Newyddion ac ati
MEG ELIS sy’n crynhoi newyddion y misoedd diwethaf, gan gnoi cil ar dynged anffodus Cyngor Celfyddydau Cymru.
‘Fasech chi’n leicio ymuno â Chyngor y Celfyddydau?’ R_an, heddiw mae hynna’n swnio fel gwahoddiad i saethu eich hun yn eich pen – doedd o ddim yn swnio’n wahanol iawn fis yn ôl, rhaid cyfaddef.
‘Mae arnon ni angen pobl.’
‘Roedd s_n ym mrig y morwydd am gael gwared o bobl hyd yn oed pan glywyd hynny o eiriau, ond mae’n dal yn wir, hyd yn oed yn awr, a phobl – sori, Y Person – wedi mynd. Maen nhw’n dal eisiaupobl i fynd ar y Cyngor. Ond daliwch eich gwynt – os ydach chi’n wir eisiau troedio llwybr y Quango Queens, a fuasai’n ddoeth i chwi wneud synau sy’n awgrymu y carech fod yn un o’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y maes hwn? ‘Nid fel hyn mae pobl broffesiynol yn trin ei gilydd.’
Mae hwnna’n ddyfyniad gair-am-air – ond nid am aelodau’r Cyngor ei hun. Cawn air yn nes ymlaen am eu trafodaethau nhw – ond dychwelwn am ennyd at y dyfyniad. Nid fel hyn mae pobl sy’n rhoi arian i’r celfyddydau i fod i drin pobl sy’n mynd â’r celfyddydau at bobl – nac, yn bwysicach, at blant, cynulleidfa celfyddydau’r dyfodol. Ond fel yna y triniwyd Theatr y Frân Wen.
Anwybyddwn am ennyd y ddilema perfformwyr sy’n gorfod cyllidebu o flwyddyn i flwyddyn, heb sicrwydd cynllun ariannol tymor-hir tair blynedd, dyweder, neu hyd yn oed – foethusrwydd anhygoel – cynllun pum mlynedd. Fel hyn mae cynllunio, datblygu, mapio yn fwriadus, ar gyfer y dyfodol. O’r gorau – prin yw’r ymarferwyr celfyddyd a fwynhaodd hynny, a phiti am hynny, ond fel ‘na mae hi. Fel y g_yr pawb, nid fel yna y bu hi i’r cwmni theatr arbennig hwn. Bu’n rhaid bidio, cafwyd dyfarniad – a chafwyd gwrthwynebiad ffyrnig.
Yn awr, mae hynny i’w ddisgwyl. Nid byd y celfyddydau yw’r unig un lle mae un corff yn cystadlu yn erbyn y llall, a lle ceir enillwyr a chollwyr. Mae’n naturiol ac yn ddisgwyliedig i gollwyr gwyno a lobïo – fel y gwnaeth y cwmnïau a gollodd y maes darparu theatr ieuenctid.
Fe fuasai llawer y tu allan i’r maes celfyddydol yn dadlau fod yr hyn ddigwyddodd wedyn yn arfer anfoddhaol, a dweud y lleiaf. Ildiwyd i bwysau, a chafwyd cyfnod o ansicrwydd i’r cwmnïau llwyddiannus. ‘Roedd hyn ynddo’i hun yn anfaddeuol – pa hyder mae’r cyhoedd i fod i’w gael mewn corff cyhoeddus (rhannol atebol i’r cyhoedd) sy’n gwneud penderfyniadau, yna’n tynnu’n ôl oherwydd crochlefain gwrthwynebwyr? (sy’n atebol i bwy?)
Gadewch i ni ddod yn es at y penderfyniad i chwit-chwatio yn achos Theatr y Frân Wen. Gadewch i ni fod yn bry ar wal un o bwyllgorau’r Cyngor. Mae i Gyngor Celfyddydau Cymru bwyllgorau rhanbarthol – a rhag i bleidwyr y rhaniad ffug rhwng de a gogledd Cymru gwyno am gwffio parhaol yr hwntws a’r gogs, ‘doedd a wnelo hyn ddim â’r ffeit honno. Mae gan y pwyllgorau rhanbarthol gynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol – mae hyn i fod i sicrhau democratiaeth (bosib) a doethineb (s’gwn i?). Dywedwyd yn blaen y buasai rhai siroedd, rhai awdurdodau addysg, yn debyg o fynd dros y ffin i Gaer neu Lannau Mersi am ddarpariaeth theatr i bobl ifainc pe blynid at y penderfyniad.
Y penderfyniad oedd i roi’r gwaith i Theatr y Frân Wen. Maent yn gwneud gwaith yn Gymraeg. Siaradwn yn blaen am hyn – hyn oedd y maen tramgwydd i gynrychiolwyr democrataidd pwyllgor y Gogledd. Awn dros y ffin, sicrhawn wasanaeth gan actorion o Lannau Mersi neu Gaer, rhag i’n hieuenctid gael eu llygru gan ddarpariaeth ddwyieithog. Yn Gymraeg ac yn Saesneg. Edrychwn ymlaen gyda diddordeb i weld y ddarpariaeth y gall y cwmnïau o’r ochr arall ei gynnig i ysgolion Gwynedd, Môn a ‘r hen Glwyd (o, oes mae yna Gymry ar ôl yn fanno, credwch neu beidio).
Dim ond er mwyn pechu’r ddwy ochr, gwrth-drowyd y penderfyniad am y theatrau wedi’r gwrthwynebiadau ffyrnig. Yna’i wrth-droi wedyn. Wel, yr oedd y penderfyniad yn gytbwys o leiaf – erbyn hyn, ‘roedd pawb wedi gwylltio, y collwyr a’r enillwyr fel ei gilydd. Clyfar iawn, KKK.
Pwyllwn. Yr ydym yn sôn yma am artistiaid – bodau arallfydol, si_r i chi, sydd o leiaf yn medru byw gyda thrawma ac argyfyngau bywyd, ac y gellir disgwyl iddynt ymdopi â hwy. Nid fel, dyweder, pobl mewn swyddfeydd, gweinyddwyr, na therfir ar eu bywydau hamddenol.
Ysywaeth, nid yw hyn yn wir cyn belled ag y mae ffiasgo Cyngor Celfyddydau Cymru yn y cwestiwn. Oherwydd yn gweinyddu’r grantiau hyn, yn trefnu pwyllgorau a digwyddiadau a materion di-nod anniddorol bywyd, y mae rhai gweinyddwyr a gweithwyr swyddfa. Yr unig draferth yw nad yw’r gweinyddwyr hyn – ac yr ydym yn sôn am ffurfwyr polisi ar y naill law, ac ar y llall am yr ysgrifenyddesau a’r bobl sydd yn gwneud y gwaith (di-ramant ond defnyddiol) o sgwennu’r sieciau i fynychwyr pwyllgorau a pherfformwyr – nid ydynt hwy yn gwybod o ddydd i ddydd a fydd ganddwynt swydd y mis, y misoedd, y flwyddyn nesaf ai peidio. Maent yn bobl gyda theuluoedd, gyda chyfrifoldebau, gyda morgeisi.
Am gorff sy’n anelu at safon cydnabyddiaeth Buddsoddwyr mewn Pobl, tydi hyn ddim yn arfer da. Tydi o ddim yn gwneud andros o lot o les i’r celfyddydau, chwaith.
Ydyn, mae pethau’n newid. Mae pennau’n rhowlio, ac adroddiadau ar flerwch ariannol yn cael eu cyhoeddi. Hysbysir y cyrff fydd ar flaen y gad, hyd yn oed. Er, a yw diwrnod ymlaen llaw yn ddigon? Cafodd y cwmnïau a’r cyrff oedd â diddordeb flaen-gopi o adroddiad beirniadol price Waterhouse ar y dydd Iau: fe’i cyhoeddwyd ar y ddydd Gwener. Gwelliant, ond could do better o ran ymgynghori â’r prif chwaraewyr, laswn i feddwl.
awdur:Meg Ellis
cyfrol:453, Hydref 2000
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com