Ci Tintin
Bu Meinir Eluned Jones yn gweld drama ddiweddaraf Aled Jones Williams, Be’ o’dd enw ci Tintin?
Mae gwaith Aled Jones Williams fel marmeit, mi fydda’ i’n meddwl yn aml; rydych chi un ai’n gwirioni arno, neu yn ei gasáu. Bu trin a thrafod a ydy ei weledigaeth yn newydd ac yn ffres, ynteu’n aildwymiad o foderniaeth yr ugeinfed ganrif, yn destun sgwrs gan amryw un, dwi’n siwr. O’m rhan fy hun, rydw i’n un o’r rheini sy’n awchu am haen drwchus o’i farmeit ar fy nhost. Dwi ddim am honni fy mod i’n deall ei gyfeiriadaeth bob tro, a does gen i ddim cywilydd cyfaddef hynny, ond mi allaf wirioni ar y ffordd mae’n trin geiriau. Gall fywiocáu geiriau mewn ffordd na fedr neb arall, a gweu trosiadau cwbl amherthynol at ei gilydd yn llwyddianus. Does gen i ddim amheuaeth nad yw nid yn unig yn fardd ac yn ddramodydd ac yn awdur nofel penigamp, fe â’i yhmhellach na hynny, mae’n haeddu ei alw’n artist.
Edrychwn ymlaen, felly, at weld perfformiad o Be’ o’dd enw ci Tintin?, drama a lunwyd dair blynedd yn ôl, ond na lwyfannwyd tan y gwanwyn eleni. A da nodi, gyda llaw, fod y theatr yn llawnach y noson honno nag y’i gwelais ar gyfer drama Gymraeg ers tro. Dengys hyn adwaith i farmeit yr artist, gan ei fod yn llwyddo i dorri ychydig ar ddiogi a difaterwch y Cymry. Nid oes dim yn chwyldroadol yngl_n â mynychu’r theatr, ni feiddiaf honni hynny, ond dim ond ar adegau prin y dyddiau yma y daw dros gant o Gymry Cymraeg at ei gilydd u fwynhau, yn anffodus. Mae hi’n ddyletswydd cymdeithasol arnom i gadw sefydliadau Cymraeg eu hiaith yn fyw.
Mae’r ddrama’n un astrus, fel y gellid disgwyl! Ond, nid yr astruster arferol Aled Jones Williamsaidd mohono ychwaith. Rydym bellach yn mynd i’r theatr i weld un o’i ddramâu gan ddisgwyl wynebau cwestiynau mawram hanfod bywyd a marwolaeth, gallu ac anadlu iaith, a gwrthdaro rhwng fydd ac anghrediniaeth. Gallwn, wedi arfer â nhw, amgyffred y cwestiynau ‘mawr’ hyn. Ond, fe’m trawyd oddi ar f’echel yn llwyr gyda’r cwestiwn, ‘be’ o’dd enw ci Tintin?’. Yn un peth, dwi ddim yn ffan o’r ditectif bach pryd golau, a fûm i erioed ychwaith; felly wyddwn i ddim beth oedd enw’i gi. Ac yn ail, yn y fan honno oeddwn i, ar ddiwedd y ddrama ac am rai dyddiau’n ddiweddarach, yn ceisio meddwl am arwyddocâd yr enw ‘Snowy’. Oedd yr artist yn cyfeirio at gwestiynau mawr, dan orchydd syml, fel Dafydd Iwan yn ‘Pam Fod Eira’n Wyn?’ Oedd yna arwyddocâd yn yr enw ei hun, a’r eira’n dadmer i ddim, ac mai diddymdra oedd craidd y ddrama? Diddymdra bywyd yr hen wraig a lofruddiwyd, bywyd undonog ei merch sengl ganol oed, ‘you have no messages’ D.I Jim Roberts, yr heddwas gweddw unig, hyder arwynebol Pauline Schramme oedd yn gwaedu y tu mewn, a’r lle gwag a adawyd yng nghalon Charlie George, yn ‘pledu cerrig yn erbyn to sinc’, wedi ymadawiad ei dad. Mae’r posibiliadau’n niferus.
Wedi dweud hynny, rydw i, ar ôl cryn amser yn crafu pen yngl_n â phopeth, wedi dod i’r casgliad mai dyna union graidd y ddrama. Diddymdra. Ond, nid diddymdra sy’n gysylltiedig ag eira – dilyn rhyw sgwarnog go chwim fyddai mynd ar ôl y trywydd hwnnw. Gellid bod wedi galw’r ddrama’n unrhywbeth, fel y gallasai cymeriad Tintin alw’i gi yn unrhyw enw dan haul.
Mae’r ddrama yn dwyllodrus o syml mewn ffordd, ac mi dybiwn ei bod wedi ei hysgrifennu ar gyfer dau fath gwahanol o wyliwr, y ‘model reader’ y cyfeirid ato gan Umberto Eco. Yn gyntaf, ceir y gynulleidfa sy’n edrych ar y llinyn storïol yn y ddrama. Y rhai hynny sy’n gwahanu’r perfformiad hwn oddi wrth weithiau eraill yr artist. Diau y byddai eu profiad hwy o’r ddrama yn haws ac yn fwy pleserus na’r rhai hynny nad ydynt yn coleddu cysyniad marwolaeth yr awdur, ac yn gallu gwahanu’r rhagfarnau sydd gennym eisioes am ei waith. I’r math hwn o gynulleidfa, y cymeriadau – yr helbulon sy’n graddol ddod i’r wyneb am eu gorffennol a’r modd y maent yn ymateb i ddigwyddiadau’r stori ac i’w gilydd – sy’n bwysig. Gallai person sy’n edrych ar y ddrama trwy’r sbectol hon greu adroddiad seiciatryddol go fanwl ar dreiglad meddwl Pauline Schramme a pham ei bod hi mor galed ac ymddangosiad oeraidd, o wybod am ei cefndir yn y ‘Swinging 80s’ a’r pwysau a roddwyd arni gan ei mam, fel petai’n berson o gig a gwaed. Yn yr un modd, byddai’n edrych ar ddihangfa Anna, y ferch a lofruddiodd ei mam, fel person unig a rhwystredig yn ceisio cysur mewn pornograffi a llyfrau am serch.
I’r math arall o gynulleidfa – ac i hwn, yn ddi-os, yr ydw i’n perthyn i weithiau eraill yr artist. Byddwn yn edrych ar ddelwedd bwerus y fâs a falodd yn deilchion fel ansicrwydd ffydd, a bydd yn canu clychau yn ein cof am y ddirnadaeth a geir yn Oerfel Gaeaf Duw am beth sy’n gwneud fâs. Rydym yn ymwybodol o’r awdur, a’r hyn a wyddom amdano, trwy’r berfformiad. Rydym yn ymwybodol mai offer yn ei ddwylo ef yw’r actorion a’r cyfarwyddwr.
I mi, doedd y stori ei hun, er ei bod yn ddigon cyffroes – sefyllfa dreuliedig yr whodunnit – ddim yn bwysig. Efallai fod bai arnaf yn hynny o beth. Gwrando oeddwn i am yr athronyddu sydd bellach yn ddisgwyliedig, ac ar y cyfan chefais i mo fy siomi. Oedd, roedd yr hen glasuron yno, wedi eu gwisgo mewn tafodiaith a’u hynganu gan bobl nad ydynt o anian ddiwydianol fel Aled Jones Williams ei hun. ‘Lle gwag yw marwolaeth.’ Beth a gewch chi sy’n fwy nodweddiadol o’r artist na hynny?! A’r hen hel meddyliau am gryfderau a gwendidau iaith a geiriau, ‘Troi geiria’n betha saff... Sbaddu geiria...’.
Mae hon yn sefyllfa anodd i Aled Jones Williams. Bu’n adnabyddus fel dramodydd ers rhai blynyddoedd, ond byth ers ennill y Goron yn Eisteddfod Tyddewi y llynedd mae ei enwogrwydd wedi chwyrlïo tu mewn i’r Gymru Gymraeg o ddifri’. Mae disgwyliadau ohono; mae ar y gynulleidfa angen ei glywed yn pregethu athroniaeth a diwinyddiaeth. Nid yw cynulleidfa o bobl fel fi am fod yn hapus gyda chwestiynau syml ganddo. Serch hynny, ni all yntau fynd yn ei flaen lawer yn hwy gyda’r un hen gwestiynau, neu buan iawn y bydd y marmeit yn colli ei flas, a’r llenor yn colli ei apêl.
awdur:Eluned Jones
cyfrol:489, Hydref 2003
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com