Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Does unman yn debyg i gartref

Drama lawn mwynhad pur yw Dulce Domum i GWYNETH GLYN.

Mae hyn yn artaith. Poen angeulol ydi gorfod adolygu profiad mor bleserus, mor bur, a chomedi dda. Dim ond ambell i sgribl annarllenadwy a chlystyrau o ebychnodau sydd gen i yn fy llyfr bach, ac felly’n union y dylai hi fod. Fel bwyta hyfen iâ, fel reid trên sgrech, fel rhyw, nid rhywbeth i’w ddadansoddi a’i ddealluso mo comedi, ond rhywbeth i’w fwynhau, ar y pryd, am beth ydi hi. Mae gwacter nodiadau’r adolygwr yn dyst i lawnder y profiad theatrig a gafwyd; chwerthin, rhyfeddu, fy nghyfareddu, methu tynnu’m llygaid oddi ar y ddrama am eiliad, rhag ofn colli flach arall o ffrathineb, neu berl arall o bathos cynnil. Nid ymdrech i egluro llwyddiant y cynhyrchiad a geir yma felly, ond dathliad o’r llwyddiant hwnnw, a diolch diffuant i Gwmni Bara Caws am roi ar lwyfan gynhyrchiad mor bur â thrên sgrech ac mor ysgytwol â rhyw (h.y. rhyw ysgytwol!).

Celfydd a chraff oedd y modd y llanwyd y gynulleidfa â disgwylgarwch, hyd yn oed cyn i’r ddrama ddechrau; gogleisid ein dychymyg gan y tair cadair esmwyth wag ar y posteri, ac wedyn gan y cadeiriau eu hunain, a safai mewn hanner golau wrth i’r gynulleidfa ymgartrefu yn eu seti eu hunain, i gyfeiliant hwyliog jazz o’r 30au. Codai hyn awydd mawr am gael cyfarfod perchenogion y cadeiriau, ac ni chawsom ein siomi.

Roedd y set realistig, dawel yn gefnlen berffaith i gymeriadau ymfflamychol Dulce Domum; sef cartref i actorionwedi ymddeol, gyda lliw gwyrdd-antîc y waliau yn atgoffaol o ambell i green room, a’r organ drydan a’r celficyn o ddawnswraig osgeiddig yn awgrymu trist o oes aur gyrfaoedd y trigolion.

Ond nid ffosil o ddrama atgofion mo hon; roedd y digwydd yn fyw yn y presennol, a’r tyndra’n cael ei gynnal yn feistrolgar o un olygfa a’r llall drwy’r twyll, y cyfrinachau, a’r camddealltwriaeth sy’n gyrru’r plot.

Nid ffars gymhleth-gyfleus mohoni chwaith, ac er gwirioned ambell i sefyllfa; y wig, y ci, y tabledi rhyddhaol, ni lithrodd y ddrama unwaith i diriogaeth ‘dros y top’. Dyma athrylith yr awdures Valmai Jones; trwy gyflwyno cymeriadau cryf, credadwy, sydd, wrth ei hanfod , ‘O.T.T.’, cyfiawnheir a chwaraeir â’u holl odrwydd a’u hynodrwydd. Ni ddibynnir ar undonedd llwm blynyddoedd olaf yr henoed, i gynnal y digrifwch (fel y wnaed, er enghraifft yn y gomedi sefyllfa ‘Waiting for God’ ); i’r gwrthwyneb, asgwrn cefn y chwarae yw’r frwydr ffyrnig yn erbyn y diwedd anorfod; ymrafael yr actor yn erbyn marwolaeth ei yrfa, cymaint â’i dranc fel unigolyn; a’r sgarmes oesol rhwng cyd-berfformwyr am y lein orau, y gostiwm odidocaf, a’r exit mwyaf cofiadwy.

Amlygiad hyn yn weledol-ddiddannol gan gymeriad rhamantaidd, ffwndrus Adele (a ymgnawdolir yn berffaith gan Olwen Rees) a’i diwyg amrywiol. Fel pyped wedi colli ei meistr, roedd yr ymddangosiadau annisgwyl hyn yn ddyfeisiadau gomig heb eu hail, a’u hamseru bob amser yn ennyn gorfoledd yn y gynulleidfa. Eto i gyd, yn eithafon y digrifwch yma y llechain eithafon y drasiedi; dyma’r Adele a arferai wneud croesair y Guardian mewn deg munud, sydd erbyn hyn yn canu caneuon pytiog fel yr Ophelia orffwyll: ‘I’m to be a queen of the May...’. Os comedi, yna comedi ddyngarol, deimladwy ydi Dulce Dorum, sy’n adlewyrchu gwiriondeb a gwendid dynoliaeth; ein hangen cynhenid i faddau ac i faddau.

Os mai cymeriad sy’n gyrru stori, yna roedd tanwydd cymeriadau Dulce Dorum yn addo reid a hanner. Pwy fedr anghofio’r tensiwn trydanol a gynhyrchir pan ddaw Meira Cadwaladr a Gwyneth Fame wyneb yn wyneb am y tro cyntaf? Pwy fedr anghofio cvhwerwder y coegni a dasgai o enau Christine Pritchard, a surdeb ei sarhau? Pwy fedr anghofio’r cyferbyniad perffaith rhwng hynny a snobyddrwydd triogaidd Meira (Gaynor Morgan Rees)? Pwy fedr anghofio egrwch y siom a dyfnder y galar y guddia Mari Gregynog (a chwaraeir gan yr awdures) tu ôl i’wn sirioldeb wylaidd, ‘mond Theatr-mewn-addysg’, chwedl hithau?

Er mor grwn-gyfarwydd, ac eto mor syndodus, y cymeriadau yma, mae rhywun yn ysu am gael gweld mwy ohonynt. A phwy well na Maldwyn John i bortreadu Roland, y gofalwr gweithgar sy’n gyfrifol am dawelu a diwallu’r diva’s? Ymestynnir addfwynder ac amynedd Roland druan i’r pen gan dymer y dreigiau dan ei ofal; ond ceir eiliadau o dynerwch gwirioneddol wrth iddo dderbyn ymddiriedaethau, ac wrth i un gael ei help i godi o’i chadair:

‘Oedd ‘na amsar basa’ch breichia amdana i am resyma tra gwahanol...... Dwi fel bylb gola, wedi ei ddiffod yn hongian yn disgwyl, ond does na neb ddaw i roi y switch ymlaen.’

Mae Roland, serch hynny, yn troi goleuadau’r goeden dolig ymlaen, ac yn ymuno mewn ambell gân theatrig o’r gorffennol hefo rwtîns caboledig. Rhydd y dawnsfeydd a’r canu elfen adloniannol arall i’r cynhyrchiad; yng ngoleadau cyfnewidliw y goeden a’r addurniadau dolig, yn y rwtîns a’r dillad trawiadol (heb ddatgelu gormod) ceir dihangfa fer i fyd yr hyn a fu, ac atgof, yn llais peraidd Adele, o wychder ei thalent ifanc.

Chwe chymeriad mewn un ystafell lawn cadeiriau esmwyth; oni theimlai hynny’n glostroffobig? Ddim o gwbwl, diolch i gyfarwyddo medrus a chynnil Tony Llewelyn. Dim ond pedwar trigolyn a dau ofalwr; onid oedd hynny braidd yn anghredadwy? Ddim o gwbwl; diolch i ddyblu clyfar, ceir doctor a chlaf ychwanegol; ac mae un cymeriad absennol yn arbennig, yn ddylanwad arwyddocaol ar y digwydd. Creir ymdeimlad cyffredinol o fyd ehangach, trwy gyfrwng y teledu yn y gornel, y post dyddiol (sy’n cynnwys anrheg gan un thesp bydenwog) heb anghofio’r plant sy’n canu carolau tu allan (a’r croeso annisgwyl a gânt gan Meira.)

Ond, wrth gwrs, mae comedi yn fwy na chyfanswm ei rhannau; mae symylrwydd a llyfnder y cynhyrchiad yma yn dyst nid yn unig i gydweithio afieithus, ond hefyd i ddigrifwch cynhenid y sgript. Mae Valmai Jones wedi sgwennu chwip o ddrama ddoniol, a ellir ei mwynhau unwaith; ond fel hufen iâ, fel trên sgrech, fel rhyw, tydi unwaith ddim yn ddigon. Ewch i’w gweld ddwywaith, deirgwaith os y mynnwch; ond da chi, ewch i’w gweld!

awdur:Gwyneth Glyn
cyfrol:491/492, Rhagfyr/Ionawr 2003/04

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk