![]() Mae Maes Terfyn, gan y bardd a’r gantores Gwyneth Glyn, yn dilyn hanes merch fusnes ifanc o Lundain sy’n dychwelyd i Gymru i loywi ei Chymraeg. Mae Maes Terfyn yn gorwynt emosiynol, sy’n defnyddio gwleidyddiaeth Gymreig fel cefnlen i’r stori, sy’n cynnwys cynllun dadleuol i ehangu’r marina lleol. Dan gyfarwyddiad Arwel Gruffydd, a chyda Sêra Cracroft, Huw Garmon, Lauren Phillips a Dora Jones yn perfformio, bydd Maes Terfyn yn clustnodi cam cyffrous yng ngyrfa Gwyneth Glyn fel dramodydd. Ys dywed Gwyneth: “Syniad digon syml sydd du ôl i Faes Terfyn, ond diolch i fuddsoddiad amser ac amynedd Arwel, tyfodd y syniad hwnnw, a bwrw gwreiddyn emosiynol a gwleidyddol go ddwfn yn fy nghalon. Mae'r ddrama'n ymchwilio i berthynas iaith, gwleidyddiaeth a chariad, a'r hyn sy'n digwydd pan fo'r elfennau yma yn gwrthdaro rhwng pobol, ac o fewn unigolyn. Dwi'n edrych ymlaen yn arw i fwynhau'r cyfanwaith, ac yn gobeithio y bydd y cynulleidfaoedd yn heidio i weld y cast bendigedig yma yn mynd i'r afael a'r ddrama.” Maes Terfyn fydd cynhyrchiad cyntaf mewnol y cwmni a ffurfiwyd wedi uniad Sgript Cymru a Chwmni Theatr y Sherman – cwmni a gafodd ei enwi’n Sherman Cymru yn ddiweddar. Dywed Rheolwr Llenyddol newydd Sherman Cymru, Sian Summers: “Mae hyn yn gyfnod cyffrous i Sherman Cymru ac i’r theatr yng Nghymru. Rydym ni’n falch iawn o gyflwyno Maes Terfyn fel cynhyrchiad cyntaf y cwmni newydd dwyieithog hwn.” Bydd Maes Terfyn yn agor yn Theatr y Sherman ar 19 – 22 Medi cyn cychwyn ar daith ledled Cymru yn ystod Medi a Hydref – ewch i www.shermantheatre.co.uk am fanylion y daith. Dyddiadau’r Daith FELINFACH: Theatr Felinfach 25 - 26 Medi 01570 470697 BANGOR: Theatr Gwynedd 28 - 29 Medi 01248 351708 PWLLHELI: Neuadd Dwyfor 2 - 3 Hydref 01758 704088 HARLECH: Theatr Harlech 5 Hydref 01766 780667 ABERTAWE: Theatr y Grand 9 - 10 Hydref 01792 475715 ABERYSTWYTH: Canolfan y Celfyddydau 13 Hydref 01970 623232 |
Sherman Cymru web site: www.shermantheatre.co.uk |
e-mail: |
Wednesday, September 5, 2007![]() |
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999