Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Comisiwn

Mae Comisiynydd Drama a Ffilm S4C, Angharad Jones, yn edrych ar ei rôl yn comisiynu dramâu ar gyfer S4C.

Beth yn union mae Comisiynydd S4C yn ei wneud? Yn dibynnu ar eich rhagfarn, dewisiwch a, b neu c o blith y dewisiadau isod:

a) Eistedd ar ei dîn/thîn yn edrych drwy syniadau a'u pigo'n fympwyol, ac yna gneud dim byd tan bod y rhaglen wedi cyrraedd, yn berffaith a gorffenedig? Wedyn cymryd y clod os yw'n dda, casglu gwobrywon a phartïo'n ddibaid? Derbyn cyflog da a byw'n braf a digydwybod.

b) Darllen cannoedd o syniadau/triniaethau/sgriptiau, gwylio degau o

dapiau, ymateb i bob un ohonynt, tua 80% o'r amser i roi newyddion drwg/beirniadu/gwrthod, ac 20% o'r amser, rhoi ymateb cadarnhaol/symud pethau mlaen i ddatblygu neu gomisiynu. Poeni a phryderu 100% o'r amser am bob cam o'r siwrne, o'r syniad gwreiddiol i'r darllediad cynta. Diflannu o’r golwg os yw rhaglen yn cael clod, a chymryd y bai os nad yw'r rhaglen yn gweithio. Osgoi pawb y tu fewn a thu fas i'r diwydiant sy'n siarad Cymraeg, gan fod pawb a) un ai yn arbenigwr ac yn fwy na pharod i roi barn lafar a gonest, heb bob amser ddeall y tunnell o sdwff a hasl sy'n mynd i fewn i'r broses, cyn iddo ddigwydd a darfod megis seren wib ar y sgrin fach, neu b) am bitshio ei syniad/syniadau i chi waeth be fo'r amser na'r lleoliad. Trio amddiffyn, neu o leia egluro, pob comisiwn i'r rheini sy'n deud fod pob dim yn crap - cyn cael cur pen a mynd adre i drio anghofio am bob syniad, sgript, rhaglen, ffilm drwy un ai swatio dan gwilt trwm, downio potel neu ddwy o win, neu fynd i'r gym/nofio'n manig am oriau. Cofio gwylio cymaint ag sy'n bosibl yn y sinema, theatr, teledu a darllen pob adolygiad i wneud yn siwr ei f/bod yn ymwybodol o'r hinsawdd ddiwylliannol yng Nghymru a thu hwnt. Bod yn ymwybodol o lyfrau Cymraeg ac Eingl-Gymreig sy'n cael eu cyhoeddi (ddoe a heddiw) a allasai gael eu cysidro ar gyfer addasiadau. Panicio am y mynydd sgriptiau/tapiau (wedi eu cymell, ac yn ddigymell) sy'n aros am gael eu darllen. A'r mynydd mwy o lyfrau sy' tu ôl i’r rheini. Gwneud amserlen waith, ond hwnnw'n newid yn gyson, wrth i flaenoriaethau newydd wthio pethau mwy hir dymor i gefn y ciw. Ceisio penderfynu a yw ef/hi bellach yn gwybod y gwahaniaeth rhwng ffaith a ffuglen (os oedd o/hi erioed). Gobeithio bod yr argraff y mae'n ei r/rhoi yn un o rywun sy heb golli ei b/phwyll yn llwyr. Ceisio cofio sut beth yw bywyd y tu allan i'r swydd. Derbyn cyflog da a chydwybod drom.

c) Mae'r gwirionedd rhywle yn y canol rhwng y ddau uchod.

Y pethau gwael am y swydd: gweler (b) uchod.

Y pethau da am y swydd : gweler rhywfaint o (a) uchod plys:

1 Cael gwefr o fod mewn swydd freintiedig sy'n cario cyfrifoldeb o gyfrannu at oroesiaid y diwylliant Cymraeg. Os ydi'r diwylliant hwnnw i oroesi, yna mae'n rhaid iddo wneud hynny drwy'r cyfrwng gweledol/y cyfryngau torfol cyfoes. Rhaid i'n straeon fod yn werth eu dweud, a'n cymeriadau fod yn rai i'w caru. Dychmygu Cymru drwy'r straeon ryn ni'n dewis eu dweud. Mae o'n medru bod yn hwyl!

2 Boddhad mamol/tadol bron, pan mae'r rhaglen yn gweithio, o gofio eich bod chi wedi bod yno o'r cenhedlu i'r enedigaeth, sef o'r syniad a'r drafodaeth gychwynnol rhwng dau neu dri (yr awdur a'r cynhyrchydd), drwy'r cynhyrchu sydd wedi cynnwys degau o bobol (y cast a'r criw), i'r darllediad pryd mae'r ‘babi’ yn cael ei rannu gyda degau o filoedd (y gynulleidfa).

3 Y bobol rydych chi'n gweithio efo nhw (d.s: mae hwn yn medru bod yn un o'r pethau gwael am y swydd - pan mae ’na anghytuno digyfaddawd a phobol yn ystyfnigo, ffromi a mynd yn bersonol. Rhywbeth, wrth gwrs, nad ydych chi fyth yn euog ohono).

4 Cyffwrdd yn y gynulleidfa - cyffwrdd mewn pobol: gorau oll os yw hynny'n digwydd mewn ffordd gadarnhaol, lle mae ’na gynhesu a gwerthfawrogi didwyll yn digwydd. Ond weithiau hefyd mae'n bwysig herio, anesmwytho hyd yn oed; cyflwyno rhaglenni sy'n ennyn ymateb cry', o blaid ac yn erbyn (er nad dyna'u bwriad wrth gomisiynu. Gobeithio na faswn i byth yn comisiynu'n sinicaidd fel 'na). Mae unrhywbeth yn well na difaterwch.

Ond dyna ni. Mae'n siwr mai'r rhaglen berffaith yw honno sy heb ei chomisiynu. Bydd honno bob amser y tu hwnt i bob beirniadaeth! Ac aralleirio Oscar Wilde, ‘there's only one thing worse than not getting a comission, and that's getting it’. Ond stori arall yw honno.

awdur:Angharad Jones
cyfrol:503, Rhagfyr 2004

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk