| Dosbarth by Geraint Lewis |
| First presented in 2002 by Sgript Cymru |
|
cast size:4
synopsis: Drama Comisiwn 2002. "Ni ddim moyn gweld Mr Sentimental, na Mrs Emosiynol ar y penwythnos hyn. Mewn, mas, fel 'bank job'...Ma' pob siort yn mynd ar y cyrsie 'sgwennu hyn. Wannabes." Mae cwmni teledu Hywel Owen yn joc, a'i ddyfodol yn y fantol. Wrth i storm o eira chwyrlio y tu allan i westy'r Sea View, ceisia Hywel a Menna ei wraig achub eu crwyn drwy gynnal dosbarth penwythnos o 'sgrifennu comedi. Yr unig ddwy i lafurio drwy'r eira ydy Hannah, nyrs yng Nhalngwili a thalent stand-yp tanllyd, a Nicola, ymchwilydd o'r blaid Lafur sydd angen gwersi gwenu. Pan fo cynllun dan-din yn cael ei ddateglu, pwy fydd yn elwa? Comedi gyfoes am rym a dosbarth yw drama gomisiwn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan Geraint Lewis, awdur Y Cinio, Y Groesffordd (Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr 1996), The Language of Heaven a Meindiwch Eich Busnes. Dosbarth yw ei ail ddrama i Sgript Cymru, yn dilyn Ysbryd Beca, a deithiodd Cymru yn Hydref 2001. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym mis Mai 2002, sef X (Gwasg Carreg Gwalch). Cyfarwyddwr "Dosbarth" fydd Elen Bowman, a'i haddysgwyd yn RADA. Ffurfiodd gwmni or enw Living Pictures yn Llundain a chyfarwyddo cyfieithiadau newydd o 'Andromache' gan Euripedes a 'The Nest' gan Franz Xaver Kroetz. Erbyn hyn mae Elen yn Gyfarwyddwr Cyswllt Sgript Cymru. Bydd hi'n noson o ddatguddiadau a hwyl yng nghwmni cymeriadau doniol a'r actorion poblogaidd Rebecca Harries, Sara Lloyd, Jonathan Nefydd a Ffion Wilkins yn y cast. |
|
We don't yet have a review of Sgript Cymru's Dosbarth in our archive. If you know of any existing review, or if you have any more information on Dosbarth, (perhaps you were in the production or were the author or director) then please use the form below to send us the details |