Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

DISODLI’R THEATR REALISTIG

Fe newidiodd drama Tennessee Williams, The Glass Menagerie, gwrs y theatr Americanaidd yn y pedwardegau. Yma, mae Hazel Walford Davies yn gosod cynhyrchiad diweddar Cwmni Theatr Gwynedd o’r cyfieithiad Cymraeg newydd yng nghyd-destun hanes a natur y ddram

Yn ystod hydref 1938 ffarweliodd Thomas Lanier Williams â’i gartref yn St Louis, Missouri. Fel Tom yn The Glass Menagerie nid aeth i’r lleuad; aeth ymhellach o lawer na hynny, ‘gan mai amser ydyw’r pellter mwyaf rhwng dau le’. Yn unig a dibwrpas, teithiodd drwy ddinasoedd America, ac ynghanol gweddillion cymdeithas yn Vieux Carre, New Orleans, daeth yn ymwybodol o beth a phwy ydoedd. Sylweddolodd bod ei wreiddiau’n ddwfn yn niwylliant taleithiau’r De America, a’r gaeaf hwnnw, ailfedyddiwyd ef yn ‘Tennessee’ Williams.

Eironi ei yrfa yw’r ffaith mai Hollywood oedd yn rhannol gyfrifol am ei lwyddiant fel dramodydd. Yn 1943 aeth Williams at MGM i addasu ei stori ‘Portrait of a Girl in Glass’ ar gyfer y sgrin, a dewisodd y teitl, ‘The Gentelman Caller’ fel teitl i’r ffilm arfaethedig. Pan wrthodwyd y sgript gan MGM enciliodd Williams i draeth ger Santa Monica. Yno trawsnewidiodd y deunydd a daeth y sgript ffilm yn ddrama lwyfan, The Glass Menagerie. Perfformiwyd hi am y tro cyntaf yn Chicago ym mis Rhagfyr 1944, ac ar Fawrth 26, 1945, diwrnod penblwydd Tennessee Williams yn drigain a phedwar oed, symudodd y cwmni i Efrog Newydd. Ar noson y perfformiad cyntaf yn theatr y Playhouse, Broadway, roedd pawb yn y gynulleidfa’n ymwybodol eu bod wedi gweld un o ddramâu mawr y ganrif, drama a newidiodd hanes a natur y theatr yn America. Yn y nodiadau cynhyrchu ceir y maniffesto a fu’n gyfrifol am ffyniant ‘Arddull Americanaidd’ byd-enwog y pumdegau. Dylanwad Menagerie a dyhead Williams i ymestyn ffiniau’r theatr a greodd yn 1947 y bartneriaeth ffrwythlon rhwng y dramodydd, y cynllunydd Jo Mielziner a’r cyfarwyddwr Elia Kazan.

Yn Chicago yn ystod gaeaf 1944 rhoddodd Williams ryddid llwyr i Jo Mielziner a’r cyfarwyddwr Eddie Dowling anwybyddu ffurfioldeb confensiynau realistig wrth lwyfannu Menagerie. Yn ei nodiadau mae’n honni bod ‘y ddrama uniongyrchol realistig gyda’i rhewgell a’i chiwbia iâ go iawn, ei chymeriadau sy’n siarad yn union yr un fath â’r gynulleidfa, yn cyfateb i’r tirlun academaidd ac mae iddi’r un rhinwedd â thebygrwydd ffotograff.’ Ymhyfrydai Williams yn effeithiolrwydd technegau mynegiannol ac yng ngrym symbolau theatrig a barddonol, ond pwysleisiodd yn y nodiadau mai swyddogaeth pob techneg theatrig oedd dehongli profiad a chyrchu at y gwirionedd. Ei fwriad oedd creu ‘theatr newydd blastig’, theatr nerthol a chyfoethog a fyddai’n peri adfywiad ym myd y ddrama Americanaidd. Rhaid, yn ei dyb ef, oedd disodli theatr confensiynau realistig, theatr a oedd wedi chwythu’i phlwc.

