Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Gwahaniaeth Diwrnod     

Gwahaniaeth Diwrnod Mae pumdeg a pum aelod Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2010 yn preswylio yn Aberystwyth ar hyn o bryd - yn gweithio rhwng y Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau - i greu, ymarfer a lansio eu cynhyrchiad am 2010, Diwrnod Heb Ei Debyg / No Other Day Like Today, cyn cychwyn ar daith i Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug a Glan yr Afon, Casnewydd.

Mae ThCIC yn gyffrous iawn am y cynhyrchiad eleni gan ei fod yn llwyfannu gwaith newydd sbon a ysgrifennwyd gan bobl ifanc. Canlyniad gwaith sawl penwythnos gydag Awduron Ifanc ThCIC yw Diwrnod Heb Ei Debyg. Cyfrannodd yr awduron ifanc eu lleisiau, syniadau, dyheadau a'u breuddwydion er mwyn cynhyrchu sgript fydd yn gryn her i aelodau ThCIC 2010. Gyda chefnogaeth yr awdur gwobrwyol, Manon Eames, a'r cyfarwyddwr gwobrwyol, Tim Baker, mae'r ddrama newydd hon yn mynd â'r gynulleidfa ar daith drwy bedair awr ar hugain ym mywyd tref gyffredin yng Nghymru, yn yr haf 2010, trwy lygaid pobl ifanc.

“Ers i mi gymryd swydd fel Cyfarwyddwr Artistig ThCIC yn 2008, bu'n ddymuniad brwd gennyf gael clywed lleisiau'n pobl ifanc ar ein llwyfan genedlaethol. Eleni, cafodd y freuddwyd honno'i gwireddu diolch i waith anhygoel ein Hawduron Ifanc”
Tim Baker, Cyfarwyddwr Artistig ThCIC

“Giving young people a voice through such a brilliant voicebox as theatre is inspiring”
Awdur Ifanc ThCIC

Mae'n rhaid i drigolion dychmygol pentref dychmygol Llanhynallallacarall - y breuddwydwyr, y cynllwynwyr, y chwerw, yr hynaws, y rhai dan warchae a'r rhai cwbl wallgo' - gyrraedd diwedd un dydd Gwener penodol yn yr haf, rhywsut neu'i gilydd.

Gyda chefnogaeth tîm artistig proffesiynol o bymtheg aelod, mae actorion y Theatr Ieuenctid yn datblygu eu sgiliau perfformio, tra bod aelodau'r tîm cefn llwyfan yn mireinio eu sgiliau dylunio a chynhyrchu. Gyda'i gilydd, maent yn llunio cynhyrchiad, uchelgeisiol arall ar raddfa fawr a fydd, yn ôl gwir draddodiad ThCIC, yn hoelio sylw, yn hysbysu ac yn difyrru cynulleidfaoedd.

“The dedication and enthusiasm of our young people is second to none; they rise to every challenge we put before them, and contribute amazing energy and enthusiasm to every task."
Pauline Crossley – Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae Cymraeg a Saesneg yn Diwrnod Heb Ei Debyg / No Other Day Like Today
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru  
web site
: www.nyaw.co.uk

e-mail:
Tuesday, August 24, 2010back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk