Bara Caws
we have 45 plays by Bara Caws in our database . Click on the name of the play to read reviews we have in our database.
- Deryn Du [ 2010]
author: Bryn Fon
synopsis:
Enillodd drama ysgytwol David Harrower ‘Blackbird’ wobr Olivier pan ymddangosodd gyntaf ar lwyfan Llundain yn 2007 ac mae wedi ei chynhyrchu gan gwmnïau theatr ar draws y byd bellach. Mae Bara Caws yn falch o gael bod y cwmni Cymraeg cyntaf i lwyfannu’r ddrama herfeiddiol yma yn y Gymraeg. Adar bregus a’u hadenydd wedi’u torri yw Mei a Lora, wedi eu handwyo’n seicolegol gan ddigwyddiadau yn y gorffennol newidiodd fywydau’r ddau am byth. Mae hi’n 27 a fynta’n 56 ac fe gawsant berthynas fer rhyw bymtheng mlynedd yn ôl - pan oedd o’n 40 a hithau’n l2 oed. Nid ydynt wedi gweld ei gilydd ers pan aeth Mei i’r carchar. Dioddefodd Lora fywyd o fysedd yn pwyntio ac wynebau’n syllu, o sibrydion cas ac ensyniadau hyll tra aeth Mei yn ei flaen i ddechrau bywyd newydd mewn tref newydd, newid ei enw a dechrau o’r dechrau. Bellach mae o’n rheolwr mewn busnes gwerthu nwyddau meddygol ac mae Lora wedi dod o hyd iddo ar ôl gweld ei lun mewn cylchgrawn yn ei meddygfa leol. Pan ymunwn a’r ddrama mae Mei wedi ei gornelu ganddi yn ystafell gyffredin y staff ynghanol sbwriel bywyd pob dydd y gwaith, ond pam? Ai ydi eisiau ei niweidio, ei gyhuddo, ei gywilyddio? Ynteu ydi hi isio ail ddechrau’r berthynas fu mor niweidiol i’r ddau….? ‘Mae ‘Deryn Du’ yn datgymalu pedoffeilia ond hefyd yn darganfod cyffredinolrwydd amgylchiadau eithafol. I unrhyw un sydd wedi ceisio ymweld â pherthynas ffaeledig - carwriaeth drist, ysgariad chwerw neu fagwraeth gan riant treisgar mae teimladau Mei a Lora, eu cyfrinachau a’u hunan dwyll wrth iddynt geisio deall y gorffennol yn gyfarwydd….’ THEATR BARA CAWS yn teithio drama newydd - addasiad Bryn Fôn o ddrama David Harrower - ‘Blackbird’.
- Y Gobaith a'r Angor [ 2008]
author: Dylan Wyn Rees
synopsis:
Y GOBAITH A’R ANGOR gan Dylan Rees (AR DAITH 26 o FAWRTH – 19 o EBRILL) Gosodir drama nesaf Bara Caws mewn tafarn mewn tref fach ddi-nod yn y gogledd. Yn ‘Y Gobaith a’r Angor’ mae Dylan Rees, sy’n sgwennu i’r cwmni am y tro cyntaf, yn cyflwyno criw o gymeriadau trist a ffraegar wrth iddynt rygnu bod o ddydd i ddydd o dan gysgod anobaith a phwysau beunyddiol byw mewn byd sy’n gwegian. Fel pysgod mewn powlen ‘dydyn nhw ddim yn ymwybodol eu bod yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd yn ail adrodd yr un straeon a’r un sefyllfaoedd nac yn gweld fod pob tro o gwmpas y bowlen yn dro agosach i’w gwaelod. Mae’r ddeialog yn fyw ac yn tincial fel y gwydrau sy’n prysur wagio a phob un o’r cymeriadau yn chwilio am ateb gwahanol yn ewyn chwerw gweddillion eu breuddwydion. Yn llawn hiwmor tywyll, deialog sy’n diferu o fwg y snyg a phigiadau miniog y darts, mae’n addo noson yng nghwmni cymeriadau sy’n gyfarwydd i ni gyd, fydd yn aros yn hir yn y cof. Yr actorion yw Gwenno Elis Hodgkins, Dyfrig Wyn Evans, John Glyn Owen, Huw Ll_r a Gwyn Vaughan a bydd Maldwyn John, sydd â chysylltiadau clos a’r cwmni ers blynyddoedd, yn cymryd y llyw fel cyfarwyddwr. Ganed Dylan Rees yn Aberystwyth ac fe’i magwyd ym Moelfre, Ynys Môn Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch a Choleg y Brifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle raddiodd mewn Saesneg a Drama. Bu’n byw yng Nghaernarfon am bymtheg mlynedd. Dyma ei ddrama gyntaf. Noder: defnyddir iaith gref
- Camp a Rhemp [ 2006]
author: Tony llewelyn
synopsis:
Ni ddaw ddoes i neb yn ol’ meddai’r hen air ond mae gan Gwyn gynllun. Mae o’n mynd i achub ‘i briodas os ‘di Carol ei wraig yn licio neu beidio. A lle’n well na mewn pabell fel bydda nhw ers talwm...dim ond y ddau ohonyn nhw a Hiwi a Liz… a chriw o ffiriwrs gwragedd o Redditch … o a be am y camddealltwriaeth bach ‘na hefo Keith sy’n disgwyl ‘chydig mwy na’i siar o ramant dan y ser…? Mae cynllun Gwyn yn rhemp ac os ddown nhw i gyd drwyddi mi fydd yn gamp..... Yr actorion yw Wyn Bowen Harries, Gwenno Elis Hodgkins, Maldwyn John,Eilir Jones a Nia Williams. Y Cyfarwyddwr yw Tony Llewelyn.
- Y Bonc Fawr [ 2005]
author: Geraint Derbyshire
synopsis:
Yr actorion: BRYN FON, FRASER CAINES, ROBIN GRIFFITH CATRIN MARA, AWEN WYN WILLIAMS
- O Diar! Sioe Lwyfan Porc Peis Bach [ 2005]
author: Wynford Ellis Owen
synopsis:
Perfformiwyd y ddrama gyntaf yn Theatr Gwynedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r cylch 2005, gan Gwmniau Bara Caws a Cambrensis. Mae'r ddrama yn ddiweddglo i chwe chyfres deledu ac un ffilm arobryn, Porc Pei, ddechreuodd yr holl saga nol ym 1998 ar S4C. Mor boblogaidd fu'r cynhyrchiad llwyfan fel y bu'n rhaid ychwanegu dau fatine i wythnos lawn o berfformiadau - a gwerthwyd rheini allan, yn ogystal, o fewn ychydig oriau. Camp nas cyflawnwyd erioed o'r blaen yn y theatr Gymraeg. Yr hyn sy'n syfrdanol am yr holl fenter yw bod mwyafrif y cynulleidfaoedd yn ymwelwyr tro cyntaf a'r theatr - ac mae llwyddiant y sioe wedi amlygu diffyg mawr yn y ddarpariaeth theatrig bresennol.'
- MUSTYRI TWR [ 2005]
author: ?
synopsis:
MUSTYRI TWR - WYTHNOS EISTEDDFOD ERYRI A'R CYFFUNIAU Daliwch eich gafael yn dynn, mae Bara Caws am fynd a chi ar daith arbennig iawn mis Awst 'ma. Mae'r sioe ar y bws ac mae'r bws ar wib o gwmpas ardal yr Eisteddfod. Does wybod be ddigwyddith nac i ble'r awn ni, ond gwnewch yn siwr eich bod chi'n archebu'ch tocyn mewn da bryd. Fe fydd pawb isio sedd ar Fustyri Twr Bara Caws!!!! Am fwy o wybodaeth ffoniwch Linda - 01286 676335.
- Lush [ 2004]
author: Aled Jones Williams
synopsis:
‘Lysh’ gan Aled Jones Williams yw drama gomisiwn yr Eisteddfod Genedlaethol 2004 sy’n cael ei chyflwyno gan gwmni Theatr Bara Caws. Yn dilyn’Sundance’ a ‘Beth Oedd Enw Ci Tin Tin?’ mae ‘Lysh’ yn parhau y berthynas arbennig sydd gan y dramodydd unigryw yma â’r cwmni. Unwaith eto mae Aled wedi ysgrifennu drama sy’n edrych yn ddisyfyd i friw agored y ddynoliaeth. Alcohol yw’r gwenwyn melys sy’n cynnal a chaethiwo’r pedwar cymeriad, a datgymaliad o’u perthynas gymhleth a chreulon gyda’r gwenwyn hwnnw yw craidd y ddrama. Yn seiliedig ar brofiadau’r awdur yn ymgiprys a’i gythreuliaid personol mae ‘Lysh’ yn daith eirwir, huawdl ac anodd drwy gysgodion sydd yn disgyn ar draws llwybr sawl un ohonom. Fel yng ngwaith Aled i gyd mae’r ysfa am atebion cadarn mewn byd simsan yn cymeryd sawl ffurf, yn ‘Lysh’ daw’r dadrithiad nad yw’r ateb i’w gael yng ngwaelod potel, ond daw hefyd y gobaith a’r sicrwydd ei bod yn dal yn werth chwilio. Cyfarwyddwr: Valmai Jones Actorion: Betsan Llwyd, Maldwyn John, Rhodri Meilir + un actor arall i’w gastio Perfformir y ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd Awst 2-6 yn Theatr Dolman, Casnewydd ‘Lysh’ by Aled Jones Williams won 2004's National Eisteddfod drama commission for Theatr Bara Caws. Following in the trail of ‘Sundance’ and ‘Beth Oedd Enw Ci Tin Tin?’ ‘Lysh’ maintains the special relationship linking this unique prize winning author with Wales’ foremost community theatre company. Once again, Aled’s latest work stares unflinchingly into one of humanities open sores. Alcohol is the sweet poison that props up and imprisons the play’s inmates, and it is their special relationship with that wet curse that forms the backbone of this play. Based on the author’s own struggle with his demons ‘Lysh’ is an honest, often funny but harrowing journey through shadows that can so easily cross all our paths. As in all Aled’s work the search for certainties in a shifting world can take many forms, in ‘Lysh’ Aled shows us that those certainties can’t be found in the bottom of a bottle, but he also shows us that the last thing we should do is stop searching.
- AR Y LEIN [ 2004]
author: GWYNETH GLYN
synopsis:
AR DAITH YN Y GYMUNED MAWRTH 2 -- 27 2004
- Be' oedd enw ci Tin Tin? [ 2003]
author: Aled Jones Williams
synopsis:
“Pwy? Sut? Pam? Y tri chwestiwn cyntaf yn litani’r heddwas. Tri chwestiwn all agor llifddorau môr o atebion. Mae hen wraig wedi ei llofruddio a’i merch sengl ganol oed, Anna, sydd dan amheuaeth o’i lladd. Wrth gwrs mae’r heddlu’n gweithio’n ddygn, ond yn nrama gref Aled Jones Williams mae pawb yn euog o rywbeth, a phawb angen cuddio’r gwir…..” Unwaith eto mae Aled Jones Williams yn ein harwain i fannau dyrys bywyd i ardal lwyd a chignoeth lle nad oes atebion hawdd, ac unwaith eto mae’n gwneud hynny mewn ffordd theatrig unigryw yn llawn crio, chwant a chwerthin.
- Be' oedd enw ci Tin Tin? [ 2003]
author: Aled Jones Williams
synopsis:
“Pwy? Sut? Pam? Y tri chwestiwn cyntaf yn litani’r heddwas. Tri chwestiwn all agor llifddorau môr o atebion. Mae hen wraig wedi ei llofruddio a’i merch sengl ganol oed, Anna, sydd dan amheuaeth o’i lladd. Wrth gwrs mae’r heddlu’n gweithio’n ddygn, ond yn nrama gref Aled Jones Williams mae pawb yn euog o rywbeth, a phawb angen cuddio’r gwir…..” Unwaith eto mae Aled Jones Williams yn ein harwain i fannau dyrys bywyd i ardal lwyd a chignoeth lle nad oes atebion hawdd, ac unwaith eto mae’n gwneud hynny mewn ffordd theatrig unigryw yn llawn crio, chwant a chwerthin.
- Rhych Wlyb [ 2003]
author: GERAINT DERBYSHIRE
synopsis:
SIOE GLYBIAU NEWYDD SBON GYDA BRYN FON, MALDWYN JOHN, AWEN WYN WILLIAMS A RHODRI JOHN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MEIFOD...AWST 5-9 AC YNA AR DAITH O AMGYLCH Y WLAD MEDI 3 - HYDREF 10. Fel pob fferm fechan yng Nghymru dydi pethau ddim yn dda yn ‘Rhych Wlyb;. Mae’r landlord isio’i rent, y biliau isio’i talu a Wili Dic druan isio un diwrnod nad ydi’r byd yn ‘nelu cic am ‘i ddannedd. Mae ganddo gynllun, mae ganddo sawl cynllun, yn anffodus does yr un ohonyn nhw yn debyg o weithio! Llond treilar o chwerthin a llond tractor o hwyl….. __________________________________________________ Bara Caws are once again preparing to unleash a crazy club show on an unsuspecting world. This time around it's the small farmers of Wales that are put under the mad microscope. We get to follow the ups and downs of life for Wili Dic the farmer as he grapples with survival in today's economic climate doing his best to 'diversify' towards the local hunt, American tourists, and a very strange crop from South America. Whether it's 'Gee-up', 'Gee-Whizz' or 'G M' this is one show that's bound to crop well in the clubs and pubs of Wales.
- DULCE DOMUM [ 2003]
author: VALMAI JONES
synopsis:
COMEDY NEWYDD GAN VALMAI JONES AR DAITH TACHWEDD 18 -- RHAGFYR 13... 2003
- Unwaith, unwaith [ 2003]
author: Sian Summers
synopsis:
Mae pawb isio bod yn arwr mewn rhyw stori fawr, a dydy’r Pibydd druan ddim gwahanol, mae’n cymeryd dipyn o boen, dipyn o chwerthin a lot o gariad i ddangos iddo mai bod yn arwr yn dy stori fach dy hun ‘di’r peth pwysicaf – a mi fedrwn ni gyd wneud hynny.
- Mwnci Nel [ 2002]
author:
synopsis:
- Bingo Bach [ 2001]
author: Sian Summers
synopsis:
- Ben Set [ 2000]
author: Wil Sam Jones
synopsis:
- Al a Dorothy [ 2000]
author: Twm Miall
synopsis:
- DJ Faust [ 2000]
author: Elinor Bennet (adaptation)
synopsis:
- Paradwys Waed [ 2000]
author: Sion Eirian
synopsis:
Dau newyddiadurwr o Ogledd Cymru yn gweithio allan yn Sbaen ym 1936; Gronw Ellis ar ran y Daily Telegraph a Richard Stevens ar ran y Daily Worker. Cred y ddau eu bod wedi dod o hyd i'w paradwys bersonol tan i'r Rhyfel Cartref weddnewid eu bywydau. Drama yw hon am ddelfrydau a phropaganda, gydag elfennau personal carwriaethol a rhywiol yn cymhlethu'r stori. Cyfarwyddwr: Ian Rowlands. Yr actorion: Dafydd Dafis, Betsan Llwyd, Dyfrig W. Evans, Dyfan Roberts, Alys Thomas. Set in the Spanish civil war, Paradise of Blood is a powerful exploration of personal and political ideals
- Hardcore Bethesda Fuzz [ 1999]
author: Dyfrig Jones
synopsis:
- Yr Alamo [ 1999]
author: Bryn Fon
synopsis:
- Sundance [ 1999]
author: Aled Jones Williams
synopsis:
- Paris [ 1998]
author: Bryn Fon
synopsis:
Translation of Paris, by John Godber
- Oedolion yn Unig [ 1998]
author: Robin Gruffydd a Dyfed Thomas
synopsis:
Highly acclaimed one-man show. Toured Wales in 1998-99. Presented by Dyfed Thomas, playing seven completely different characters over a period of 90 minutes. Received standing ovations at every venue
- Y Folsen Fawr [ 1998]
author: Robin Griffith a Dyfed Thomas
synopsis:
- Bargen [ 1998]
author: Devised by the company
synopsis:
- Dinas Barhaus [ 1997]
author: Wil Sam Jones
synopsis:
- Y Sdwejen a'r Smacyrs [ 1997]
author: Bryn Fon a Twm Miall
synopsis:
- Brodyr y Brwsh [ 1997]
author: Tony Llewelyn (trans.)
synopsis:
Translation of Brothers of the Brush by Jimmy Murphy
- Henlawiau [ 1996]
author: Mari Gwilym
synopsis:
- Llifeiriau [ 1996]
author: Wil Sam Jones
synopsis:
- Un Bach Arall [ 1995]
author: Twm Miall
synopsis:
- Yn debyg iawn I ti a Fi [ 1995]
author: Meic Povey
synopsis:
- Dam-Gae [ 1995]
author: Twm Miall
synopsis:
- Y Wraig a Bobi a Sami [ 1995]
author: Wil Sam Jones
synopsis:
- Cyw Dol [ 1995]
author: Twm Miall
synopsis:
- Diana [ 1994]
author: John Glyn Owen
synopsis:
- Rhosyn a Rhych [ 1994]
author: Twm Miall
synopsis:
- Siarad ar eu Cyfer [ 1993]
author: Twm Miall
synopsis:
- Chwuilen yn fy Mhen [ 1993]
author: Mair Gruffydd
synopsis:
- Chwarae'r Diawl [ 1992]
author: Mair Gruffydd
synopsis:
- Lawr y Lon [ 1992]
author: Myrddin ap Dafydd
synopsis:
- Teileit Zon [ 1992]
author: Twm Miall
synopsis:
- Y Gweledigaethau [ 1991]
author: Devised by the Company
synopsis:
- Fi a Mr Louigi [ 1991]
author: Mair Griffith
synopsis: