![]() Mae'r perfformiad cyntaf i ymddangos o dan faner Tainted Love yn cynnwys Matilda Leyser yn Life, Line & Deadpoint ddydd Mercher 14 Mawrth, sy'n cynnwys cyfuniad o dechnegau dramatig a syrcas i greu perfformiad cyfoes pwerus. Mae'r perfformiad awyrol hwn yn cyfuno theatr awyrol a thechnegau syrcas sy'n apelio at amrywiaeth eang a gwahanol o gynulleidfaoedd. Nesaf bydd Sex with Pete Searles (17eg Mawrth), a berfformiwyd yng Ng_yl Ymylol Caeredin yn 2005. Ceisiwch chwalu unrhyw ddelweddau o hen ddyn brwnt mewn hen got law, wrth i'r storïwr comedi dawnus fynd â'r gynulleidfa ar daith ddigrif drwy ei fywyd rhywiol hyd yma, mewn comedi sy'n rhannol yn sioe perfformio, yn rhannol yn adrodd stori ac yn rhannol yn gomedi corfforol gwych, gyda'r perfformiad yn ennill Gwobr Uchafbwynt Hairline 2005. Yn dilyn eu perfformiad gwych o Get Carter y llynnedd, daw Cwmni Theatr Red Shift yn ôl ar 21 Mawrth gyda drama newydd; Vertigo ac ailadroddiad llenyddol o glasur seicolegol, cyffrous Hitchcock sy'n neidio o un genre i'r llall. Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys diwedd cystal â The Usual Suspects. Mae Red Shift yn defnyddio nofel wreiddiol Vertigo, gan osod y ddrama yn erbyn cefndir ymosodiad yr Almaen ar Baris yn y 1940au. Y nesaf i ymddangos yn Stiwdio Weston yw sioe un-fenyw wych gyda Lizzie Roper (23 Mawrth), a enwebwyd ar gyfer Sioe Unigol Orau yng Ngwobrau Llwyfan ar gyfer Rhagoriaeth Actio. Mae Peccadillo Circus yn archwilio obsesiynau, ffetisiau a chyfrinachau mwyaf drygionus y genedl drwy gyfweliadau dadlennol. Mae Lizzie Roper, yn syth o'i rôl yng nghynhyrchiad y West End o One Flew over the Cuckoo's Nest, yn datgelu cymeriadau o fywyd go iawn, pob un ohonynt ag agwedd wahanol tuag at ryw. Mae Vincent Dance Theatre yn cyflwyno Punch Drunk ddydd Mercher 28 Mawrth i ddathlu eu degfed penblwydd. Mae'n cynnwys cast o sioeferched deniadol a dynion digywilydd yn perfformio sioe amrywiol egsotig sy'n cynnwys dawnsfeydd beiddgar, campau acrobatig a throeon clyfar. Gan lithro i mewn ac allan o frithgof actau, maent yn cyfannu carpiau sioe sydd ymhell y tu hwnt i'w gorau. Mae'n cynnig cyfuniad gwreiddiol o theatr ddawns, meim, cerddoriaeth a syrcas. Mae cwmni cyfoes Brighton Voodoo Vaudeville yn cyflwyno Skin of the Moon i Stiwdio Weston ar 30 Mawrth. Bydd cast serol o bump yn canu ac yn dawnsio'u ffordd ar daith drwy amser o gariad gwaharddedig mewn cyfuniad syfrdanol a rhywiol o theatr theatr, comedi a ffilm vaudeville. Daw prif ddawnswyr tango'r DU, Marie a Giraldo, a'r pedwarawd Tango Siempre, â Subitango i Stiwdio Weston ar 5 Ebrill. Mae Subitango yn dangos hanes a datblygiad Tango Argentina gyda cherddoriaeth fyw wedi'i chyfuno â choreograffiaeth syfrdanol. Mae'r gerddoriaeth yn cwmpasu pob cyfnod ac arddull o Tango Argentina, o dangos clasurol, milongas a valses i ddarnau cyfoes. Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cysylltwch â'r Swyddfa Tocynnau a Gwybodaeth ar 08700 40 2000 neu edrychwch ar y wybodaeth a'r system e-archebu ddiogel yn www.wmc.org.uk |
canolfan y mileniwm web site: www.wmc.org.uk |
e-mail: |
Tuesday, February 20, 2007![]() |
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999