Drama yn y Bala : Lot o Eiriau
Argraffiadau MEG ELLIS o waith tri chwmni arall yn yr Eisteddfod
Sylwadau mewn car wrth deithio o Ysgol y Berwyn tuag Eryri, a hithau’n tynnu at hanner nos:
‘Sut ar wyneb y ddaear wnei di adolygu honna?’
‘’Dach chi’n meddwl bod y busnes yna efo’r afal yn fwriadol, ‘ta ad-libio oedd o?’
‘Diolch byth nad ydan ni’n mynd trwy Betws Gwerful Goch – fedra’i byth basio’r lle yna eto heb chwerthin.’
‘Na Melin y Wig chwaith.’
‘Be ‘di hwnna ar y lôn o’n blaen ni – cysgod?’
‘Boi mewn cwfl du efo pladur.’
‘O, taw – beth bynnag wnei di, paid ag ysgwyd llaw efo fo.’
Tasech chi wedi bod yn Ysgol y Berwyn, mi fasach wedi dallt. Tasech chi’n gwrando ar yr adolygiadau yn syth wedyn, fasach chi ddim wedi dallt llawer, oherwydd tueddu yr oedan nhw i ganolbwyntio ar hwyl a digrifwch Y Bandit, Y Barwn a’r Boi Bananas. Mae yna rywbeth eitha’ doniol mewn gwrando ar adolygwyr yn baglu dros eu traed i hawlio nad oes yma neges na chenadwri na llenyddiaeth barhaol, tra ar yr un pryd yn gorfod cyfaddef eu bod wedi torri’u bolia yn chwerthin.
Ai dyma ddylai drama gomisiwn fod? Bwriais fy meddwl yn ôl i’r tro diwethaf y bûm yn Ysgol y Berwyn yn gwylio drama gomisiwn: hwyrach i Mae B greu dipyn o dân, ond doedd o’n ddim i’r mwg gododd o gefn y llwyfan y noson gyntaf honno, a gyrru John (Hughes bryd hynny) a Lis Miles a Chymru Fydd a’r gynulleidfa allan ar alwad nid y Corn Gwlad ond y gloch dân.
Fflamgoch oedd hi’n nrama’r Bala ’97 hefyd. Ac er, hwyrach, y bydd yn anodd rhoi Y Bandit, Y Barwn a’r Boi Bananas ar gof a chadw fel dramâu Saunders, onid ydan ni, ac onid ydi Cwmni Theatr Gwynedd, yn nes at ei ddelfryd ef o gwmni proffesiynol o actorion hyfforddedig? Ac os ydi’r cwmni proffesiynol hwnnw ym medru llwyfannu comedi gyfoes, os diflanedig, gydag adleisiau hanesyddol, beth well? I ddweud y gwir, ac ystyried sefyllfa dila comedi teledu (yn Saesneg yn o gystal ag yn Gymraeg), mae’n wyrth fod y cwmni wedi cael pawb yn y gynulleidfa, o bob oed, i chwerthin o’i hochor hi.
Ac eto, nid gwyrth oedd hi, ond cyd-chwarae, a phroffesiynoldeb. Rydw i’n troedio ar dir peryglus wrth ddechrau enwi - ond pam lai? Does dom posib peidio ag enwi Maldwyn John; dim ond perffeithydd allai ymddangos mor wirion a ffwr’-â-chdi, a llwyddo bob gafael. Er hynny, nid seren unigol yn cynnal cast gweddol oedd o, ac y mae hynny yn arwydd arall o broffesiynoldeb. O feistrolaeth Wynford Elis Owen, yn llithro o’r abs_rd i’r macâbr, i ffresni a sbonc Ffion Wyn Davies (yr unig wylliad na fu’n rhaid iddi lifo na thyfu ei gwallt?), i waith meistrolgar Graham Laker, a chaneuon boncyrs - ac yn wir, holl waith sgwennu - Emlyn Gomer, roedd y cyfan, os nad yn goelcerth, o leia’n cadw’r fflam ynghynn.
