r sioe yn seiliedig ar stori am dïm rygbi merched. Y cyfarwyddwr a enwyd ar gyfer y prosiect yw Tim Baker, Cyd-Gyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru. Yn ddiweddar cyfarwyddodd To Kill a Mockingbird a bu'n gyfrifol am addasiadau llwyfan o drioleg Rape of the Fair Country, sy'n seiliedig ar nofelau Alexander Cordell. Bydd Theatr Gwynedd yn darparu cynhyrchiad prif lwyfan o Dan y Wenallt, yn seiliedig ar Under Milk Wood gan Dylan Thomas. Bydd y cynhyrchiad yn cydredeg â dathliadau i goffáu hanner canrif ers marwolaeth y bardd. Bydd y cynhyrchiad yn teithio i ganolfannau prif lwyfan ledled Cymru yn ystod 2003. Mesur tymor byr yw'r ddau gynhyrchiad hwn tra bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn sefydlu Cwmni Theatr Cenedlaethol Cymraeg. Cwmni cynhyrchu annibynnol fydd hwn gydag arweinydd artistig i gynllunio rhaglen o gynyrchiadau fydd yn cynnig arddull theatr cyffrous a chyfoes, fydd ag ystyr a pherthnasedd iddo ond fydd, yn ogystal, yn ddigon hyblyg i gystadlu'n llwyddiannus â chyfryngau eraill. Bydd hyn yn golygu manteisio ar y repertoire llenyddol arferol ac ar gomisiynu gwaith newydd. Dywed Sybil Crouch, Cadeirydd CCC: "Roedd safon y cynigion dderbyniwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn arbennig o uchel ac yn argoeli'n dda am ddyfodol y Theatr Gymraeg. Gyda'r arian oedd ar gael, dim ond dau gynhyrchiad y gellid eu llwyfannu y flwyddyn nesaf ond gan fod safon y ceisiadau eraill mor uchel byddwn yn eu pasio ymlaen i Theatr Genedlaethol Cymru pan sefydlir hi. "Ein gobaith yw mai dyma'r cam cyntaf yn y dasg o roi bywyd newydd yn y Theatr Gymraeg - rhywbeth yr oedd gwir angen amdano." |
Arts Council of Wales web site: www.artswales.org.uk |
e-mail: |
Friday, July 12, 2002![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999