Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

THEATR CLWYD – YR HANES

Mae theatrau Cymru’n amrywio’n fawr o ran maint, natur eu lleoliad a natur eu gwaith. Yn y rhifynnau nesaf o theatr byddwn yn ymweld â nifer ohonynt yn eu tro mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ceisio rhoi darlun mwy cyflawn nag a geir fel arfer o’r hyn sy

Petai Daniel Owen yn cael caniatâd i adael y byd arall i dalu ymweliad byr â’r Wyddgrug, yn ei hen dref enedigol, fe gâi sioc. Lle'r oedd llechwedd glas, coediog ar gwr gogleddol y dref, mae yna bellach Ganolfan Ddinesig fawreddog yn cynnwys sawl ciwb monolithig o goncrit a gwydr. Mae’r datblygiad yn nodweddiadol o’r ffasiwn bensaernďol foel, herfeiddiol sydd i’w gweld yn y rhelyw o adeiladau cyhoeddus a godwyd yn ystod y chwarter canrif diwethaf. Yn eu plith y mae Neuadd y Sir, sydd erbyn hyn, oherwydd yr ad-drefnu diweddaraf a fu ar lywodraeth leol, yn rhy fawr yn ôl pob hanes. Mae yna hefyd bencadlys i Lyfrgelloedd y Sir a Chanolfan Llysoedd Barn. Ac yna, y lle brics coch - theatr Clwyd. Mae’r adeilad hwn yn cynnwys theatr fodern sylweddol, sef Theatr Anthony Hopkins, fel y’i gelwir erbyn hyn, theatr atodol lai, sef Theatr Emlyn Williams, oriel ddarluniau, siop lyfrau a bwyty cymharol foethus. Petai’r D. O. Atgyfodedig yn cael cyfle i roi pin ar bapur, efallai y caem gyfrol newydd ganddo’n dwyn y teitl ‘Gweledigaethau’r Nofelydd Cwsg’.

Gweledigaethau (neu’n ôl rhai, obsesiwn) un dyn, yn y bôn, a roddodd fod i’r metropolis gweinyddol / celfyddydol hwn, sef y diweddar T M Haydn Rees, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fflint a Chyngor Clwyd wedi hynny. Er mai deheuwr o Forgannwg ydoedd, roedd yn dadlau’n gyson fod y De, ac yn arbennig felly Caerdydd, yn hawlio cryn dipyn mwy na’i siâr o adnoddau gweinyddol a chelfyddydol Cymru. Fe fyddai’n ailadrodd fel mantra fod gan bobl Gogledd-Orllewin Cymru, oherwydd ystyriaethau demograffig a’r diddordeb cyffredinol yn y celfyddydau, yr hawl i wasanaethau dinesig ac artistig o’r radd flaenaf.

Er bod gan Haydn Rees nifer o gefnogwyr brwd ar ddechrau’r saithdegau pan oedd y cynlluniau’n cael eu gwyntyllu, roedd y gwrthwynebwyr yn llawer mwy niferus ac uchel eu cloch. Arian oedd yn poeni’r rhan fwyaf. Sut y gallai ardal mor wledig sefydlu a chynnal y fath fehemoth? Fodd bynnag, fe gafwyd digon o arian, o sawl ffynhonnell, i gychwyn ar y gwaith yn 1973 - diolch i ddycnwch a chysylltiadau eang Haydn Rees.

Roedd ef a’i gydweithwyr hefyd wedi gwneud eu gwaith cartref. Er mai tref farchnad weddol fechan gyda phoblogaeth o ryw 10,000 yw’r Wyddgrug, y mae o fewn cyrraedd ardaloedd poblog iawn. Roedd un arolwg ar ddechrau’r saithdegau yn honni bod cymaint â phymtheng miliwn o bobl yn byw o fewn dwy awr o amser teithio i Theatr Clwyd, 412,000 ohonynt yn hen sir Clwyd. Afraid dweud mai Cymry di-Gymraeg a Saeson oedd y mwyafrif llethol.

Roedd arolwg arall yn yr un cyfnod yn dangos mai ym Morgannwg Ganol a Chlwyd oedd y cyfartaledd uchaf yng Nghymru o bobl a oedd yn mynychu theatrau, cyngherddau ac ati. Yn achos Clwyd, cafwyd fod gan tua 65% o’r boblogaeth ddigon o ddiddordeb yn y celfyddydau i fynd i weld drama neu opera ac yn y blaen yn rheolaidd neu’n ysbeidiol. Ystadegau fel y rhain a hyrddai cefnogwyr y theatr arfaethedig i wynebau’r rhai hynny a geisiai ddadlau mai gwasanaethau rhyw leiafrif elitaidd a wna’r lle.

Pan agorwyd Theatr Clwyd yn 1976 y polisi cyffredinol oedd sefydlu cwmni theatr broffesiynol Saesneg a fyddai’n teithio i theatrau newydd eraill Cymru; gweithredu fel Theatr Dderbyn trwy brynu cynyrchiadau gan gwmnďau eraill yn Gymraeg a Saesneg er mwyn helaethu ac amrywio rhaglen y theatr; a chefnogi gwaith dramodwyr o Gymru, yn cynnwys rhai Cymraeg.

Y cyfarwyddwr gweinyddol cyntaf oedd Roger Tomlinson, gwr a oedd yn weddol adnabyddus yn y cylchoedd celfyddydol yng Nghymru. Er iddo’i brofi ei hun yn weinyddwr effeithiol, nid oedd yr iaith Gymraeg yn uchel iawn ymhlith ei flaenoriaethau. Y cyfarwyddwr artistig cyntaf oedd George Roman, brodor o Hwngari’n wreiddiol, gyda chefndir academaidd ac yntau wedi bod yn ddarlithydd am gyfnod yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Er bod agwedd George at y Gymraeg yn ddigon iach, roedd cyfrifoldeb o sefydlu Cwmni Theatr Clwyd a sicrhau llwyddiant hwnnw yn golygu nad oedd ganddo’r amser na’r gefnogaeth weinyddol i ddatblygu dimensiwn Cymraeg. Ar wahân i ymweliadau achlysurol gan un neu ddau o gwmnďau Cymraeg proffesiynol fel Cwmni Theatr Cymru, roedd darpariaeth Cymraeg y theatr yn dibynnu, i raddau helaeth, ar gwmnďau amatur lleol, ac nid oedd y rheiny’n cael croeso brwd iawn bob amser. Ymhlith yr awduron o Gymru y perfformiwyd eu gwaith yn ystod gweinyddiaeth George Roman roedd Emlyn Williams, Caradoc Evans, Gwyn Thomas, Dylan Thomas, Ewart Alexander, Jeffrey Thomas a Siôn Eirian. Roedd hyn yn cynrychioli tua 6% o’r repertoire mewn cyfnod o naw mlynedd.

Dilynwyd George Roman gan enw adnabyddus iawn yn y theatr yn Lloegr, sef Toby Robertson. Roedd ganddo gefndir helaeth iawn fel cynhyrchydd dramâu, operâu, ffilmiau a dramâu teledu ar draws y byd. Serch hynny, Sais i’r carn oedd Toby Robertson ac nid oedd ganddo’r syniad lleiaf am ofynion cymdeithas ddwyieithog. Ei uchelgais fawr oedd bod Cwmni Theatr Clwyd yn cael ei weld yn y West End. I’r perwyl yma, roedd yn gwahodd rhai o actorion enwocaf Prydain i berfformio yn mewn cyfnod o naw mlynedd.

Dilynwyd George Roman gan enw adnabyddus iawn yn y theatr yn Lloegr, sef Toby Robertson. Roedd ganddo gefndir helaeth iawn fel cynhyrchydd dramâu, operâu, ffilmiau a dramâu teledu ar draws y byd. Serch hynny, Sais i’r carn oedd Toby Robertson ac nid oedd ganddo’r syniad lleiaf am ofynion cymdeithas ddwyieithog. Ei uchelgais fawr oedd bod Cwmni Theatr Clwyd yn cael ei weld yn y West End. I’r perwyl yma, roedd yn gwahodd rhai o actorion enwocaf Prydain i berfformio yn Yr Wyddgrug, yn eu plith sęr fel Vanessa Redgrave, Eileen Atkins, Anthony Hopkins a Rex Harrison. Roedd hyn yn codi proffil y theatr yng ngolwg y cyhoedd, wrth gwrs, ac yn arbennig felly yng ngolwg gohebyddion theatr y papurau newydd cenedlaethol Saesneg. Cwestiwn arall yw faint o les a wnâi hynny i’r theatr yng Nghymru.

Cafwyd enghraifft glasurol o agwedd ddi-hid Toby Robertson tuag at yr iaith a’r diwylliant Cymraeg pan wahoddwyd yr Eisteddfod Genedlaethol i ardal Yr Wyddgrug ym 1991. Yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Drama leol, gofynnais i’r cyfarwyddwr sicrhau fod Theatr Clwyd yn paratoi cynhyrchiad teilwng yn Gymraeg ar gyfer yr Eisteddfod. Addawodd yntau y byddai’n gwahodd dramodydd Cymraeg blaenllaw i sgrifennu drama newydd ar gyfer yr Eisteddfod, ac y byddai’n sicrhau rhai o actorion mwyaf adnabyddus y theatr Gymraeg i gymryd rhan. Ond er mawr siom i ni fel pwyllgor yr hyn a wnaeth oedd gwahodd Stifyn Parri i berfformio sioe undyn wedi ei selio ar fywyd a gwaith Emlyn Williams. Mae Stifyn yn berfformiwr amryddawn a chwbl broffesiynol, ond nid oedd hynny’n cyfiawnhau’r ffaith fod gweinyddiaeth y theatr wedi ymddwyn mor anfaddeuol o esgeulus a difater.

Roedd dirprwy Toby Robertson ynghanol yr wythdegau, Annie Castledine, yn barotach o lawer i ddefnyddio actorion Cymraeg. Roedd ei chynhyrchiad o The Corn is Green Emlyn Williams yn un o uchafbwyntiau’r cyfnod, ac roedd rhyw asbri heintus yn nodweddu pob un o’i chynyrchiadau yn ystod y ddwy flynedd y bu wrth ei gwaith. Roedd y gyfarwyddwraig dalentog hon hefyd yn gallu bod yn ddi-flewyn-ar-dafod, a dichon mai dyna pam y bu ei harhosiad yn Theatr Clwyd mor fyr.

Gellid dweud yr un peth am olynydd Toby Robertson, Helena Kaut-Howson, a fu’n gyfarwyddwr artistig 0 1992 hyd 1995. Iddewes o Wlad Pwyl oedd Helena a chanddi brofiad helaeth iawn ym myd opera, theatr a theledu mewn nifer o wledydd, o Israel i’r Unol Dalaethau. Gallai greu theatr gwbl wefreiddiol fel y profodd mewn sawl cynhyrchiad amheuthun, yn arbennig felly Full Moon, addasiad Saesneg o Un Nos Ola Leuad Caradog Pritchard. Galwodd un o ohebyddion mwyaf adnabyddus papurau Llundain y cynhyrchiad hwnnw’n ‘minor classic’. Petai’n addasiad o nofel Saesneg, mae’n debyg y byddai’r g_r yn ei alw’n ‘major classic’.

Yn ôl rhai, fodd bynnag, doedd doniau cyfathrebu Helena Kaut-Howson ddim mor amlwg â’r doniau creadigol. Yn anffodus, fe arweiniodd hynny at ymrannu a gwrthdaro mewnol a gwrthodwyd adnewyddu ei chytundeb. Felly, fe gollodd Theatr Clwyd wasanaeth athrylith o wraig a lwyddodd mewn amser byr i sicrhau safonau perfformio eithriadol o uchel.

Yn dilyn ymadawiad Helena Kaut-Howson, aeth Theatr Clwyd trwy gyfnod argyfyngus oherwydd problemau ariannol yn dilyn yr ailwampio dianghenraid ar y llywodraeth leol. Ar un amser, roedd yna bosibilrwydd pendant y byddai’r theatr yn cau. Fodd bynnag, fe gafwyd gwaredwr ym mherson neb llai na Terry Hands, un sydd yn cael ei ystyried, gan bawb sydd yn gwybod rhywbeth am y theatr ym Mhrydain, ymhlith y pedwar neu bum cyfarwyddwr theatr gorau yn y wlad.

Yn fuan iawn wedi iddo gyrraedd, fe ddangosodd gefnogaeth annisgwyl o gryf - fel Helena Kaut-Howson o’i flaen - i’r egwyddor y dylai Theatr Clwyd adlewyrchu’r ffaith mai theatr yng Nghymru ydyw yn fwy pendant. Yr hyn sy’n dra chalonogol yw iddo ddechrau gweithredu ar yr egwyddor honno ar unwaith, i ddechrau trwy benodi Tim Baker, cyn gyfarwyddwr treiddgar a chreadigol Theatr Gorllewin Morgannwg, fel cyfarwyddwr cyswllt gyda gofal arbennig dros waith Cymraeg a gwaith addysgol. Yna aeth ati i sefydlu cwmni preswyl o bedwar ar hugain o actorion, y mwyafrif ohonynt yn actorion o Gymru. Mae cynyrchiadau cyntaf y cwmni hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda thai llawn cyson, ac ymateb brwd iawn gan feirniaid drama’r papurau trymion. Mae cynhyrchiad Tim Baker o addasiad campus Manon Eames o nofel Alexander Cordell, Rape of the Fair Country, yn enghraifft odidog o theatr epic ar ei gorau. Y dramâu eraill yw Equus gan Peter Shaffer, cynhyrchiad hynod o rymus a gyfarwyddwyd gan Terry Hands ei hun, Abigail’s Party, comedi ddu enwog Mike Leigh ac Entertaining Mr Sloane gan Joe Orton, comedi grafog arall sy’n brathu i’r byw. Mae’r pedair i’w gweld mewn theatrau yn Ne Cymru’r mis hwn, ynghyd â dwy arall, Afore Night Come, drama arswyd gan David Rudkin, a The Journey of Mary Kelly, drama gan Sian Evans am y ferch olaf i gael ei lladd gan ‘Jack the Ripper’. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn fe fydd Tim Baker yn cyfarwyddo cynhyrchiad Cymraeg llawn cyntaf y cwmni. Dyma gam sylweddol arall yn apotheosis Theatr Clwyd.

Yn ôl traddodiad lleol fe barodd Garmon Sant (Germanus o Auxerre) i fyddin o Sacsoniaid ffoi drwy weiddi ‘Haleliwia!’ nerth ei ben. Os bydd Terry Hands a Tim Baker yn dal ati i Gymreigio Theatr Clwyd fel y maent wedi dechrau, fe fyddaf innau, ac amryw eraill, mae’n si_r gen i, yn yngan y gair ‘Haleliwia’, petai ond o dan ein gwynt.

awdur:Bob Roberts
cyfrol:422 Mawrth 1998

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk