LLWYFAN I FERCHED
Mae gwaith theatr a berfformir yn yr Eisteddfod yn ffrwyth cydweithio rhwng actoresau Cymraeg a merched o fyd y theatr mewn gwledydd eraill. Charmian Savill sy’n egluro athroniaeth Prosiect Magdalen
Ers geni’r syniad am Brosiect Magdalena yng Nghaerdydd yn 1986, mae Jill Greenhalgh, y cyfarwyddyd artistig, wedi trefnu gweithgareddau ar hyd a lled Ewrop. Prif amcanion y prosiect yw ehangu ymwybyddiaeth o gyfraniad menywod i’r theatr gyfoes, eu hybu i archwilio ffyrdd newydd o greu theatr sy’n adlewyrchu eu profiad yn well, a bod yn fforwm iddynt ymchwilio i’w rhan yn nyfodol y theatr a chwestiynu’r fframweithiau presennol. Y gobaith yw creu cyfleoedd i fenywod weithio gyda’i gilydd i greu perfformiadau. Darperir hefyd weithgareddau addysgiadol, gweithdai a chynadleddau fel y gall menywod rannu, datblygu a dangos eu gwaith.
Mae Prosiect Magdalena yn un rhyngwladol a reolir gan fwrdd ymgynghorol sy’n cynnwys aelodau o’r Eidal, Denmarc, yr Almaen a Ffrainc. Trefnwyd eisoes ddeg prosiect yng Nghymru (ar wahân i un yn Aberystwyth) ar themâu fel ‘Iaith menywod mewn theatr’, ‘Ysgrifennu ar gyfer theatr sy’n seiliedig ar ddelwedd’ ac yn y blaen.
Nid yw’r prosiect yn osgoi termau fel ‘nwyd’ ac ‘enaid’; mae yna awydd cyffredinol i adlewyrchu cyflawnder y strwythur artistig benywaidd. Oherwydd hynny, roedd pryder ymhlith aelodau’r bwrdd pan soniwyd am ‘ddiffinio’ - pryder y byddai hynny’n caethiwo ac y byddai peryg i’r holl beth fynd yn bregethwrol a ddiffrwyth. Dywedir hyn yn adroddiad Chris Fry, un o aelodau’r bwrdd, ar y cyfarfod rhyngwladol cyntaf yn Ebrill 1990, ond yn yr un adroddiad ychwanegir fod gan y Prosiect synnwyr solet iawn o’i hunaniaeth, yn deillio o brofiad uniongyrchol. Anaml iawn ceir disgrifiadau o fframweithiau benywaidd ym myd theatr; mae menywod sydd yn gweithio yn y theatr brif-ffrwd yn tueddu i ddefnyddio strwythur gwrywaidd oherwydd eu safle gwan mewn byd lle mae dynion yn y mwyafrif. Fel arfer mae systemau traddodiadol o weithio, lle mae’r cynnyrch yn arwain. Dilyna Magdalena lwybr mwy cylchynol sy’n rhoi blaenoriaeth i’r broses o greu.
Gofynnodd Lis Hughes Jones o gwmni Brith Gof, un o arweinwyr y prosiect yn Aberystwyth, Canu o Brofiad, i’r cyfranwyr ddefnyddio sror_au personol fel man cychwyn, yn y gobaith y byddai modd creu cysylltiad mythig. ‘Crewyd diwylliannau o stor_au sydd yn cael eu casglu ynghyd fel cyfres,’ meddai Lyotard, gan fynd rhagddo, ‘môr o stor_au yw hanes, stor_au sy’n cael eu trosglwyddo, eu dyfeisio, eu gwrando a’u hactio...mae’n glwystr o filoedd o stor_au bach sydd yn ofer ac yn ddifrifol ar yr un pryd, sydd weithiau’n chwalu’n elfennau unigol, ond sy’n glynu gyda’i gilydd yn ddigon da i ffurfio'r hyn a elwir yn ddiwylliant cymdeithas wâr’. Mae’r disgrifiad yma o adeiladwaith diwylliant yn berthnasol iawn i athroniaeth hylifol Magdalena.
Diolch i Magdalena, am y tro cyntaf yng Nghymru mae yna fur o gefnogaeth i fenywod eu hymrwymo’u hunain fel awduron. Fel y dywed Chris Fry, ‘Mae’r cyfle a’r gefnogaeth yna, ond o fewn y rhain mae yna her - nid yw Prosiect Magdalena yn gadael i chi bwyso yn ei erbyn ond fe fydd yn eich cefnogi chi cyhyd ag y sefwch chi.’ Mae athroniaeth Magdalena yn cynnig ffordd newydd o fod yn rhan o’r theatr, boed hynny fel perfformwraig neu fel aelod o’r gynulleidfa.
awdur:Charmian Saville
cyfrol:355 / 356, Awst /Medi 1992
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com