RHOI LLWYFAN I’R SGOTEG
Mae cyfieithu ar gyfer y theatr yn bwnc trafod mawr ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei drafod mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Hull ddechrau’r mis hwn, ac yn y Chapter, yng Nghaerdydd, fis Tachwedd yn ystod tymor o waith Cymraeg sydd i’w gynnal yno.
Dau sydd wedi wynebu’r her o addasu’r clasuron Groegaidd ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw yw IAN BROWN, Athro Drama Coleg y Frenhines Margaret, Caeredin, a CERI SHERLOCK, sy’n Gymrawd Ymchwil yn yr un adran. Yn y gorffennol maent wedi cydweithio ar gynyrchiadau o’r Bacchai, ac wedi symud ymlaen erbyn hyn i weithio ar Antigone gyda’u myfyrwyr, mewn gweithdai a fydd yn arwain at gynhyrchiad y flwyddyn nesaf mewn Scoteg. Yma, mae’r Cymro holi’r Sgotyn am ei argraffiadau ef o’r gwaith hyd yn hyn, ac am y Sgoteg a thraddodiad theatr yr iaith honno.
CERI SHERLOCK Pan wnaethon ni gyflwyno’r Bacchai yn 1991, roedden ni’n paratoi dau gynhyrchiad, gyda chyfieithiad Cymraeg gan Gareth Miles a chyfieithiad Saesneg gennych chi. Ond roedd darnau’r corws yn y ddau gynhyrchiad yn y Roeg gwreiddiol - penderfyniad annoeth, yn ein barn ni erbyn hyn. Atgoffwch fi sut y daethon ni at y penderfyniad hwnnw.
IAN BROWN Y rheswm roeddech chi wedi gofyn i fi weithio ar y Bacchai oedd ‘mod i eisoes wedi gwneud addasiad o’r ddrama ar gyfer cynhyrchiad gan y Prospect Theatre Company a fu ar daith yn nechrau’r saithdegau. Roedden ni’n dau’n eitha’ hoff o’r cyfieithiad Saesneg ar gyfer y golygfeydd, hyd yn oed os oedden nhw ynghlwm wrth gyfnod yr hipis o ran iaith ac agwedd. Ond roedd y darnau corws yn wan ac yn llac, a dwi’n credu i ni benderfynu eu gadael nhw yn y Roeg gwreiddiol er mwyn ceisio goresgyn y broblem honno, ac oherwydd ein bod yn teimlo y byddai hynny rhywsut yn fwy triw i’r profiad gwreiddiol sy’n cael ei fynegi - uchelgais clodwiw ond amhosib, wrth edrych yn ôl. Roedd y penderfyniad hefyd yn gydnaws â’n hawydd i dorri ar draws ffiniau diwylliannol er mwyn archwilio’r profiad Dionysaidd yn fwy trwyadl.
Rydych hefyd wedi gweithio ar Antigone o’r blaen. Sut gynhyrchiad oedd hwnnw, a sut dderbyniad gafodd e?
Pan es i at Antigone fy mwriad i oedd ail-ddehongli’r myth yng nghyd-destun diwylliant Sgotaidd cyfoes, diwylliant lle'r oedd gwrthdaro rhwng gwerthoedd crefyddol a dinesig yn dal yn beth real, a lle'r oedd yna rym mawr yn nwylo’r ffigwr gwrywaidd oedd mewn awdurdod. Ffactor arall oedd ‘mod i’n ymwybodol iawn, fel llawer o bobl ifanc ar y pryd, o’r protestio yn erbyn creulonderau Rhyfel Vietnam, ac fe ddangosodd nifer ohonon ni ein gwrthwynebiad i’r sefyllfa yn Ne Affrica, yn enwedig yn y protestiadau yn erbyn taith y Springboks yn 1969 70. Fe sgrifennais i’r addasiad o Antigone yn iaith Sgoteg achos ‘mod i am gyplysu’r profiad sy’n cael ei fynegi â phrofiad diwylliant ôl-Galfinaidd yn ailddarganfod hunaniaeth gan dynnu ar ei wreiddiau Celtaidd, Nordig ac Anglaidd, ond yn bwysicach am ‘mod i am ysgrifennu yn iaith bob dydd, fywiog y bobl o ‘nghwmpas i. Cafodd yr addasiad ei berfformio gynta’ ym 1969 gan Strathclyde Theatre Group, cwmni myfyrwyr llwyddiannus ond prin ei adnoddau, a’i atgyfodi yng Nghaeredin gan gwmni arall o fyfyrwyr ynghanol y saithdegau, o dan fy nghyfarwyddyd i. Roedd y cynhyrchiad hwnnw i’w weld yn fwy llwyddiannus, efallai am ‘mod i wedi dewis defnyddio cast o ferched, oedd yn ffordd o bwysleisio’r gwrthdaro trwy gefnu ar ddehongliad naturiolaidd syml. Cafodd y cynhyrchiad groeso gwresog, ond ro’n i’n teimlo mai dyna ben draw’r llwybr nes i’r prosiect Bacchai ail-sbarduno fy niddordeb ym mhotensial y ddrama.
Sgoteg fydd iaith y cynhyrchiad o Antigone fydd yn deillio o’n gwaith ninnau hefyd. Beth yw gwreiddiau’r Sgoteg? Yw hi mewn gwirionedd yn iaith wahanol i’r Saesneg’ ac onid Gaeleg yw llais rhanbarthol ‘go iawn’ yr Alban?
Mae’r Sgoteg wedi dod o’r Angleg, yr iaith oedd yn cael ei siarad yn hen deyrnas Northymbria. Daeth Angleg yn un o ieithoedd yr Alban achos fod y Sgotiaid wedi ailfeddiannu Lleuddiniawn (Lothian) yn 1018, ar ôl ei golli i’r Angliaid yn yr wythfed ganrif. Daeth yr iaith yma o dan ddylanwad ieithoedd eraill yr Alban ar y pryd, ac yn ddiweddarach rai o ieithoedd y cyfandir yn sgil cysylltiadau masnachol a diwylliannol. Heddiw, rydyn ni’n cydnabod tair iaith genedlaethol yn yr Alban - Gaeleg, Sgoteg a Saesneg. O leia’, mae’r tair yn cael eu gweld yn gyfartal ar Radio Scotland, yn ein system addysg ac yn ein traddodiad llenyddol cyfoes. Rydw i’n ysgrifennu yn Sgoteg a Saesneg achos mai dyna ddyw iaith fy mhlentyndod. Byddai fy nhaid a’m nain ar ochr fy nhad yn galw eu hunain yn ‘Broun’ (yn cael ei ynganu ‘Br_n’), yn cyfri ‘ane, twa, three, fower, fife, sex, seeven, aicht’. Yn yr ysgol câi plant eu dirmygu am ddweud ‘couldnae’ yn hytrach na ‘couldn’t’. Ynghanol y crochan berw hwn o iaith ac imperialaeth a gwrthwynebiad i hegemoni Seisnig, fe fyddwn i’n dweud wrth ffrindiau oedd angen pryd o dafod, ‘Awaw an bile yer heid’, a doedd gen i ddim ymadrodd Saesneg cyfatebol oedd yn hanner digon cry’.
Beth yw’r berthynas rhwng Sgoteg a Gaeleg? Yw hi’n debyg i’r berthynas rhwng Cymraeg a Saesneg Cymru? Prin fod y ddwy iaith hynny’n cydorwedd yn esmwyth - mae yna snobyddiaeth ar un ochr a pharanoia ar y llall.
Mae yna iaith sy’n cael ei siarad yn aml gan Albanwyr sydd wedi cael addysg neu wedi dringo i safleoedd uchel mewn cymdeithas, iaith sy’n cael ei galw gan yr ieithyddion yn Saesneg Albanaidd Safonol. Yn ôl fy nealltwriaeth i, Saesneg wedi dod o dan ddylanwad y Gymraeg yw iaith yr Eingl-Gymry, yn union fel y mae Saesneg Iwerddon yn Saesneg wedi dod dan ddylanwad y Wyddeleg. Mae Saesneg Albanaidd Safonol, ar y llaw arall, yn rhyw fath o gyfaddawd rhwng Sgoteg a Saesneg, dwy iaith Germanaidd sy’n perthyn yn agos er gwaetha’ gwahaniaethau o ran gramadeg a geirfa. Yn sicr mae yna elfen o dyndra rhwng siaradwyr y ddwy iaith sy’n debyg i’r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg a siaradwyr di-Gymraeg rydych chi’n eu disgrifio. Mae’r berthynas rhwng Sgoteg a Gaeleg yn symlach ac ar yr un pryd yn fwy cymhleth. Mae siaradwyr Sgoteg ar adegau wedi gorthrymu’r Aeleg lawn cymaint ag a wnaeth siaradwyr Saesneg. Mae e’n warth, ond yn wir. Yr hyn sy’n taro rhywun erbyn hyn yw cymaint o bobl sy’n ymddiddori yn nhair iaith yr Alban, ond yn enwedig mewn Sgoteg a Gaeleg.
Mae hanes diweddar Ewrop fel petai wedi cryfhau’r ymwybyddiaeth o hunaniaeth y mae iaith yn ei rhoi i genedl. Beth yw’r profiad Sgoteg / Gaeleg?
Mae Gaeleg yn elfen allweddol yn hunaniaeth yr Albanwyr heddiw, boed yng ngwaith grwpiau roc fel Runrig neu yn ymddangosiad operâu sebon ar ein teledu cenedlaethol. Mae’r ystadegau’n dweud fod yna 70,000 o siaradwyr Gaeleg brodorol, ond mae yna 150,000 o ddysgwyr ac yn ôl y BBC mae yna filiwn a hanner yn edrych ar sianeli teledu Gaeleg. Yr amcangyfri’ yw bod yna rhwng dwy a thair miliwn o siaradwyr Sgoteg, allan o boblogaeth o bum miliwn. Yn farn yn gyffredinol heddiw yw bod yn rhaid i unrhyw hunaniaeth Albanaidd gofleidio’r amrywiaeth hwn. ‘All yr un gr_p iaith honni mai nhw yw gr_p iaith go iawn yr Alban. Bu’r Alban yn amlieithog erioed, er nad yw pawb o’r Albanwyr, o bell ffordd, yn siarad pob un o’r ieithoedd.
Pwy sy’n sgrifennu yn Sgoteg? Dwi’n gwybod fod yr athronydd David Hume, er enghraifft, wedi sgrifennu ei draethodau athronyddol mewn Sgoteg ac yna wedi’u cyfieithu nhw.
Do, er iddo fe ddweud mai cael gwared â’r elfennau Sgoteg yr oedd e! Mae yna gyfoeth o waith llenyddol o’r canoloesoedd ac o gyfnod y Dadeni, o John Barbour a William Dunbar i Iago VI ei hun, bardd Sgoteg da a beirniad barddoniaeth hefyd, y cyntaf o bwys. Er bod dwyn Lloegr a’r Alban o dan yr un faner ym 1603 wedi arwain at roi blaenoriaeth i’r Saesneg, erbyn canol y ddeunawfed ganrif, ar ôl yr Uno yn 1707, mae rhywun yn gweld y Sgoteg yn dychwelyd fel iaith lenyddol bwysig yn nwylo pobl fel Robert Fergusson, Robert Burns, James Hogg ac yn y blaen hyd at yr adfywiad diweddar o dan ddylanwad rhai fel Hugh McDiarmid a Robert McLellan, adfywiad sy’n cwmpasu cenhedlaeth gyfan o sgrifennwyr Sgoteg, gan gynnwys John Byrne, James Kelman, Irvine Welsh, Peter Arnott, Stewart Conn yn ei ddramâu, Tom Bryden, Liz Lochhead, Sue Glover yn rhywfaint o’i gwaith, Rona Munro .... mae’n rhestr hir.
Mae gweithiau ar gyfer y theatr mewn categori gwahanol i farddoniaeth a’r nofel am fod eu bodolaeth yn dibynnu ar eu trosi i iaith ystumiol perfformiad. Oes yna actorion sy’n gweithio trwy gyfrwng Sgoteg? Allwch chi amlinellu hanes Sgoteg a’r theatr?
Y campwaith Sgoteg cyntaf ar gyfer y theatr oedd Ane Satyre of the Thrie Estaitis, o’r 1540au, drama sy’n cael ei hatgyfodi’n aml yng Ngwyl Caeredin. Roedd y theatr Sgoteg yn cael ei chadw dan draed rhwng diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a chanol y ddeunawfed ganrif, ond cyn gynted ag y cafodd yr iaith ei hatgyfodi, dechreuwyd defnyddio’r Sgoteg ar lwyfan unwaith eto. Yn y ganrif ddiwethaf, gwaith poblogaidd oedd llawer o’r gwaith hwnnw, yn tarddu o addasiadau o nofelau Scott, ond yn ystod y ganrif yma mae rhywun yn gweld cynnydd mawr mewn sgrifennu Sgoteg ar bynciau Sgotaidd. Mae’n debyg mai dramâu Joe Corrie am y meysydd glo, yn y dauddegau, oedd y man cychwyn. Yna fe ddaeth dramâu mwy hanesyddol Robert McLellan yn y tridegau, y pedwardegau a’r pumdegau. Ers 1970 mae yna lawer iawn o awduron wedi sgrifennu dramâu mewn Sgoteg, ac mae yn ddigon o actorion yn yr Alban sy’n gallu actio yn yr iaith - dyna iaith bob dydd llawer ohonyn nhw. At hyn, mae traddodiad theatr yr Alban yn un sy’n cwmpasu pob math o ffurfiau - variety, pantomeim, drama glasurol - ac yn sgil hynny, pob math o iaith hefyd.
Un peth cyffrous rydym wedi’i ganfod wrth weithio ar Antigone yw mor hynod o hyblyg yw’r iaith Sgoteg, ac mor addas i themâu mythaidd y ddrama ... gwerthoedd dinesig yn erbyn rhai personol neu ddynol. Beth sy’n gwneud yr iaith mor hyblyg?
Dwi ddim yn si_r iawn, heblaw bod Sgoteg yn iaith luosogaethol, syncretig dros ben - mae hynny’n amlwg o’r hyn dwi wedi’i ddweud am ei hanes hi. Mae hefyd yn wir ei bod hi’n iaith cenedl ddemocrataidd, os nad dadleugar, cenedl sydd wedi bod yn trafod trwy’r canrifoedd mewn tair iaith, ond y rhan fwya’ yn eu hiaith bob dydd, Sgoteg.
Fel academydd ac fel un sy’n sgrifennu ar gyfer y theatr, pa mor bwysig yn eich tyb chi yw’r cyfle i weithio oddi mewn i draddodiad o waith theatr, gan droi testunau mythaidd y gorffennol yn destunau byw a pherthnasol ar gyfer heddiw?
Mae’n ymddangos i mi fod astudiaethau beirniadol yn y ganrif yma, boed yn y theatr, mewn llenyddiaeth neu feysydd perthnasol fel anthropoleg a semioteg, wedi dangos ein bod ni, fel bodau dynol, yn ymateb i fythau gwaelodol sy’n rhan annatod o’r ffordd rydyn ni’n edrych arnon ni’n hunain fel unigolion ac fel creaduriaid cymdeithasol. Mae’n rhaid inni bob amser gwestiynu’n hunain, a rhan o hynny yw archwilio’r mythau sy’n ymgorffori ac yn mynegi ein gwerthoedd a’n hagweddau. Mae’n anorfod fod ailedrych ar fythau diwylliannau eraill, h_n yn help i ddeall ein bywydau’n hunain yn well.
awdur:Ceri Sherlock
cyfrol:416 Medi 1997
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com