Nid oedd y syniad o theatr blastig yn un cwbl newydd yn America. Ym 1928 defnyddiodd Edward Gordon Craig (mab Ellen Terry) rai o’r technegau goleuo a sain a welir yn Menagerie yn ei gynlluniau ar gyfer perfformiad o Macbeth yn Efrog Newydd, ac roedd grwpiau’r Theatr Federal Project yn y tridegau wedi mabwysiadu confensiynau’r theatr fynegiannol a thechnegau synthesisio Richard Wagner. Arbrofodd Eugene O’Neill mewn dramâu fel The Emperor Jones (1920) a The Hairy Ape (1921), a rhoddwyd stamp Americanaidd ar fethodoleg actio a chyfarwyddo gwaith dramodwyr fel Thornton Wilder, Clifford Odets a William Saroyan. Diau y byddai Williams ei hun wedi ei drwytho yn hanes a theori datblygiadau theatrig Ewrop ac America gan ei athro, Hamilton Wright Mabie, ym Mhrifysgol Iowa, a chan John Gassner ac Erwin Piscator yn The New School for Research yn Efrog Newydd. Ond efallai mai’r dylanwad fwyaf ar arddull Menagerie oedd ffyniant y grefft o ‘misse-en-scene’ yn America a dylanwad cewri cynllunio fel Robert Edmond Jones, Lee Simson a Norman Bel Geddes. Ym 1941 ymddangosodd The Dramatic Imagination gan Robert Edmond Jones, lle mae Jones yn rhagweld dyfodol newydd i’r theatr yn ystod y pedwardegau a’r pumdegau: ‘Cyn bo hir bydd dramodydd newydd yn gosod sgrin ffilmiau ar lwyfan uwchben a thu ôl i’w hactorion, ac yn dangos, ar y run pryd, ddau fyd, byd yr ymwybod a’r isymwybod, sef cyfanswm yn byd allanol a’r mewnol, byd gwrthrychol realiti a byd goddrychol y cymhelliad. Ar y llwyfan cawn weld cymeriadau’r ddrama, ac ar y sgrin cawn weld yr hunan cuddiedig, dirgel.’

Dyma ragweld techneg Menagerie lle defnyddir sleidiau, delweddau sgrin a chonfensiynau’r ffilm. Yn nrama Williams plethir y gwrthrychol a’r goddrychol, y gorffennol a’r presennol, realiti allanol lac atgof. Yn Menagerie cyfunir theatr realistig Broadway’r tridegau a theatr arbrofol grwpiau avant-garde, aden chwith y Federal Theatre Project. Mae confensiynau’r theatr realistig yn cydnabod bodolaeth ‘y bedwaredd wal’ ac mae Williams yn cydnabod bodolaeth y wal hon yn Menagerie. Ar ddechrau’r ddrama hunangofiannol, cyflwynir ni i sefyllfa’r teulu Winffield gan Tom y mab. Nid cymeriad yn y ddrama deuluol yw Tom pan egyr y ddrama ond ‘person go iawn’, sylwebydd sy’n cyflwyno ‘drama atgof’ i’r gynulleidfa, drama a berfformir y tu cefn i bedwaredd wal dryloyw. Yn ystod yr olygfa agoriadol gwelir y wal hon yn diflannu ac ni welir hi eto tan araith olaf Tom. Ond mae Williams wedi sefydlu’r confensiwn. Tanseilir y confensiwn realistig pan sylweddolir nad realiti gwrthrychol sy’n cael ei gyflwyno gan Tom ond digwyddiadau, cymeriadau ac emosiynau a welir drwy’r hyn mae ei atgof yn ddewis a’i lunio. Yn y sgript wreiddiol mae’r iaith theatrig, y miwsig, y goleuo, y scrims a’r delweddau sgrin yn arwain at realiti pellach, sef realiti goddrychol Tom Wingfield.

Gan ei bod yn ymddangos fel drama realistig perfformir Menagerie yn amlach gan gwmnïau amatur ym Mhrydain na’r un ddrama arall o eiddo Tennessee Williams. Gan mai drama atgof yw hi un o’r prif beryglon wrth ei pherfformio yw gorbwysleisio’r elfen sentimental sydd ynghlwm wrth y fath genre. Er mwyn osgoi hyn rhaid wrth effeithiau technegol medrus a set gelfydd. Yng nghynhyrchiad Theatr Gwynedd o Y Werin Wydr, cyfieithiad newydd Annes Gruffydd o Menagerie, rhan allweddol o lwyddiant y cynhyrchiad oedd gwaith sain, goleuo a set y cynllunydd John Jenkins. Roedd y llwyfan gwydr gyda’i ymylon toredig, y muriau brics uchel a’r hysbysebion Americanaidd ymosodol a grogai o’r nenfwd yn adlewyrchu byd mewnol, briwedig y teulu a bygythiad allanol, hyderus dinasoedd America. Drwy gydol y cynhyrchiad roedd y goleuo a’r effeithiau sain yn pwysleisio’r gwahaniaeth dybryd rhwng hyfdra dinas y fflachiadau neon a thywyllwch ingol bywydau Tom, ei fam Amanda a’i chwaer Laura, yn eu cartref yn un o slymiau hagr St Louis, Missouri.

Yn ei gyfarwyddiadau llwyfan rhydd Williams gryn sylw i bresenoldeb y ddihangfa dân ar set Menagerie. Mae’n brop cwbl realistig, ond mae hefyd yn symbol o stad emosiynol a dyheadau’r cymeriadau. Roedd yn drueni, felly, fod y cynllunydd wedi cyfyngu’r ddihangfa i ddau ris bach digon di-nod yn arwain o ystafell fyw weddol agored. Yr hyn na lwyddodd y sêl i’w gyfleu oedd y clawstroffobia a’r syniad o gaethiwed sy’n llamu o sgript Williams. Nid yw’r ddihangfa sy’n arwain i fyd cyffrous St Louis o gymorth o gwbl i Laura, a chlywn hi’n baglu ar y grisiau, ond wrth eistedd ar nos o wanwyn ar ris ucha’r ddihangfa, gall ei mam ddianc i’r gorffennol drwy ddrws dychymyg. Siglen ar gyntedd cartref ante-bellum Delta Mississippi yw’r ris iddi hi, ac oddi yno gall weld holl hyfrydwch colledig ei hieuenctid. Mae’r ddihangfa yn galluogi Tom i ddianc yn llythrennol o’r aelwyd, a cheir cyfeiriad penodol ar ddiwedd y ddrama at this fire-escape. Nid damwain chwaith yw’r ffaith ei fod yn colli allwedd y cartref wrth iddo ddringo’r ddihangfa. Hyd yn oed yn yr olygfa gyntaf mae Tom eisoes wedi colli gafael ar yr hyn sy’n ei glymu wrth fywyd trist ei fam a’i chwaer. Mae cymaint o’r hyn sydd gan y ddrama i’w chyfleu yn weledol ar y llwyfan yn ymwneud â phrop allweddol y ddihangfa dân, a chredaf y buasai rhoi mwy o amlygrwydd i’r prop hwn wedi cynorthwyo’r actorion a’r gynulleidfa i ddehongli sgript Williams. Y gwir amdani yw bod y ddihangfa mor allweddol i Tom ag yw’r Menagerie i Laura.

Drama wedi ei lleoli yn Missouri, un o daleithiau’r De yw Menagerie, ac mae awyrgylch, ieithwedd a thymheredd y taleithiau’n cyfoethogi ei hapêl ar lwyfan. Yn y rhan gyntaf mae’n aeaf yn Wingfield. Yn yr ail ran daw gobaith gyda dyfodiad y ‘gentleman caller’ a dyfodiad y gwanwyn. Mae’r gwanwyn yn y ddrama yn un arbennig o boeth, ac mae’r ddeialog yn llawn cyfeiriadau at y trymder a’r gwres. Adlewyrchir y tensiynau a’r trymder yn ymateb y cymeriadau i’w sefyllfa. Yng nghynhyrchiad Graham Laker crisialwyd oerni gaeafol y rhan gyntaf yn agwedd rewllyd Tom tuag at Amanda a’i gartref ac yn y goleuo a’r gwisgoedd. Yn yr ail ran nid ymatebodd yr actorion yn ddigonol i’r hyn a ddywed y ddeialog am drymder symbolaidd tymheredd St Louis, a cham gwag oedd gwisgo’r ‘gentleman caller’ mewn pwlofer gwlân fair-isle. Yng ngeiriau Amanda, ‘Light clothes an’ light food are what warm weather calls for.’

Roedd gwisgoedd yn chwarae rhan allweddol yn theatr blastig Williams, ac yn y cyswllt hwn, siomedig oedd cynhyrchiad Theatr Gwynedd. Pan ymddangosodd Amanda (Christine Pritchard) yn ei gwisg ysblennydd yn ail ran y ddrama edrychai’n wirioneddol drawiadol. Ond nid gwisg y ‘southern belle’ ifanc oedd hon, ond gwisg arglwyddesau gosgeiddig llysoedd Ewrop. Nid pwynt dibwys mo hwn. Wrth anwybyddu cyfarwyddiadau Williams, ‘She wears a girlish frock of yellowed voile with a blue silk sash .... the legend of her youth is nearly revived’, collwyd holl naws hiraethus a thelynegol drama Williams. Edrychai Christine Pritchard fel tywysoges, ond ni chaniataodd y wisg iddi gyfleu breuder a diniweidrwydd merch ifanc yn yr hen daleithiau’r De. O graffu ar ddramâu eraill Williams, nid damweiniol ychwaith yw’r cyfeiriad at ‘blue silk sash’. Dyma’r lliw a ddefnyddir ganddo dro ar ôl tro i gyfleu naws atgof a diniweidrwydd.

Rhaid mai un o amcanion y cyfarwyddwr oedd osgoi sentimentaliaeth, a llwyddwyd i wneud hynny drwy gydol y cynhyrchiad. Bu Graham Laker yn ddigon dewr i wneud defnydd rheolaidd o’r delweddau sgrin y tu ôl i’r actorion, delweddau dieithrio arbennig o lwyddiannus. Arbrofodd hefyd drwy grogi mobiles uwchben y set, gan beri iddynt symud yn gynhyrfus ac adweithio i’r hyn a ddigwyddai islaw ar y llwyfan. Mae’r cynhyrchiad hwn o Menagerie yn adlewyrchu naws unigryw theatr Williams, theatr lle cyfunir y gwrthrychol a’r goddrychol drwy gyfrwng delweddau llwyfan trawiadol. O safbwynt yr ochr dechnegol dyma un o’r cynyrchiadau gorau welais o’r ddrama.

Tom yw’r sylwebydd, ond drama Amanda yw hon, fel yr amlygwyd yn glir gan Laurette Taylor yn y cynhyrchiad cyntaf ym 1944, ac fel yr amlygwyd gan Christine Pritchard yn Theatr Gwynedd. Ar ddiwedd y ddrama, credaf fod y cyfarwyddwr wedi peri i gyumeriad Amanda ymbellhau’n ormodol oddi wrth y gynulleidfa. Yng nghynhyrchiad Graham Laker gwelwn Amanda drwy lygaid didostur Tom, ac yn yr olygfa olaf saif fel cerflun marmor ar lwyfan a’i chefn tuag at y gynulleidfa. Nid yw’n ennyn unrhyw gydymdeimlad. Nid dyna gawn yn nrama Williams. Unwaith eto, yr allwedd i’n dealltwriaeth o’r ddrama yw’r cyfarwyddiadau llwyfan sy’n hawlio pwyslais ar ofal Amanda am ei merch ddiymadferth, ‘Now that we cannot hear the mother’s speech, her silliness is gone, and she has dignity and tragic beauty .... Amanda’s gestures are slow and graceful, almost dancelike, and she comforts her daughter ....’. Wrth beidio â chynnwys yr olygfa hon collwyd yr elfen sylfaenol o drasiedi a dycnwch yn wyneb caledi sy’n nodweddu bywyd Amanda Wingfield.

Mae trasiedi'r ferch Laura yn ddigon clir ac un o gryfderau’r cynhyrchiad oedd dawn Nia Dryhurst i gynnal nerfusrwydd mewnblyg y cymeriad. Llwyddodd Tom (Arwel Gruffydd_ fel sylwebydd, ond nid yw’n gymeriad mor ymylol ag a awgrymir gan y cynhyrchiad hwn. Mae’n sylwebydd ac yn actor ond mae hefyd yn nrama Williams yn cyfarwyddo’r digwyddiadau. Ef sy’n galw am gerddoriaeth o’r esgyll ar adegau penodol, ac yn wir, ei atgofion ef yw sylfaen y ddrama. Yn rhy aml llyncwyd Tom gan dywyllwch ochrau’r llwyfan. Rhan anodd yw un y ‘gentleman caller’ (Huw Charles), ond llwyddwyd i gyfleu anhwylder trwsgl y cymeriad. Da oedd gweld Theatr Gwynedd yn cyflwyno drama Americanaidd, ac wedi i’r cwmni gael blas ar hen ffefryn, hoffwn weld y cyfarwyddwr yn troi at un o ddramâu Sam Shepard neu Neil Simon.

Mae Y Werin Wydr, trosiad Annes Gruffydd o The Glass Menagerie, yn un arbennig o ystwyth ac yn dal hiwmor ac ysbryd y gwreiddiol. Mewn mannau, fodd bynnag, mae’n ymddangos yn anghydnaws â chefndir a lleoliad y ddrama yn nhalaith Missouri. Wrth drosi ‘honey’ i ‘cyw’, er enghraifft, a ‘donkey’ i ‘dyn du’, a ‘DAR’ (Daughters of the American Revolution) i ‘Cylch y Menywod’, credaf fod y ddrama yn teithio’n ormodol i fyd a diwylliant estron. Heb amheuaeth, cyfieithiad i Wynedd yw hwn, ac i Sir Fôn yn arbennig. Yr hyn a ddiflannodd wrth gwrs yn y cynhyrchiad oedd grym acen taleithiau Missouri a Mississippi. Mae cymaint o’r hyn sydd gan Williams i’w gyfleu yn y ddrama ynghlwm wrth acen araf, hiraethus y De. Yn olaf, hoffwn petai’r cynhyrchiad hwn o Menagerie yn teithio i ganolfannau eraill yng Nghymru gan mai dyma un o’r pethau mwyaf caboledig a gafwyd gan y cwmni ers tro byd.

Mae Hazel Walford Davies yn darlithio yn Adran Ddrama Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

awdur:Hazel walford Davies
cyfrol:355/356 Awst / Medi 1992

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk