CYMRU YNG NGHAEREDIN
Argraffiadau OWEN DUDLEY EDWARDS o waith Cymreig yr Wyl
Mae Cymru yng Ng_yl Caeredin, fel y theatr Gymreig ei hun, fel ffenics. Pan mae modd ei gweld, mae’n llosgi’n llachar; dro arall rhyw ddynwarediad tila, masnachol a geir; ac fe all ddiflannu’n llwyr y tu hwnt i deyrnas chwedloniaeth. Yn y gorffennol, gwelwyd yn yr _yl berfformiadau uniaith Gymraeg; gwelwyd Cymbeline gogoneddus o Gymreig yn mynegi ei ynfydrwydd gerbron ei w_r a’i ysbrydoliaeth mewn brwydr, a hynny ar ben Calton Hill, lle ceir golygfa banoramig o’r ddinas a lle na welwyd theatr erioed o’r blaen; gwelwyd Scam yn Theatr y Traverse yn pendroni uwchben problemau gweithwyr; gwelwyd hefyd Goleg Cerdd a Drama Cymru yn poeni am broblemau hunaniaeth yr Alban a’i eiddo ei hun (pan wyddai ddigon i adnabod y rheiny). Ac ar brydiau gwelwyd Cymru’n diflannu heb adael unrhyw ôl.
Mae gan yr _yl ganolfan Gymreig dda yn Neuadd Harry Younger, ymhell i lawr y Royal Mile, yn ymyl Holyrood, allan o ffordd llawer o’r selogion ond yn ddigon hygyrch er hynny. Arferai Coleg Cerdd a Drama Cymru rannu’r lle dros gyfnod yr _yl gyda’i chwaer-sefydliad, Academi Gerdd a Drama Frenhinol Glasgow, er i awdurdodau’r coleg ei hun rwystro’r myfyrwyr rhag defnyddio enw’u coleg eu hunain tua deng mlynedd yn ôl. Unionwyd y cam gwallgof hwnnw, ac ymadawodd y dyn fu’n gyfrifol amdano. Ond mae’r Coleg yn dal i wingo’n anniddig rhwng dwy rôl fel ysgol theatr Seisnig ail-ddewis a sefydliad sy’n adlewyrchu bywyd gwlad a diwylliant ei fyfyrwyr. Eleni roedd rhai o’r staff yn bresennol, roedd y ganolfan wedi’i hail-fedyddio’n ‘Venue 13’ yn lle enw sefydliad neu gwmni Cymreig, ac roedd yno ddeg o gynyrchiadau i’w gweld, gydag un o’r rheiny yno yn lle cynhyrchiad gan Maverick Cymru, 50 Ways to Kill Your Lover, y bu mawr ddisgwyl amdano ond a ollyngwyd pan lwyddodd y prif ddyn i gale slot tymor hir yng Nghymru. Mae’r _yl yn ffair gyflogi, ac os cewch chi’ch cyflogi ymlaen llaw, wel, dyna ni - all neb gwyno.
Yn hawlio lle haeddiannol canolog yn rhaglen Venue 13 roedd cynhyrchiad Theatr y Byd, Marriage of Convenience. Cafodd y cynhyrchiad bum seren - y clod uchaf - gan y Scotsman, a synnwn i ddim na fydd wedi cipio un o wobrau’r Fringe erbyn i hyn o lith weld golau dydd. Mae’r ddrama’n defnyddio diwrnod priodas y Tywysog Charles fel delwedd o briodas arall yr un mor ‘gyfleus’, fe awgrymir, rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r ffaith fod y Tywysog a’r Dywysoges bellach wedi cytuno bod eu priodas yn anghyfleus yn gwahodd cymhariaeth bellach, ond mae’r awdur yn gadael hynny i ddychymyg ei gynulleidfa. Gareth Potter sy’n portreadu’r unig gymeriad, llanc sy’n dwyn i gof priodas drychinebus ei fam â gwrth-Gymro sy’n Gymro, dyn meddw sy’n gwneud hwyl am ben diddordeb ei lysfab yn yr iaith Gymraeg. Mae Ian Rowlands yn archwilio gwrthwynebiad Cymry i’r Gymraeg ac o’i ddatgymalu yn canfod ei fod yn wrthnysedd cymdeithasol, cydymffurfiol, parchus ac, uwchlaw popeth, snobyddlyd; ar wahân i ryw ramant diddim, mae’r iaith yn cael ei gweld yn creu embaras i’r Cymry nad ydynt yn ei siarad ynghylch eu difrawder. Mae’r awdur yr un mor llym wrth fynegi casineb y werin tuag at yr iaith ag wrth gyfleu rhagfarn fwy sidet y petite-bourgeoise neis-neis yn ei herbyn. (‘It’s the Welsh, love. Now, don’t get me wrong, it’s great that you go to Welsh school and all that. I wish I spoke the language myself, but I don’t, and neither does Wendy and that makjes a world of difference, see.’) Mor grefftus yw’r fonolog nes bod y gynulleidfa yn mynd i ffwrdd ar y diwedd yn hanner credu iddynt weld nid un actor ond sawl un - gwraig hynaws y bwtsiar, y llystad meddw neu’r fam bryderus ond gadarn yn y pen draw. Mae Gareth Potter yn taflu ei lais yn wych ac yn ddirodres.
Gwneuthurwr theatr wleidyddol heb ei ail yw Ian Rowlands, yn dod â chymeriadau yn fyw ar lwyfan trwy gyfrwng un actor neu sawl un. Mae’r set foel ond crefftus yn ategu thema’r arwr sy’n pendilio rhwng gorfoledd a thrychineb wrth ddringo ei fynyddoedd. Byddai pobl yr Alban erbyn hyn yn cael eu hunain yn anesmwytho braidd yn wyneb y fath ffydd yng ngrym adnewyddol iaith, ac mae’n debyg y byddai’r Gwyddelod dadrithiedig yn uniaethu efengyliaeth ieithyddol â chulni milain Sinn Fein. Ond dyna lle mae cryfder Ian Rowlands a Theatr y Byd. Mae angen i’r Gwyddelod yn eu dadrith, a’r Albanwyr yn eu pryder, edrych o’r newydd ar ddelfrydiaeth, yn hytrach na lladd y peth mewn pobl eraill. Yn y cyfamser, roedd y ddrama’n llysgennad iach iawn: rhaid i Gymru a’r Alban ddal ati i archwilio ei gilydd.
Hefyd yn ymddangos yn Venue 13 roedd yr Ugly Theatre Co, o brifysgol newydd Morgannwg. Ar ôl ei gynhyrchiad disglair yn y Fringe y llynedd, roedd gan y dramodydd a’r cyfarwyddwr Ken Edmonds berl arall eleni - astudiaeth sensitif o ferch sy’n colli ei llais heblaw pan fydd ym mhresenoldeb ysbryd caredig ond dinistriol yn y pen draw. Eleni, fel y llynedd, doedd y cast o fyfyrwyr ddim yn gwneud cyfiawnder â’i waith, ond roedd y ddau brif actor yn y ddrama newydd, Hopscotch, yn ddisglair, y naill yn portreadu rhywun mud a’r llall yn portreadu rhywun mud a’r llall yn portreadu rhywun wedi marw. Dyn d_ad o Wlad yr Haf yw Ken Edmonds ei hun, ond mae fel petai’n meddu ar yr offer Celtaidd angenrheidiol i godi ysbrydion fel y myn; mae angen ymdrech benderfynol , a rheolaeth glinigol, i osgoi kitch fel y gwna. Mae hyn yn cymryd soffistigeiddrwydd y gynulleidfa yn ganiataol, ac efallai nad yw hyn yn iawn ar gyfer gwylwyr ysbrydion dibrofiad; yma dylai Ken Edmonds ystyried manteision defnyddio cyfarwyddwn arall na fydd yn rhannu ei ffydd ef ei hun yng ngallu’r gynulleidfa i ddeall pob awgrym cynnil. Mae’r dyn d_ad ifanc hwn yn graddio o’r coleg eleni, ond dylai Cymru ddal ei gafael mewn cyfarwyddwr mor addawol.
Mae’n anochel fod cysgod dramodydd enwocaf Cymru’r ganrif hon yn hofran dros y theatr Gymreig. Roedd gwaith Ian Rowlands weithia’n adleisio cywair Quite Early One Morning a Portrait of the Artist as a Young Dog Dylan Thomas (y ddau waith wedi’u llwyfannu’n grefftus gan un o gynser y Fringe, Peter Florence); ac roedd ysbryd Ken Edmonds yn gwahodd cymhariaeth â chysgod mor ddiniwed, hyd yn oed â Osie Probert. Ond gan gwmni theatr Volcano, yn y Pleasance, y cafwyd y deyrnged fwyaf yng ng_yl eleni i Under Milk Wood. Mae eu cynhyrchiad nhw, The Town That Went Mad, yn gwneud defnydd anhygoel o theatr gorfforol o amgylch caets symudol i roi ystyron newydd i ddrama Dylan Thomas (er mawr anfodlonrwydd i’w ystâd). Fydd o ddim at ddant pawb, ond mae ei ysbryd anturus, ei egni ysbrydoledig a’i barodrwydd i fynd mor bell â phosib y tu hwnt i’r confensiynol, yn dwyn i gof gampweithiau Edward Thomas, ac mae’r gwaith ynddo’i hun yn hawlio i Dylan Thomas y cyd-destun oddi mewn i’r traddodiad Cymreig sy’n cael ei warafun iddo mor aml. Mae’r olygfa agoriadol o’r meddwyn yn y caets yn dwyn i gof yn syth ddiwedd dirdynnol clasur Richard Hughes, The Man Born to be Hanged, ac mae’r testun yn gwingo o dan ddirmyg chwerw, oer Caradoc Evans, tra’n cymeradwyo goddefgarwch Dylan Thomas.
Yn y Cafe Royal roedd cynyrchiadau bobo yn ail o The Man in the English Lunatic Asylum a The Man in the Welsh Lunatic Asylum, y ddwy gan Dedwydd Jones. Mae’r actor Michael David, un o wynebau cyfarwydd yr _yl, yn rhoi perfformiad rhagorol fel prif gymeriad yn y gyntaf o’r rhain (ac, yn ôl adolygydd hollol ddibynadwy’r Scotsman, Colin Afflek, yn yr ail hefyd, a gafodd groeso gofalus ganddo ef er i mi fethu ei gweld). Yn ei ran fel twyllwr a snob o Sais dosbarth uchaf, mae Michael David yn argyhoeddi cystal ag y gellid disgwyl; ac yn wir, yn gwneud yn well na hynny, gan fod y ddrama yn ymosod ar fyd sydd mor ddyddiedig ag Evelyn Waugh. Mae’r Llafur Thatcheraidd newydd yn dod â’r theatr Gymreig, a Chymru ei hun, wyneb yn wyneb â pheryglon tra gwahanol.
awdur:Owen Dudley Edwards
cyfrol:416 Medi 1997
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com