Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Drama yn y Bala : Arbrawf Brith Gof

Roedd cynhyrchiad Brith Gof yn Eisteddfod y Bala, Hafod, yn gam mewn prosiect a ddechreuodd fisoedd yn ôl. Mae ANWEN HUWS wedi bod yn dilyn y gwaith ar ran theatr.

Ym mis Ionawr, dechreuodd Brith Gof ar ‘arbrawf’ newydd o adael i gynulleidfa ddilyn gwaith pum perfformiwr ar thema arbennig mewn cyfres o weithdai. Roedd yr arbrawf i arwain at berfformiad cyhoeddus wythnos wedi’r gweithdy olaf, perfformiadau eraill yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac o bosib taith yn Ewrop,

Fodd bynnag, gair peryglus yw ‘arbrofi’. Mae’n rhoi perffaith hawl i rywun ‘fethu’. Wedi’r cyfan pwrpas arbrawf yw creu sefyllfa ac amodau arbennig er mwyn gweld beth yw’r canlyniadau cyn dod i gasgliad. Rydym yn disgwyl gweld arbrofi yn y theatr, ond rhaid gofalu rhag defnyddio’r term fel rhwyd diogelwch sy’n amddiffynfa rhag pob beirniadaeth. Yn gyntaf, beth oedd telerau’r arbrawf?

Gan ddechrau ym mis Ionawr cafodd pum perfformiwr dri mis i gydweithio gyda’r cyfarwyddwr, Clifford McLucas, a hynny yn y math o safle anghonfensiynol sy’n nodweddiadol o’r cwmni erbyn hyn - cyn-ward seiciatrig mewn hen ysbyty wag yng Nghaerdydd. Ar ddiwedd pob mis cynhaliwyd gweithdy i ddangos pa ymchwil a wnaed, pa ddeunydd a grëwyd a thrafodwyd hynny. Hanes Thomas Johnes oedd y man cychwyn, dyn o’r ddeunawfed ganrif a adeiladodd ei baradwys ei hunan ar ffurf plasty yng Nghwm Ystwyth, sef yr Hafod. Ar ddechrau’r gweithdai nododd Clifford McLucas ei amcanion wrth ddewis y prosiect hwn, ac ymhlith y rhain oedd ei ddyhead i gydweithio â thîm o berfformwyr i greu darn o waith a fyddai’n sail i’r teithiau a nodwyd uchod. Fodd bynnag, ni roddwyd y rhesymau dros ddewis y testun. Beth yn hanes Johnes sy’n berthnasol i ni heddiw? A oes yna gyd-destun modern? Ac o dderbyn bod yna hanes diddorol i’r person hwn, pam dewis ei gyflwyno trwy gyfrwng theatr yn hytrach nag mewn llyfr, dyweder? Wrth arbrofi rhaid cael amcanion pendant i gyfeirio’r gwaith, h.y. gweledigaeth artistig. Heb, felly, ddiffiniad o weledigaeth artistig o’r thema beth oedd canlyniad y gweithdai?

Perfformiad cyhoeddus oedd y bwriad ond yr hyn a gafwyd ddechrau Ebrill oedd arddangosfa o allu pum perfformiwr i greu delweddau unigol wedi’u selio ar hanes Thomas Johnes. Cafwyd ambell ddarlun crefftus, defnyddiwyd eiconau o’r ddeunawfed ganrif megis y wig, sgidiau sodlau uchel a sane sidan, a gwelwyd y perfformiwr yn cael trafferth cerdded ar hyd ei lwybr penodol o flociau bach pren. Mae’n debyg fod Thomas Johnes yn cael ei ystyried yn egsentirg ac yn ei chael yn anodd dilyn llwybr confensiwn ei gymdeithas, ac awgrym y ddelwedd oedd bod nifer o bobl ym mhob oes yn cael yr un anhawster. Trowyd felly gnewyllyn o wirionedd hanesyddol yn ddelwedd effeithiol o rywbeth mwy cyffredinol. Ond ‘waeth iddi fod wedi bod yn arddangosiad o gelfyddyd fyw, oblegid nid yw arbrofi gyda dulliau a delweddau theatrig o anghenraid yn creu cyfanwaith theatrig.

“Yn anffodus bydd fy nghasgliad i fel a ganlyn, ‘Beth yw pwynt, bellach?’”

Ar un cyfnod roedd gwaith Brith Gof yn arloesol, herfeiddiol ac arbrofol. Bellach mae’n arbrofol ... a dyna ni. Ymhellach, mae’r cwmni mewn perygl o gonfensiynoli eu darganfyddiadau eu hunain drwy eu defnyddio fel stôr o ddelweddau a dulliau i’w harosod ar themâu. Dyma a gafwyd yn ail gam y prosiect, sef perfformiad mewn coedwig ger maes yr Eisteddfod. Perfformwyr yn defnyddio symudiadau dawns, yn cario goleuadau gan led-adrodd, lled-fwmian geiriau ac amryw yn diosg ac ail-wisgo eu dillad. Yn ôl y rhaglen roedd y cyfan wedi’i gynllunio’n fanwl i ddilyn bywyd trasig merch Thomas Johnes, Marianne, ond mewn perfformiad saithdeg pum munud dim ond un ddelwedd a adwaenais i, a minnau â’r fantais o fod wedi cael llawer o’r cefndir yn y gweithdai. O bosib, roedd y cwmni wedi canolbwyntio mor dynn ar ddelweddau nes eu bod wedi creu delweddau llaw-fer nad oeddynt yn dweud dim wrth eu cynulleidfa. Ond oni ddylai cyfarwyddwr fod yn ymwybodol o’r perygl hwnnw?

Yn anffodus, nid oedd dyfnder ychwaith i’r ddelwedd yr oeddwn i’n ei hadnabod, sef delwedd yn cyfeirio at yr afiechyd a oedd yn gwyro siâp asgwrn cefn Marianne. Ffaith hanesyddol foel yn cael ei chyflwyno yn hytrach na metaffor ehangach fel yr awgryma is-deitl y gwaith, sef ‘Bywyd mewn wyth cyfres fawr’. Roedd yma ddull effeithiol o berfformio corfforol ond heb fod o fewn cyd-destun o weledigaeth artistig.

Fodd bynnag, ni ellid gwadu nad oedd y digwyddiad yn ‘theatrig’. Yr oedd goleuadau. Yr oedd sain. Yr oedd cynulleidfa, gwisgoedd, perfformwyr, adnoddau technegol a nifer o’r gofynion eraill i gyfiawnhau defnyddio’r term. Trueni fod yr elfennau emosiynol a deallusol yn eisiau. Mewn gwirionedd yr hyn a brofais oedd digwyddiad son et lumiere wedi’i gynllunio’n grefftus. Collwyd yr ychydig prin o ddelweddau llwyddiannus o’r gweithdai, collwyd pedwar o’r pum perfformiwr gwreiddiol a chollwyd hefyd fy niddordeb i yn natblygiad y cwmni.

‘Dwn i ddim sut y bydd Brith Gof yn gwerthuso eu harbrawf nac ychwaith Cyngor y Celfyddydau. Yn anffodus bydd fy nghasgliad i fel a ganlyn .... ‘Beth yw’r pwynt, bellach?’

awdur:Anwen Huws
cyfrol:416 Medi 1997

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk