"Ni ddim moyn gweld Mr Sentimental, na Mrs Emosiynol ar y penwythnos hyn. Mewn, mas, fel 'bank job'...Ma' pob siort yn mynd ar y cyrsie 'sgwennu hyn. Wannabes." Mae cwmni teledu Hywel Owen yn joc, a'i ddyfodol yn y fantol. Wrth i storm o eira chwyrlio y tu allan i westy'r Sea View, ceisia Hywel a Menna ei wraig achub eu crwyn drwy gynnal dosbarth penwythnos o 'sgrifennu comedi. Yr unig ddwy i lafurio drwy'r eira ydy Hannah, nyrs yng Nhalngwili a thalent stand-yp tanllyd, a Nicola, ymchwilydd o'r blaid Lafur sydd angen gwersi gwenu. Pan fo cynllun dan-din yn cael ei ddateglu, pwy fydd yn elwa? Comedi gyfoes am rym a dosbarth yw drama gomisiwn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan Geraint Lewis, awdur Y Cinio, Y Groesffordd (Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr 1996), The Language of Heaven a Meindiwch Eich Busnes. Dosbarth yw ei ail ddrama i Sgript Cymru, yn dilyn Ysbryd Beca, a deithiodd Cymru yn Hydref 2001. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym mis Mai 2002, sef X (Gwasg Carreg Gwalch). Cyfarwyddwr "Dosbarth" fydd Elen Bowman, a'i haddysgwyd yn RADA. Ffurfiodd gwmni or enw Living Pictures yn Llundain a chyfarwyddo cyfieithiadau newydd o 'Andromache' gan Euripedes a 'The Nest' gan Franz Xaver Kroetz. Erbyn hyn mae Elen yn Gyfarwyddwr Cyswllt Sgript Cymru. Bydd hi'n noson o ddatguddiadau a hwyl yng nghwmni cymeriadau doniol a'r actorion poblogaidd Rebecca Harries, Sara Lloyd, Jonathan Nefydd a Ffion Wilkins yn y cast. Am docynnau i weld y cymeriadau (£8.50 yr un) dylir cysylltu a Swyddfa'r Eisteddfod ar 0845 1221176. |
Sgript Cymru web site: |
Mai Jones e-mail: dalsylw@globalnet.co.uk |
Tuesday, July 30, 2002![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999