Doeddwn i ddim wedi bwriadu dal ati â’r delweddau o dân a chynhesrwydd nes i mi lanio yn Llandderfel. Doeddwn i ddim chwaith wedi bwriadu gweld holl Ffrwyth Llafur Dalier Sylw / Theatr Gorllewin Morgannwg ar yr un eisteddiad, ond peth fel ‘na ydi Steddfod, a fedrwn i ddim ond edmygu stamina’r adolygydd a gyrhaeddodd Landderfel a’i gwynt yn ei dwrn wedi bod ym mherfformiad Theatr Solo yn Theatr y Maes. O ia, a’r gwres. Hwyrach bod fy ngyrru i adolygu dramâu Eisteddfod yn ffordd o warantu hinsawdd dda, wn i ddim, ond tebyg oedd fy mhrofiad ddwy flynedd yn ôl; graddol doddi mewn neuadd bentref - a gwylio campwaith oedd yn goresgyn y gwres. Y tro hwnnw, Owen Garmon yn rhoi perfformiad ei fywyd yn Fel Anifail - gyda Dalier Sylw, fel mae’n digwydd, a oedd yn y brywes y tro hwn hefyd. Yn Llandderfel, mwy nag un rhyferthwy o berfformiad, a chip eto ar sgwennu gwirioneddol afaelgar. Ac yr oedd yna sgwennu.
Yr oedd yna sgwennu. Ddylwn i ddim gorfod ail-bwysleisio hynny, ond wedyn, cofiais gyfweliad ar Radio Cymru cyn i’r dramâu gael eu perfformio, pan ofynnwyd i’r actorion a oedd hi’n anodd eu hymarfer - ‘Mae ‘na lot o eiria ynddyn nhw’! Wnaiff rhywun plîs ddweud wrth ddarlledwyr ac eraill sydd i fod yn ddeallus mai geiriau ydi hanfod drama? Ia, wn i am Pinter ac am feim, ond mi ddyweda’i eto - geiriau ydi hanfod / defnydd / rheswm / bodolaeth drama. Fel arall, fasa waeth i mi fod wedi’i hel hi efo Brith Gof i’r goedwig y Steddfod hon ....
Rydw i’n falch mai aros yn Neuadd Bro Derfel wnes i. Nid y gwres a orfu yno, ond y dramâu byrion ddiwedd y prynhawn, a gwaith dau ysgrifennwr campus gyda’r nos. Fflam gobaith yn wir.
Oes bosib cael gwirioneddau mawr mewn dramodigau neu fonologau byrion? Anodd dweud - ond yn sicr, mae’n ffordd o grynhoi profiad cyffredin mewn golygfeydd bachog, a dyna, ar y cyfan, a gafwyd ym mhedair drama’r awduron newydd. Hir Dymor Lynne Jones oedd y lleiaf llwyddiannus - efallai mai am mai hon ddibynnai leiaf ar eiriau, a mwy ar symud a cherddoriaeth. Olrheinir hynt perthynas yn ddigon deheuig, ac os mai siom a dadrithiad a gafwyd - wel, peth fel ‘na ydi bywyd. Cawn fywyd ar fwy o ras yn Draw Dros yr Enfys Bethan Evans, yn gymaint felly nes bod rhywun yn teimlo fel dweud, gyda chymeriad Sara Harris-Davies wrth siarad â’i mam ar y ffôn - ‘Anadlwch lle mae ‘na gomas.’ Dyma sgwenwraig fyrlymus sydd yn gwybod hefyd sut i newid cywair yn syfrdanol o effeithiol. Cywair gwahanol eto gydag Angladd Mewn Amlen Morgan Tomos - Anita Brookner o ddarn, i ddilyn Maureen Lipmann y gwaith blaenorol, a’r naws delynegol, hiraethus yn hyfryd. Roedd arna’i ofn pan ddaeth Tomi Dylan Wyn Williams i’r llwyfan mai stori orgyfarwydd a gaem; problemau henoed a dryswch a diffyg dealltwriaeth a gwrthdaro rhwng cenedlaethau a diwylliannau. Tipyn o gowlaid mewn cwta ugain munud? Oedd si_r - ond nid oedd byth yn feichus, ac roedd y tro ar y diwedd yn wych. Ac allan â ni i’r awyr iach.
Ac yn ôl eto wedi cwta awr, er nad oedd wedi tywyllu - y tu allan, o leiaf. Ond gwawr dywyll sydd i Spam Man (enillydd gwobr y Steddfod am y teitl mwyaf melltigedig i’w ynganu) a Cnawd fel ei gilydd -nid nad oedden ni wedi’n rhagrybuddio. Peidiwch a disgwyl glannau chwerthin felly, fuasai’r neges, ddylwn i - ond mae yna chwerthin a chwerthin. Chwerthiniad annifyr adnabod ein cymdeithas, a’r hyn y mae’r gymdeithas honno yn ei wneud i bobl oedd yn codi’n aml yn nrama grefftus Dafydd Llywelyn: ydan, rydan ninnau’n nabod rhywun sydd â rhyw ‘salwch’ bach anffodus yn ei orffennol, ac eiddgarwch ei deulu i’w ‘helpu’ ddim ond fymryn yn llai na’u heiddgarwch i guddio’r peth rhag y byd. A’r creadur ei hun? Yn ddi-waith, si_r iawn, ond prin fod hynny’n ddigon i yrru rhywun yn nyts ... ydi o? Dilynwch hynt Owen druan yn y Ganolfan Waith a’r Job Club, ac mi gewch chi weld. A dim ond Cymro bach diniwed, reit gyffredin ydi Owen - oedd yn anorfod f’atgoffa i o’r prif gymeriad yn nrama rymus John Ogwen, yn Gymysg Oll i Gyd, ac un episod o wrthdaro Cymry / Saeson yn y ddrama honno fel yn Spam Man. Fedrwn i ddim llai na myfyrio ar wir arwyddocâd yr hyn a ddywedwn weithiau pan fyddwn fel Cymry yn cael ein gwylltio gan enghraifft o sarhad neu ddifaterwch gan y Saeson neu’r Saesneg. ‘Mae o’n fy ngneud i’n wallgo.’ Wel - ydi o?
Digon hawdd dadlau mai gwallgo, honco bost ydi Tania Tryweryn a’r hen feddwyn sglyfaethus sy’n poeri yn ein hwynebau yn Cnawd. Rhagrybudd am yr iaith gref, yn sicr, ac fel cymaint o rybuddion o’r fath, yr effaith oedd niwtraleiddio a thynnu colyn o unrhyw sioc cyn dechrau. A sut bynnag, pa sioc? Yn sicr, cerddwch o gwmpas Port neu Gaernarfon fel yr awgryma’r awdur - neu hyd yn oed y Bala - a dyna glywch chi. Ar ddim ond un ystyr. A dyma pam fod yma dramodydd mwy crefftus mewn gwirionedd na chofnodwr rhegfeydd yn unig. (Gyda llaw, mae’n cydgordio’r rhegfeydd hefyd: nid cyd-ddigwyddiad ydi mai’r Cymry sy’n ei chael hi’n ddi-ffael pan fydd yr hen Gymro’n rhegi ar ei fwyaf ffiaidd yn Saesneg). Os oes sioc o gwbl yn Cnawd mae hi yn ffordd y mai iaith delynegol, ramantus y creadur meddw, truenus yn cael ei chyfochri gyda’r llif geiriau a’r rhegfeydd sydd hefyd yn rhan o’i natur. Ond dyna graidd sgitsoffrenia’r holl ddrama - yr hudoles geiria-budur ar y ffôn, a’r ‘eneth gad ei gwrthod’; yr alci, ‘dat ei ganol yn y mwd drewllyd, sydd eto rywsut yn gweld y sêr; ffieidd-dra’r cnawd, a’r atyniad anorfod tuag ato a’r ddibyniaeth arno.
Nid bod y naill ddrama na’r llall yn berffaith, ac fe ddywedwn fod mwy o angen ffrwyno a disgyblu ar Aled Jones Williams - nid er ei ddawn, ond o’i herwydd. Ond am iddo sgwennu’r ‘lot o eiria’ a drowyd gan Gwyn Vaughan Jones yn tour de force, mae’n hawdd maddau iddo. Ac am ei ddisgrifiad ddeuair o gapeli Cymru, mae’r dramodydd wedi llwyr gyfiawnhau nid yn unig ei waith ond ei fodolaeth ar yr hen ddaear ‘ma. A doedden nhw ddim hyd yn oed yn rhegfeydd ...
awdur:Meg Ellis
cyfrol:416 Medi 1997
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com