Chwerthin Parchus
Yn ddiweddar, aeth DAFYDD LLYWELYN i weld comedi, math gwahanol iawn ar berfformiad cyhoeddus. Ond beth yw’r tebygrwydd rhwng y genre yma a theatr?
Ddiwedd Medi Eleni trefnwyd noson gomedi stand-up yhn Dempsey’s, un o dafarndai Caerdydd, mewn ymgais i godi pres tuag at ymweliad Eisteddfod yr Urdd â’r cylch y flwyddyn nesaf. Y tri diddanwr oedd Humphrey James, Gethin Thomas a Daniel Glyn, a bu’n noson ddigon llwyddiannus, yn ariannol ac yn nhermau’r hiwmor. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae criw bychan, gan gynnwys yr unigolion a restrir uchod, wedi bod yn ceisio cynnal a hyrwyddo’r sîn gomedi yng Nghymru, gan gyfrannu i nosweithiau a gweithgareddau amrywiol, megis g_yl gomedi Hafod a welwyd am y tro cyntaf yn ystod ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Môn llynedd. Yn ogystal, maent wedi ceisio datblygu’r genre ar y cyfryngau. Rhaid cyfaddef bod talcen caled yn eu hwynebu oherwydd, i raddau helaeth, nid yw’r byd comedi wedi ennill ei blwyf yng Nghymru, a hyd heddiw ystyrir y maes fel rhywbeth eilradd.
Ar yr olwg gyntaf, mae hynny’n annisgwyl gan mai’r patrwm cyffredinol a welir yn y cyfryngau yw rhoi mwy a mwy o bwyslais ar raglenni ysgafn. Ond mae hyn i ryw raddau wedi cymhlethu statws comedi, gan ei fod bellach yn ymdoddi cymaint i agweddau eraill o fyd adloniant. Mae’r cyfan yn dod dan un ambarel amwys, yn hytrach na bod comedi yn meddu ar ei hunaniaeth unigryw ei hun. Er gwaethaf pryderon sydd wedi’u mynegi am y duedd i gynhyrchu deunydd o safon isel a di-sylwedd (dumbing down) does dim dwywaith na fydd y patrwm hwn yn parhau, o leiaf yn y tymor byr, o fewn y cyfryngau. Yn sicr, yn wyneb newidiadau technolegol, bydd yr ymgais i ddiddanu cynulleidfa gyda deunydd adloniadol a doniol yn cynyddu ei phwysigrwydd. O ganlyniad, un o brif amcanion y cyfryngau Cymraeg, ac yn arbennig felly S4C, yn ystod y blynyddoedd nesaf, fydd sicrhau arlwy digonol i gadw’r ffyddloniad yn ddiddig.
Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, daeth y sianel dan y lach am fethu yn ei hymgais i ganfod deunydd fyddai’n plesio’i chynulleidfa. Y g_yn barhaus yw nad yw’r ddarpariaeth a gynigir gystal â’r hyn a welir dros Glawdd Offa. Ond y gwir amdani yw bod y fath honaid yn gwbl gyfeiliornus. Awgryma Stephen Wagg yn BecauseI Tella Joke or Two i oddeutu 650 o gomedïau sefyllfa gael eu creu ym Mhrydain ers yr Ail Ryfel Byd. Eto i gyd, dim ond rhyw ddeugain neu hanner cant ar y mwyaf sydd wedi llwyddo i daro deuddeg. Perlau ond eithriadau prin yw rhaglenni megis Fawlty Towers o greadigaeth John Cleese ac Only Fools and Horses o ysgrifbin John Sullivan. Teg yw nodi bod rhai o gyfresi S4C wedi bod yn fethiannau llwyr, ond ni ddylid diystyru’r ffaith bod y sianel wedi llwyddo i gyflwyno nifer o gyfresi ysgafn’comedi llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd megis Hafod Henri, Torri Gwynt, ac yn goron y cyfan, mae’n debyg, C’mon Midffîld. Er hyn sy’n gwneud tasg y sianel yn anos fyth yw’r ffaith bod rhaid iddi geisio bodloni pob carfan o fewn y gymdeithas Gymraeg, tra gwelir sianeli eraill yn medru arbenigo ar raglenni neu agweddau penodol. Amlygir yr anhawster hwn ymhellach yn ystod y blynyddoedd nesaf, gyda dyfodiad teledu digidol a chebl.
Yr allwedd i lwyddiant mathau uchod o gomedi oedd eu bod yn gwbl Gymreig a Chymraeg ei naws a’u hiaith. Go brin byddai modd gwneud cyfiawnder gydachlyfrwch y deunydd pe’i cyfieithwyd, a’r rheswm syml am hynny oedd eu bod wedi’u saernïo’n ofalus yng ngwead y gymdeithas a’r diwylliant Cymraeg. Serch hynny, mae tuedd i bobl bellach gofleidio’r diwylliant Americanaidd, a cheisio ei efelychu. Yng nghud-destun comedi, mae hyn yn sicr yn gamgymeriad dybryd. Mae’r byd comedi yn America yn gysyniad hollol wahanol – mae’r cyllid a niferoedd yr unigolion sy’n cyfrannu tuag at gyfresi comedi o’r fath yn anhygoel, ond yn bwysicach na dim, mae’u chwaeth yn gwbl wahanol. Rhaid ceisio sicrhau nad yw’r meddylfryd Americanaidd, sy’n chwarae rhan mor amlwg yn ein bywydau dyddiol, yn llethu ein creadigrwydd brodorol. Nid yw hyn gyfystyr â bod yn fewnblyg a chul ein gweledigaeth, ond yn hytrach, bod rhywun yn gosod ei ddeunydd yn ei gyd-destun priodol, ac yn dangos parch a dealltwriaeth tuag at y gynulleidfa. Y duedd ar hyd o bryd yw bod comedi yn gyffredinol yn Nghymru i’w weld yn gaeth i hualau’r dosbarth canol, ac yn union fel y byd pêl-droed y cyfnod modern, mae perygl gwirioneddol i garfanau eraill mewn cymdeithas gael eu dieithrio. Efallai mai dyna pam mae tocynnau ar gyfer sioeau clybiau Bara Caws yn gwerthu fel slecs, a chynhyrchiadau eraill yn stryffaglu i lenwi rhes.
Yn gysylltiedig â’r ddolen gyswllt rhwng dosbarth cymdeithasol a chomedi, fe welir y ddeuoliaeth ragrithiol sydd ynghlwm wrth y maes. Nid nodwedd sy’n unigryw i Gymru mohoni, ond mae’n allweddol bwysig wrth ystyried natur a chynnwys y deunydd comedïol sydd ar gael. Cymaint yw’r pwyslais a roddir y dyddiau hyn ar y syniad o fod yn wleidyddol gywir, fel bod perygl gwirioneddol i ddeunydd comedi fynd yn wag, ac i ragrith deyrnasu. Ar y wyneb o leiaf, ystyrir comedïwyr fel Bernard Manning a Jim Davidson yn annerbyniol bellach, a cheir bonllefau o brotestiadau pan glywir unigolion o’r fath yn cyfeirio’n ddirmygus at bobl o dras a diwylliant gwahanol iddynt hwy’u hunain. Eto i gyd, ystyrir jôcs am hoffter y Cymry o ddefaid, corai meibion a’r bêl hirgron yn eithriadol o ddoniol gan rai hyd heddiw. Mae’n werth ystyried am ennyd pwy sy’n pennu’r ffinniau derbyniol ar gyfer deunydd comedi, a beth yw’r cymhellion y tu cefn i ganllawiau o’r fath. Yn y bôn, mae pob agwedd o hiwmor yn ddilornus, ond yr hyn sy’n ei wneud yn gelfyddyd yw’r modd yr ymdrinir â’r pwnc.
Mae hiwmor ar ei orau yn gallu bod yn arf miniog a chignoeth. Yn aml iawn, mae gonestrwydd drwy hiwmor yn gallu bod yn llawer cryfach na’r agwedd difrifol. Yng Ng_yl Caeredin yn gynharach eleni bu i ferch ddwy ar hugain mlwydd oed, Francesca Martinez, ennill gwobr The Daily Telegraph, yr Open Mic Award. Yr hyn oedd yn arwyddocaol am ei buddugoliaeth oedd ei bod yn dioddef o’r cyflwr parlys ymenyddol (cerebal palsy), a chyfeiriodd at ei chyflwr fel rhan o’i deunydd, fel a nodwyd yng ngholofnau’r papur a noddodd y gystadleuaeth: ‘(s)he pictured a world where everyone was disabled. “The World Cup would be more interesting, wouldn’t it? England might actually win.” Byddai clywed brawddeg o’r fath yn gwneud i’r mwyafrif chwerthin a theimlo’n anghysurus ar yr un pryd, a dyna un o gryfderau pennaf hiwmor – cyflyru’r ystod eang o emosiynau. Y peryg ar hyn o bryd yng Nghymru yw bod y miniogrwydd hynny yn cael ei golli yn enw ffug barchusrwydd a diffyg ffydd a gweledigaeth yn nodweddion ein diwylliant cynhenid.
awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:453, Hydref 2000
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com