THEATR CLWYD: BREUDDWYDWYR YMARFEROL
Mae gan TERRY HANDS a TIM BAKER, y ddau sydd wrth y llyw yn Theatr Clwyd, gynlluniau mawr ac ambell i neges ddi-flewyn-ar-dafod hefyd, fel y canfu Menna Baines.
Mae ystafell cyfarwyddwr artistig Theatr Clwyd yn un ddymunol. Gyda’r ffenest eang yn rhoi golygfa dros dref Yr Wyddgrug a bryniau Clwyd y tu ôl iddi, golygfa drawiadol ar brynhawn braf o aeaf gyda’r awyr yn goch gan fachlud. Wrth y ffenest, yn aur yng ngolau’r haul, mae potel o frandi a thri neu bedwar o wydrau glân, gwahoddgar. Ond does dim amser i edmygu’r olygfa na sipian brandi heddiw. Cwta ddeugain munud sydd gan Terry Hands, a’i gyd-gyfarwyddwr Tim Baker, i ateb cwestiynau cyn rhuthro i gyfarfod o Gwmni Theatr Clwyd.
Roedden ni’n siarad ar ddiwedd wythnos pan oedd dau gynhyrchiad newydd sbon gan y cwmni wedi agor yn y theatr, ac un arall newydd ddechrau ar daith drwy Gymru; wythnos, hefyd, pan fu Theatr Clwyd ym mhenawdau’r Western Mail bron bob dydd. Yn ôl y papur hwnnw roedd y Swyddfa Gymreig a’r Swyddfa Archwiliadau yn ymchwilio i’r modd yr oedd grant o hanner miliwn gan Loteri Cyngor y Celfyddydau wedi’i roi i’r theatr y llynedd, yn wyneb honiadau bod y Cyngor wedi torri rhai o’i rheolau ei hun wrth roi’r nawdd, a bod yr arian wedi mynd i lenwi twll yng nghyllideb y theatr yn hytrach nag at brosiect newydd.
Honiadau di-sail bob un, yn ôl Terry Hands. ‘Does yna’r un ymchwiliad, yr un ffrae, yr un sefyllfa gyfreithiol. Gofynnwch i’r Swyddfa Gymreig. Does dim byd o’i le yma,’ meddai, yn llais un wedi blino dweud yr un peth.
Y diwrnod cynt roedd yn un papur wedi cyhoeddi bod ffrwgwd rheng Theatr Clwyd a Theatr y Grand, Abertawe, gyda’r olaf yn cyhuddo criw’r Wyddgrug o ‘ddwyn’ eu cynhyrchiad o Rape of the Fair Country Alex Cordell. Mae’n ymddangos mai Abertawe hefyd oedd ffynhonnell yr honiad yngl_n â’r grant loteri, gyda dogfennau perthnasol o eiddo Cyngor y Celfyddydau yn ôl yr adroddiadau, wedi dod i ddwylo Alan Williams, aelod seneddol gorllewin y ddinas.
Nid yw Terry Hands am enwi neb, ond mae wedi’i ddiflasu gan yr hyn y mae’n ei weld fel tuedd Gymreig i geisio tanseilio gwaith da. ‘Gyda’r parch mwya’ bosibl – a dwi’n deud hyn fel chwarter Cymro, gan fod fy nain i’n Gymraes – dwi wedi dod ar draws arferiad, mewn rhai rhannau o Gymru, o ddifetha yn hytrach na chreu, o ddymchwel yn hytrach nag adeiladu. Mae’r peth yn llawer mwy amlwg yma nag yn unrhyw un arall o wledydd Ewrop, ac rydw i wedi gweithio yn y rhan fwyaf’ ohonyn nhw’.
Arian ar gyfer mynd â chynyrchiadau ar daith drwy Gymru oedd yr hanner miliwn a gafodd Theatr Clwyd. Gofyn lle mae cynllun y bob sydd wedi bod yn cwyno y mae Tim Baker, gan nodi bod arian y Loteri ar gael i bawb wneud cais amdano. Mae’r ddau gyfarwyddwr yn mynnu mai amser i gyd-dynnu yw hwn, ac nid i edliw a chreu rhwygiadau.
‘Mae’n gyfnod newydd cyffrous yng Nghymru nawr,’ meddai Terry Hands. ‘Mae yna ysbryd annibynnol newydd i’w deimlo, ac ysbryd cydweithredol newydd. Mae gennym ni gymaint i’w ddathlu. Yn lle taflu honiadau di-sail o gwmpas i lenwi tudalen flaen papur newydd a ddylai fod yn anelu at safonau cenedlaethol, oni fyddai hi’n well edrych ar yr hyn sy’n cael ei gyflawni yma yn Theatr Clwyd? Edrychwch ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud, ac os nad ydyn ni’n ei wneud o’n dda, rhowch wybod i ni. Ond peidiwch â’n beirniadu ni am ei wneud o.’
Mae bron i flwyddyn ers i Terry Hands ddod i Theatr Clwyd. Am rai misoedd cyn iddo ddod yn gyfarwyddwr, roedd wedi bod yn gweithredu fel ymgynghorydd artistig ar ran y theatr, sef dyn codi arian i bob pwrpas. Efallai ei bod yn anodd i rai ddeall apêl theatr led wledig ei lleoliad, a honno at ei chlustiau mewn dyled, i _r a oedd wedi gwneud enw rhyngwladol iddo’i hun, fel cyn-bennaeth yr RSC ac fel cyfarwyddwr ar ei liwt ei hun ym Mhrydain a thramor. Ond i Terry Hands ei hun, mae’r mater yn ddigon syml. Roedd yn hoffi’r lle ac yn hoffi’r bobl.
Roedd hefyd wedi’i syfrdanu, yn ystod ei ymweliadau cyntaf â’r Wyddgrug fel ymgynghorydd artistig, o ddeall fod Cyngor Sir Clwyd, cyn yr ad-drefnu, yn rhoi £1.5 miliwn i’r theatr - mwy nag oedd unrhyw theatr arall trwy Brydain yn ei gael gan unrhyw awdurdod lleol. Rhwng nawdd Cyngor y Celfyddydau ac arian o amryfal ffynonellau lleol, roedd y gyllideb yn £2.1 miliwn. A dyfodol y theatr yn y fantol yn dilyn yr ad-drefnu, yr her wynebai Terry Hands oedd adfer y nawdd i’w lefel wreiddiol, ac nid yw’n gyfrinach ei fod wedi defnyddio ei enw da i’r perwyl hwnnw pan ddaeth yn fater o dderbyn neu wrthod y cynnig o swydd cyfarwyddwr fis Mai diwethaf. Bellach, mae’r theatr yn ôl ar seiliau ariannol cadarn, diolch i Gyngor y Celfyddydau, y Loteri ac i Gyngor Sir Fflint, sydd wedi cynyddu eu grant ac sydd, yn ôl Terry Hands, yn esiampl loyw i awdurdodau lleol eraill yn eu cefnogaeth i’r celfyddydau.
Nid yw’r cyfarwyddwr newydd yn hoffi cael ei alw’n Sais – ‘llai o’r “Sais” yma, cofiwch ‘mod i’n chwarter Cymro’, meddai’n gellweirus. Yn sicr, mae mor ymwybodol â neb o Seisnigrwydd Theatr Clwyd mewn blynyddoedd a fu. ‘Theatr rep Saesneg oedd hi yn y bôn, yn targedu ei gwaith at Lundain’.
Mae ei waith yn ystod ei flwyddyn gyntaf wrth y llyw yn dangos nad rhethreg oedd ei addewidion ddechrau’r haf diwethaf i Gymreigio’r cwmni. Cymry yw tri chwarter y cwmni preswyl presennol, ac mae hanner y dramâu sydd ar fin teithio i’r De â chysylltiad Cymreig - Journey of Mary Kelly yn ddrama gan y Gymraes Siân Evans, Abigail’s Party wedi ei thrawsblannu i un o faestrefi Caerdydd a Rape of the Fair Country yn addasiad o nofel Alexander Cordell am fywyd yn ardal y gweithfeydd haearn ar ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol. Mae penodiad Tim Baker, sydd â’i gyfrifoldebau’n cynnwys theatr trwy gyfrwng y Gymraeg, yn arwydd arall o’r meddylfryd newydd yn Theatr Clwyd, ac ef fydd yn cyfarwyddo cynhyrchiad Cymraeg cyntaf y cwmni ym mis Mai.
Pen draig, a ‘CYMRU’ mewn llythrennau bras odano, yw logo newydd y theatr, ac mae sôn am newid enw hefyd, gyda ‘Clwyd Theatr Cymru’ yn un posibilrwydd. Tan yn ddiweddar, roedd geiriau un o adolygwyr papurau newydd Llundain am y cwn=mni - ‘the nearest thing to a National Theatre of Wales’ - wedi’u plastro ar bob rhaglen. Ond nonsens, yn ôl y ddau sydd wrth y llyw, yw ensyniadau am agenda gudd i fod yn theatr genedlaethol swyddogol.
‘Yr hyn y bydden ni’n hoffi bod, yn y pen draw, yw theatr Gymreig fydenwaog. Mae’r gair ‘Cymru’ ar ein logo ni achos ein bod ni’n falch iawn o fod yn gwmni Cymreig,’ meddai Trerry Hands. ‘Fy marn i’n bersonol yw y byddai’n rhaid i unrhyw theatr genedlaethol fod yng Nghaerdydd. Pan oeddwn i’n rhedeg yr RSC, doedd o ddim yn ein poeni ni fod yna Theatr Genedlaethol, Brydeinig felly, yn Llundain, er nad yr RSC oedd honno.’
I Tim Baker, mae’r ffaith bod cwestiwn theatr genedlaethol yn bwnc mor sensitif mewn rhai cylchoedd theatrig yng Nghymru yn tystio i ffenomenon Gymreig arall. ‘Mae o’n rhan o’n plwyfoldeb etifeddol ni. Pam na ddylai pob cwmni theatr bach yng Nghymru amcanu at fod yn theatr genedlaethol?’ gofynna. Iddo ef, cysyniad a wireddir trwy waith caled, cyson yw’r theatr genedlaethol Gymreig ac nid rhywbeth a grëir yn wleidyddol, dros nos.
‘Gan bwyll’, hefyd, yw arwyddair y regime newydd cyn belled ag y mae gwaith Cymraeg yn y cwestiwn. Cyfieithiad o ddrama Ffrangeg, yn hytrach na drama Gymraeg wreiddiol, yw Celf, y cynhyrchiad a fydd yn teithio ym mis Mai. Mae Terry Hands yn ddi-flewyn-ar-dafod wrth gyfiawnhau’r dewis.
‘Un o’r problemau wrth redeg theatr yng Nghymru yw nad oes yna ddim un awdur Cymreig mawr. Does yna ddim Ibsen Cymreig, rhywun a all roi llais i hunaniaeth ei wlad. Does yna ddim eto draddodiad mawr o ysgrifennu dramâu. O’r dramâu Cymraeg rydw i wedi’u gweld, roedd hi’n ymddangos i mi mai’r hyn sydd ei angen yw dod â’r ysgrifennu llwyfan mwya’ cyffrous yn Ewrop heddiw i sylw’r awduron Cymraeg. Mae Art, y mae Celf yn addasiad ohono, wedi’i ysgrifennu gan un o ddramodwyr cyfoes Ffrainc, Yasmina Reza, ac yn llwyddiant ysgubol yn y West End ar hyn o bryd. Ryden ni’n credu y gall dod â gwaith fel hyn i sylw dramodwyr Cymraeg fod yn gyfrwng i’w hysbrydoli hwythau i ysgrifennu rhywbeth a all fynd ar draws y byd ac a all gael ei berfformio mewn unrhyw iaith, nid rhywbeth sy’n mynd i fod yn ystyrlon yn eu hiaith nhw’u hunain yn unig.’
Mae Tim Baker yn croesawu’r cyfle i gyfarwyddo Celf, lle mae anghytundeb dau ffrind yngl_n â llun yn troi’n ddilema dyfnach, am reswm arall hefyd. ‘Mae cymaint o’n sgrifennu ni’n ddiweddar wedi bod yn ddigalon. Yn ogystal â bod yn ddrama wych, mae Celf yn ddathliad. Mae’n bryd i ninnau, yn y diwylliant Cymraeg, ddechrau meddwl may am ddathlu.’
Fydd eu darlun o gyflwr y theatr Gymraeg ddim wrth fodd pawb. Ond prin y gellir amau eu didwylledd na’u brwdfrydedd i newid pethau, ac maent yn dal i siarad wrth hel eu pethau i fynd i’w cyfarfod. Bu cynnydd o 20%, meddent, yng nghynulleidfa Gymreig Theatr Clwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, ac er mai yn theatr fach Emlyn Williams y llwyfennir Celf y gobaith mae o law yw gwneud cynyrchiadau Cymraeg a fydd yn gallu llenwi’r prif awditoriwm.
‘Wrth gwrs,’ meddai Terry Hands wrth fynd, ‘y nod yn y pen draw yw darganfod Ibsen Cymreig.’
Does ond gobeithio y bydd yr oruchwyliaeth newydd yn Theatr Clwyd yn ei lle yn ddigon hir i ddechrau creu’r amgylchiadau ar gyfer gwireddu’r math.
awdur:Menna Baines
cyfrol:422 Mawrth 1998
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com