Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Belshazzar's Feast     

Cyfle i 120 o gantorion cymuned ganu gyda Chorws a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru dan arweiniad Carlo Rizzi.

Mae Belshazzar’s Feast gan William Walton yn ddarn dramatig ac urddasol o gerddoriaeth gorawl.

Bydd perfformiadau ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sadwrn 26 Mai a dydd Sul 3 Mehefin 2007 ac yn y Birmingham Hippodrome ar Mehefin 23 2007.

Bydd angen i chi:
Fod yn 16 neu’n hyn
Gallu dod i glyweliad, lle gofynnir i chi ganu cân o’ch dewis chi gyda chyfeiliant piano – yn naill ai Ionawr neu Chwefror 2007
Lefel uchel o ymrwymiad a gallu dod i ymarferion nos Fawrth a dydd Sul drwy gydol Mawrth, Ebrill a Mai 2007-01-22
Bod ar gael ar gyfer y perfformiadau

FEAST
Mae hwn yn gyfle gwych i fwynhau’r wefr o ganu mewn côr mawr o hyd at 200 o leisiau mewn cytgord gwych ac ar safon uchel. Bydd Feast yn brofiad llawen, hwyliog a theimladwy.

Er y bydd cerddoriaeth yn cael ei darparu, does dim angen gallu darllen cerddoriaeth. Byddwch yn dysgu o’r glust. Bydd y caneuon mewn tri llais yn bennaf o draddodiad gwerin hardd Georgia yn y Mynyddoedd Caucus.

Bydd angen i chi:
Fod yn hoff o ganu
Bod yn frwdfrydig
Bod yn 16 oed neu’n hyn, neu dros 10 oed gyda oedolyn yn goruwchwylio
Dod i sesiwn flasu ar Chwefror yr 2il neu’r 3ydd.
Bod ar gael ar gyfer ymarferion ambell dydd Mercher, ddydd Iau a dydd Sadwrn o ddiwedd Chwefror tan y perfformaid bydd yn y Lanfa, cyntedd hardd Canolfan y Mileniwm ar ddydd Sul 3 Mehefin 2007.
FFONIWCH RHIAN NEU CARYS I GOFRESTRU
AR 029 20 635 064
Opera Genedlaethol Cymru  
web site
: www.wno.org.uk

e-mail:
Monday, January 22, 2007back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk