Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Sosialaeth ar lwyfan

Yn rhifyn y gwanwyn o theatr, ysgrifennodd GARETH MILES am y dylanwad Ibsenaidd ar ddramu Cymraeg rhwng y ddau ryfel byd. Yma, maen trafod enghreifftiau penodol or dramu cegin hyn, ac yn theatrig ynghlwm wrth ddiwylliant Cymraeg dosbarth gweithiol.

Yn y Welsh Outlook, yn 1919, ysgrifennodd Saunders Lewis:

Our Welsh drama, we are told, is peasant or village drama. And that is entirely good... Our dramatists intention to describe only the life of the folk is quite justifiable... But village life means more than manners. It includes memories and traditions and song and even dance and mummery. Village and peasant drama, if it would tell the round truth, must include romance, the Mabinogion, the monastery, witchcrafy, fairyland and all the ancient playgrounds of men...

Dim ond ysgolhaig a anwyd ac y fagwyd yn alltud ac a wyddai fwy am ln Iwerddon a Ffrainc nag am y Gymru oedd ohoni, ar derfyn y Rhyfel Byd Cyntaf, a fedrai ddisgwyl ir arduron brodorol sgrifennu ffantasau ffug-ganoloesol a dyheu am weld rhamantau or fath yn cael eu llwyfannu mewn adeilad pur wahanol ir festri, y neuadd bentref, ar Stiwt a roddai loches i ddrama Gymraeg y cyfnod

What, then, would be a proper home for a Welsh drama? I imagine a house in one of our villages, built pleasantly like an old farm-house, and sheltered among the trees. There would be three of four fair rooms, and the porch would not have an illuminated front...

Ni ellir rhoi gwell eglurhad or dylanwad hwnnw na theyrnged John Ellis Williams iddo yn y gyfrol Tri Dramadydd Cyfoes:

Enwais dair nodwedd yng ngwaith Saunders Lewis fel dramadydd: coethni ei fynegiant, treiddgarwch ei feddwl, crynder ei gymeriadaeth. Y mae un nodwedd arall syn fwy nar cwbl am ei bod yn cynnwys y cwbl, a phe gofynnid inni grynhoi mewn un gair yr hyn sydd fwyaf nodweddiadol or g_r mawr hwn y gair a ddewiswn yw didwylled.

Yn 1979, y flwyddyn y cyhoeddwyd y braslun gan Elan Closs Stephens o hanes y ddrama Gymraeg yn Y Celfyddydau yng Nghymru 1950-70, rwyn siwr fy mod i, fel y mwyafrif llethol o garedigion y ddrama, yn cyd-fynd r gosodiad dilornus canlynol oi heiddo:

...o Beddaur Proffwydi tan y pumdegau, prif gynnyrch y theatr Gymraeg oedd cyfres o ddramur cartref, celfydd eu saernaeth, naill ai ar ffurf comedi-sefyllfa ysgafn, ffarsiaidd neun ddramu melodramatig mwy difrif, gyda thro moesol yn eu cynffon. Gellid dweud eu bod yn naturiolaidd eu ffurf ond yn gwbl ddiffygiol yn yr arwyddocd athronyddol hwnnw syn nodweddur clasuron Ewropeaidd.

Gwelem yn eglur iawn arwyddocd athronyddol weithiau dramodwyr fel Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd-Edwards. Ond cymaint ein hedmygedd ohonynt ac mor frwd ein llawenydd gwlatgarol o weld y ddrama Gymraeg yn ymddyrchafu or festri ar neuadd bentref ir llwyfan proffesiynol, medrem ddiystyrur ffaith annymunol mai dim ond canran fechan o genedlaetholwyr dosbarth-canol o dueddfryd academaidd a werthfawrogai athronyddu praff dramu megis Brad, Y Tad ar Mab a Cyfyng-Gyngor. Nid oedd y pynciau, y problemau ar dewisiadau dirfodol a drafodid gan yr awduron a enwais yn berthnasol i fywydau trwch y Cymry Cymraeg. Fen dallwyd gan ragfarn dosbarth ac ideoleg rhag canfod seiliau athronyddol dramu awduron fel J.O Francis, D.T Davies, R.G Berry, Idwal Jones a Kitchener Davies. Ni welem mai sail eu poblogrwydd hwy oedd dawn i adlewyrchu cymdeithas y dydd ac adleisio ei delfrydau, ei gobeithion, ei siomedigaethau ai llawenydd. Wrth gyfeirio at Ibsen fel nawddsant drama Gymraeg y dauddegau ar tridegau awgrymais beth oedd natur yr ideoleg a arddelid gan ddramodwyr y cyfnod, sef, rhyddfrydiaeth, radicalaidd, wrth-awdurdodol a chanddi gydymdeimlad r dadansoddiad sosialaidd, Marcsaidd o natur cymdeithas, ar modd y dylid mynd ati i ddileur anghyfiawnderau ai blina. Wedir Ail Ryfel Byd, cefnodd y ddrama Gymraeg ar y wleidyddiaeth flaengar, werinol hon gan droi at genedlaetholdeb delfrydgar, di-rym ac Ewropeaeth annewlig, cyfyng ei hapl.

Nid ymarferiad hollol ofer yw ceisio dychmygu sut y buasair ddrama Gymraeg wedi datblygu petai Saunders Lewis, pan ymfudodd i Gymru, or un feddylfryd mwyafrif llethol ei gydwladwyr; petain fodernydd y Chwith, fel Bertolt Brecht, ac nid yn un ceidwadol fel T. S. Eliot; petai wedi ymateb i fethdaliad Rhyddfrydiaeth trwy symud tuar Aswy yn hytrach nag irDde.Gallasai ei athrylith ef fod wedi dryllio hualai naturiolaeth a melodrama a rhoi i Gymru theatr wirioneddol chwyldroadol ei ffurf ai chynnwys. Yn lle hynny, llusgodd ei neo-glasuriaeth besimistaidd y theatr i ddiffeithwch y ddrama fydryddol, y pamffledi adweithiol a theatr yr abswrd.

Serch hynny, rhaid cyfaddef hefyd fod sail ddilys i lawer o sylwadau beirniadol Saunders Lewis ac eraill yngl_n ag ansawdd gyffredinol y dramu a ddiddanair gynulleidfa Gymraeg rhwng y ddau Ryfel Byd. Dymunaf bwysleisio nad wyf yn honni fod gm theatrig ynghudd rhwng cloriau pob un or llyfrynau a lifain filoedd ar filoedd, o weisg cyhoeddwyr fel Y Ddraig Goch, Aberystwyth, Samuel French a Foyles, rhwmg y Ddau Ryfel. Daliaf, fodd bynnag, fod nifer o ddramur cyfnod yn teilyngu sylw beirniad, myfyrwyr a chwmnau cyfoes.

Hoffwn yn awr gyfeirio at bedair drama ddiddorol a gyfansoddwyd rhwng 1923 a 1943; dramu a haeddant, yn fy marn i, eu llwyfannu eto, ac a fyddain rhoi pleser a boddhad i gynulleidfaoedd cyfoes; dramu syn codi cwestiynau cymdeithasol a gwleidyddol sydd mor berthnasol heddiw phan yi lluniwyd.

Maer pedair drama, fel y gellid disgwyl yn rhai naturiolaidd. Thema ganolog y bedair, fel y rhelyw o rair cyfnod, i wahanol raddau, ywr argyfwng a archollodd Ryddfrydiaeth ac Anghydffurfiaeth yng Nghymru yn y blynyddoedd a ddilynodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Deilliodd yr argyfwng hwnnw or croestyniad rhwng delfrydau democrataidd Rhyddfrydiaeth ar ffaith fod y gyfundrefn economaidd syn cynnal yr ideoleg honno yn creu anghyfartaledd rhwng dinasyddion, yn dibynnu ar gystadleuaeth rhwng cyfalafwyr am elw a rhwng unigolion i ddod ymlaen yn y byd, a bod gwleidyddion Rhyddfrydol, tran honni eu bod yn cadwr ddysgl yn wastad rhwng Cyfalaf a Llafur, mewn gwirionedd yn ffafrior cyfoethogion.

Ar yr olwg gyntaf, ymron i drigain mlynedd wedi sgrifennur diweddaraf or gweithiau y byddaf yn siarad amdanynt, gellid tybio mai pynciau i ddiddorir hanesydd ar hynafiaethydd yn unig ywr rhain. Ond os ystyriwch mai etifedd Lloyd George, ac nid Keir Hardie, yw Tony Blair fel y gwna Mr Blair ei hun; ac os cytunwch mi mai cymwynas bennaf y llywodraeth hon, hyd yn hyn, fydd deddfwriaethu mewn perthynas materion a oedd ar yr agenda radicalaidd-ryddfrydol dros ganrif yn l hawliau cenedlaethol Cymru, Iwerddon ar Alban a diwygio T_r Arglwyddi efallai y cytunwch hefyd nad anfuddiol fyddai inni roi rhywfaint o sylw i: Gwyntoedd Croesion, drama ar Wleidyddiaeth Cymru, cyfieithiad R. Silyn Roberts o Cross Currents gan J. O. Francis; Yr Anfarwol Ifan Harries, gan Idwal Jones; Cwm Glo gan James Kitchener Davies; ac Wedir Drin, gan John Ellis Williams.

Digwydd yn chwarae yn Gwyntoedd Croesion ar fore Mercher yn wythnos olaf Gorffennaf 1921. Fei lleolir yn Bronawel, t_ helaeth yn un o siroedd y Gogledd a chartref y diweddar Aelod Seneddol, Gwilym Parri, un o arweinwyr disgleiriaf mudiad Cymru Fydd, a fu farwn _r cymharol ifanc, bum mlynedd ar hugain ynghynt.

Gareth Parri, mab y gwleidydd, yw cymeriad canolog y ddrama. Mae mor flaenllaw yn academaidd ag y bu ei dad ym myd gwleidyddiaeth, a gwelwn ef ar dechraur ddrama, ar bigaur drain yn disgwyl clywed o goleg prifysgol newydd Abertawe a gynigir iddo Gadair Adran Economeg y sefydliad hwnnw.

Ond cyn cyrraedd or post brenhinol dawr Daily Post ir t_, ac ynddor newydd am farwolaeth Ffoulkes-Jenkins, yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol a olynodd Gwilym Parri. Mater y ddrama o hyn ymlaen ywr pwysau a osodir ar Gareth Parri, o wahanol gyfeiriadau, i ymwrthod gyrfa academaidd a dilyn l troed ei dad carismatig i San Steffan, ac ymateb Gareth i ddadleuon gwrthgyferbyniol y tair carfan wleidyddol syn apelio arno iw cynrychioli nhw yn y Senedd. Cynrychiolir y gr_p cyntaf, ar grymusaf, sef y Blaid Ryddfrydol, gan rai o ffermwyr a siopwyr cefnog yr ardal; yr ail, Plaid Genedlaethol nas ganwyd eto, gan y Parch. Trefnant Jones, gwenidiog wedi ymddeol, o Lerpwl, sydd newydd etifeddu chwarter miliwn o bunnau ar l ei frawd; ar trydydd, y Mudiad Llafur, syn dechrau cael ei draed dano yn 1921, gan Gomer Davies, bachgen lleol a ymfudodd ir De, lle y daeth yn swyddog undeb. Disgrifia Gareth Parri ei gyfaill Gomer fel Bolshefic chwilboeth... adref ar ei wyliau o Donypandy: Ac roedd on siarad Moscow pur wrthyf gydag acen Gymreig gref.

Gwegia Gareth Parri rhwng rhethreg y Cenedlaetholwr ar Sosialydd. Ein hangen yw dynion hollol annibynnol ar y pleidiau mawr Seisnig dynion fedr eu herio a gosod achos Cymru o flaen popeth arall, ebe Trefnant. Rydw i am roi cyfle i rai on Cymry ifainc ymladd nid fel Rhyddfrydwyr ond fel Cymry cenedlaethol yn rhwym i neb na dim ond eu cenedl eu hunain....

Dyma beth o ateb Gomer Davies: Ar credo cenedlaethol yma rydach chi mor awyddus iw bregethu o beth yw ffrwyth hwn? Beth sydd wedi mwydo Ewrop mewn gwaed am bum can mlynedd? A phwy gafodd y proffid? Brenhinoedd, tywysogion a chyfoethogion, ar bobol yn u gofid au dagran yn talu am y cwbwl. Ma hin bryd i roi gora i sentimentaleisio yng nghylch cenhedloedd...

Ac yn ddiweddarach, pan gyhuddir Gomer gan Trefnant o ennyn ymryson a chasineb ymhlith ei gydladwyr ac o hau drygioni yn ei fro enedigol, ei ateb yw:

Aflonyddwr ydw i, meddwch? Gwir! Rydw in ennyn fflam rhyfal rhwng dosbarthiada cymdeithas yn y sir yma? Or gora! Pwy gychwynnodd beth felly yn y sir? Pwy ddeffrodd y ffermwyr au harwain yn erbyn yr ysweiniad? Gwilym Parri!

Pan gododd ffermwyr y dosbarth canol yn erbyn yr arglwyddi tir, protest gyfiawn oedd hynny. Ond pan feiddiar gweision druain ddadleu eu hiawnderau yn erbyn y ffermwyr, rhaid galw hynny yn rhyfal dosbarth. Mab i was ffarm ydw i. Beth gawson ni allan or fuddugoliaeth enwog honno? Dim, llai na dim! Defnyddiasoch enwr genedl i gau yn safna ni tra y byddech chin sicrhaur gallu ar awdurdod yn ych dwyloch hunain.

Diweddar ddrama gyda Gareth Parrin cefnu ar wleidyddiaeth ac yn derbyn y broffesoriaeth yn Abertawe. Yn ei enciliad gwelaf ddameg o anallu Cymru, hyd y dydd heddiw, i roi bodolaeth i blaid wleidyddol fawr, rymus ac effeithiol, a fyddain ymgyrchu dros ryddid cenedlaethol ynghyd chyfiawnder cymdeithasol; dros wladwriaeth Gymreig wedi ei sylfaenu ar gyfundrefn economaidd a amcanai at ddiwallu anghenion trwch y boblogaeth yn hytrach nag ychwanegu at olud dosbath bach, breintiedig.

Mae i Gwyntoedd Croesion un gwendid creiddiol, sef fod Gareth Parri, y cymeriad a chwytha gwyntoedd ideolegol ei gyfnod drwyddo, mor ddi-liw a disylwedd. Maen angenrheidiol i gymeriad canolog drama syniadaethol fod yn ansicr ei ddaliadau, ac yn achos Gareth Parri yn cael ei ddirdynnu gan y croestyniadad a ennynir ynddo gan y gwrthdaro rhwng Rhyddfrydiaeth, Cenedlaetholdeb a Sosialaeth. Ond os ywr gynulleidfa i gydymdeimlo ag ing dirfodol yr arwr ac i uniaethu ag ef maen rhaid iddo feddu nodweddion dynol syn ychwanegu dimensiwn emosiynol iw argyfwng ac yn ei gymhlethu. Hen lanc 39 oed neis, saff, parchus a deallus iawn yw Gareth Parri ac wedi ei eni i fod yn Athro Economeg, neu hyd yn oed yn Brifathro, yn un on golegau Prifysgol Cymru. Buasai Gwyntoedd Croesion yn ddrama wirioneddol bwerus petai Gareth Parri yn gallu gweld ei hun fel etifedd Glyndwr, neu Lenin Cymru, ai wraig ifanc, brydferth a deallus am iddo fod yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol.

Yr hyn syn fy nghalonogi i ar ddechraur unfed-ganrif-ar hugain yw fod y cwestiwn cenedlaethol, natur democratiaeth, ar anghydraddoldeb cynyddol rhwng y tlawd ar cyfoethog yn l ar flaen yr agenda wleidyddol. Dyna pam y dylid llwyfannu drama fel Gwyntoedd Croesion unwaith eto.

Perfformiwyd Yr Anfarwol Ifan Harris gyntaf yn 1928, rhyw saith mlynedd yn ddiweddarach na Gwyntoedd Croesion ac y mae tebygrwydd rhwng lleoliadau, cymeriadau canolog a phrif themur ddwy ddrama.

Digwydd y chwarae yng nghartref yr anfarwol Ifan Harries, meddyliwr athrylithgar ar bynciau gwleidyddol, cymdeithasol, crefyddol ac economaidd a adawodd Gymrun wrthodedig a siomedig, bum mlynedd ar hugain ynghynt, am yr Unol Daleithiau. Ni chlywyd dim oi hanes wedi iddo groesir Iwerydd a dyfarnwyd ei fod wedi marw yno.

Yr aclysur syn ysgogir ddrama yw cyfarfod sydd iw gynnal yn y t_, ac a drefnwyd gan weddwr arwr coll, pryd y dadorchuddir penddelw ohono. Gwrthwynebir y seremoni yn gryf iawn gan Ifan Harries, mab yrn anfarwol Ifan Harries, syn mynnu bod y fath rodres yn hollol groes i ddaliadau ac argyhoeddiadau ei ddiweddar dad, yn enwedig gan ir pwysigion lleol a wahoddwyd i gymryd rhan yn y ddefod ddadorchuddiol fod yn elynion anghymodlon i syniadau chwyldroadol y proffwyd.

Denouement y ddrama yw dychweliad yr anfarwol Ifan Harries. Ni adawsair fuchedd hon yn y States dim ond newid ei enw. Gyda chydweithrediad parod ei fab, cuddia Ifan Snr dan y gorchydd syn cuddior penddelw, a phan ddadlennir hwnnw traddoda araith danbaid yn fflangellu rhagrith, ffuantusrwydd a Philistiaeth cenhedlaeth ai croeshoeliodd cyn ei wneud yn dduw. Yna dychwel yr anfarwol Ifan Harries ir America gydai fab.

Hon ywr ddrama wannaf or pedair. Maen ddychrynllyd o eironig ac ail-adroddus ac fel petai wedi ei llunio ar y cyd gan ddau awdur o anianawd wahanol iawn, Henrik Ibsen a P. G. Wodehouse. Roedd tipyn go lew or ddau yn Idwal, wrth gwrs: y beirniad cymdeithasol llym ar digrifwr hwyliog ac yn rhai oi weithiau maer ieuad yn un cymharus. Nid felly yn Yr Anfarwol Ifan Harries. Drama gymysgryw ydyw, gyda difrifoldeb a gwamalrwydd yn rhwbion anghysurus yn erbyn ei gilydd.

Unig gymeriad hoffus y ddrama yw David Henry, ail _r diniwed gweddw Ifan Harries. Dynion chwerw, di-hiwmor, hunan-gyfiawn yw Ifan Harries y tad ar mab. Cymharar tad ef ei hun i Iesu Grist:

Ar lan Mr Galilea, flynyddaun l, cyfododd g_r i bregethu syniadau newydd, ffl, anymarferol. Fei croeshoeliwyd Ef, ac mae ei syniadau wedi torri ar dawelwch y byd am ddwy fil o flynyddau wedi hynny.

Gwawdlun a geir or weddw, Mrs Harries-Jones, snoben fawreddog, ddwl, carbwl ei Chymraeg a huawdl ei Saesneg crand; pantomime dame o gymeriad. Yn arwynebol ac ystrydebol y portredir cynrychiolwyr y Sefydliad Rhyddfrydol-Anghydffurfiol lleol hefyd.

A beth yn union oedd syniadau eithafol ac annerbyniol yr anfarwol Ifan Harris? Heddychiaeth ywr unig un y cyfeirir yn benodol ato. Ond roedd bri ar heddychiaeth yng Nghymru ar ddechraur ugeinfed ganrif. Nid tan y Rhyfel Byd Cyntaf yr erlidwyd y sawl ai harddelain gyhoeddus.

Ond er imi draethu mor feirniadol am Yr Anfarwol Ifan Harries tybiaf fod ynddi hadau, a pheth o sylwedd, drama o bwys. Dywed y proffwyd iddo fod yn weithredwr yn ogystal ag yn feddyliwr yn yr Unol Daliaethau. Fei carcharwyd a bu bron iddo gael ei lynsho... for promoting sedition among the Southern Negroes. Fei carcharwyd yr eildro, yn 1917 for inciting the American State Forces to mutiny.

R_an ta. Petai Ifan Harries wedi pregethu syniadau or fath yn ystod y Rhyfel Mawr buasai wedi bod yn enbyd o amhoblogaidd. A beth petai wedi areithio nid yn unig yn erbyn Militariaeth ond erbynyr Ymerodraeth Brydeinig fel cyfundrefn ormesol fyd-eang? Wedi annog y Cymry i gefnogi ac i efelychu Gwrthryfel Pasg 1916 yn Iwerddon? Wedi annerch tyrfaoedd o lowyr y De gydag A. J. Cook ac arweinwyr undebol eraill a anogai eu grandawyr i uno i ddymchwel y drefn gyfalafol? Buasai wedi gorfod ffoi o Geredigion ac o Gymru am ei fywyd. Awgrymais eisioes nad ywr portread o Deborah, gwraig Ifan Harries, yn dderbyniol y tu allan i ffars. Gan fod ei g_r yn gymeriad mor Ibsenaidd, perthynant i ddau gonfensiwn theatrig hollol anghydnaws i gilydd.

Buasai Ibsen yn cydymdeimlo Deborah. Buasain holi pam fod ei g_r ai mab yn ei chasu. Oherwydd ei bod fenyw ffl? Pam y priododd yr anfarwol Ifan Harries hi? Awgrym gen i: oherwydd fod angen gwraig arno i guddioi gyfunrywioldeb; y ffaith ei fod yn hoyw, fel y dywedir heddiw.Dyna ddeunydd drama.

Cofier trosedd mor ysgeler oedd gwrywgydiaeth yng ngolwg y gyfraith ddeg a thrigain o flynyddoedd yn l. Cofier dynged Syr Roger Casement ac Oscar Wilde oi flaen. Petai ei elynion yn darganfod y gwir am rywioldeb anghyfreithlon rebel a chwyldroadwr a heriai awdurdod y Wladwriaeth Brydeinig, y peth callaf y gallai hwnnw ei wneud fyddai ffoi i bellafoedd byd a newid ei enw.

Gwobrwywyd Cwm Glo yn Eisteddfod Genedlaethol 1934 gan achosi cynnwrf a sgandal, fel y gwyddys. Yn wahanol ir tair arall, nid yng nghefn gwlad y Gogledd neur Gorllewin yi lleolir, ond yn y De diwydiannol, yng Nghwm Rhondda. Ac nid mewn t_ helaeth, cyfforddus, dosbarth canol y digwydd y chwarae, ond mewn Partin Tan-Ddaear... Cegin T_ Glwr... Gardd o flaen T_r Goruchwyliwr... (a) hewl fawr o flaen T_r Goruchwyliwr.

Er bod Cwm Glo yn dadlennu methiant Rhyddfrydiaeth ac Anghydffurfiaeth yn dirwasgu ac yn gwyrdroi eneidiau dynion, menywod a phlant yng Nghymoedd y De, drigain mlynedd yn l.

Meiddiodd Kitchener Davies gollfarnu piwritaniaeth Anghydffurfiaeth am grebachu rhywioldeb a theimladrwydd naturiol y Cymry; gweithred feiddgar eithriadol yn 1934, pryd y gwelair enwadauj hynny fel eu priod orchwyl, eu raison dtre.

Credai y buasai Ibsen ei hun wedi dotio ar Marged, merch ffraeth nwydus, ddigywilydd y colier pwdwr, Dai Davies. Gwell gan Farged fynd i buteinion onest ar strydoedd Caerdydd na pharhau i hwrion llechwraidd yn y Cwm trwy leddfy rhwystredigaeth gwrywod parchus, fel bod ei thad yn gallu eu blacmelio.

Fel drama, nid yw Cwm Glo heb ei ffaeleddau. Maen rhy eiriog ac fei hystumir gan gonfensiynau naturiolaidd a melodramatig y cyfnod, sydd fel staes rhy dynn amdani. Collwyd cyfle i ryddhaur grymusterau emosiynol a rhywiol sydd ymhlyg yn nrama Kitchener Davies pan lwyfannodd Cwmni Theatr Gwynedd hi rai blynyddoedd yn l, gan ir cyfarwyddwr wrthod cynnig Manon Rhys, merch yr awdur, i olygur testun ai ail-strwythuro mewn modd y tybiai hi y buasai ei thad yn ei gymeradwyo.

Cyhoeddyd Wedir Drin yng Nghyfres y Dryw yn 1943, ac maer cyflwyniad ar flaenddalen yr argraffiad hwnnwn arwyddocaol:

Cyflwynaf y ddrama hon i fechgyn Cwmni 854 Y Peirianwyr Brenhinol (y cwmni mwyaf Cymraeg a Chymreig yn y fyddin Brydeinig), ac yn arbennig i Dic, Jac, Ieu, Calc, Idris, George, a Fred, er cof am y cwt haearn hwnnw yn yr Alban ar trin ar trafod a fu ar y ddrama hon rhwng ei furiau.

Roedd cyfansoddi Wedir Drin, felly, yn rhan or trin ar trafod ehangach ymhlith aelodau o luoedd arfog Prydain yn ystod blynyddoedd olaf y Rhyfel, yngl_n sut drefn a ddylai fod ar gymdeithas pan ddeuair gyflafaf i ben. Y trafodaethau hynny, yn anad dim, a sicrhaoedd ir Blaid Lafur lwyddiant ysgubol yn etholiad cyffredinol 1945. Dyma a ddywed yr awdur ei hun, yn ei hunangofiant difyr, Inc yn fy Ngwaed, am yr hyn ai hysgogodd i sgrifennur ddrama:

Fel rheol, wedi gorffen drama y byddaf yn meddwl am deitl iddi, ond y tro hwn y teitl a ddaeth gyntaf Wedir Drin, yr amser yr oedd pob un ohonom yn dyheu amdano. Ar l y Rhyfel Mawr Cyntaf, yr arwyddair poblogaidd oedd gwneud y wlad yn fit for heroes to live in. Ni chyflawnwyd yr addewid hwnnw. A sylweddolid y ddelfryd ar l yr Ail Ryfel Mawr?

Doedd dim gwahaniaeth mewn egwyddor rhwng y Hitler Mawr a ladratodd wledydd Ewrop ar Hitleriaid bach a ladratodd ffermydd Cymru. Yr un rhyfel ydoedd, oherwydd yn yr un gwrthdaro yr oedd ei wreiddiau, y gwrthdaro di-ddiwedd, a fu erioed, ac a erys fyth, rhwng y sawl syn mynnu adwurdod ar arall, ar sawl syn dymuno byw ei fywyd ei hun. Pan ddeuai diwedd ar y rhyfel yn Ewrop, ni cheid diwedd ar y rhyfel hwn. Wedir drin, byddai rhywun o hyd yn mynnu rheoli ein bywyd, rhyw deyrn a fynnai i eraill ddal cannwyll iddo ef wneuthur ei dwyll.

G_r ifanc or enw Harri Edwards, enillydd y Military Cross a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yw cymeriad canolog Wedir Drin. Dychwel Harri or rhyfel i bentref ei febydyn arwr, ond wedi ei chwerwi ai ddadrithio gan ei brofiadau yn y fyddin. Gellid tybio ei fod yn dioddef or hyn a elwir heddiw yn post-traumatic stress disorder.

Hanes brwydr chwaer i ennill enaid ei brawd ac i ddod i ffydd ai hyder yn l iddo, ywr ddrama hon, medd nodyn y tu mewn i glawr argraffiad Llyfraur Dryw. Ac yn y cefndir, gwelir rhyfel arall y frwydr barhaus rhwng teyrn a gwreng,rhwng y werin a vested interest. Faint gwell fyddwn, ebr Mair, o guro Hitler, a gadael ir mn Hitleriaid yng Nghymru feddiannu a rheoli popeth?

Yr Hitler bach yr ymgiprys Mair ag ef am enaid ei brawd yw Syr Huw Price, tirfeddiannwr a g_r busnes mwyaf cefnog yr ardal. Mae Syr Huwn greadigaeth mwy sylweddol nar aelodau or Sefydliad Rhyddfrydol a bortredir yn Gwyntoedd Croesion ar Anfarwol Ifan Harries. Swynwr a rhagrithiwr penderfynol a deallus ydyw, or un hil Chapten Trefor Daniel Owen. Dengys yr areithiau canlynol ei galibr. Dangosant hefyd graffter rhyfeddol ar ran y dramodydd, John Ellis Williams, wrth iddo ragweld ym 1943 sut y byddair dosbarth llywodraethol yn mynd ati, ar ddiwedd y Rhyfel, i warchod ei freiniau ai fuddiannau. A sut y deil i wneud hynny heddiw:

SYR HUW: Beth an hachubodd ni rhag sosialaeth ar l y rhyfel cyntaf? Dau beth y gyfraith a pherchenogaeth y ddau beth maer werin (yn gwenun ddirmygus) y werin dlawd! yn eu parchu fwyaf. Fe gyhoeddwyd y General Strike yn anghyfreithlon, ac fe rybuddiwyd y bobol gyffredin ag ychydig bunnoedd yn y llythyrdy fod eu perchenogaeth hwy mewn perygl... Y papurau newyddion a enillodd y frwydr honno inni.

Propaganda!... Rwyn gweld yn barod sut maer gwynt yn chwythu. Darllen y papurau rhwng y llinellau. Maer mwyafrif mawr on hochor ni. Weli di ddim mor gyfrwys y maent wrthi, mor glyfar y maent yn taflu llwch i lygaid y werin? (Yn ddirmygus) Democratiaeth ywr gair mawr heddiw. Insiwrans a phensiwn i bob gweithiwr pleidlais i bawb drfos ddeunaw oed gwell bwyd a gwell addysg ir plant yr un chwarae teg i bawb... Creu helynt am fn bethau y mn ddigwyddiadau sydd yn sicr o ddyfod er mwyn cael cadwr dorth. Gwneud ir werin hidlor gwybed iddi lyncur camel. Peth hawdd yw twyllor werin.. Dyna pam mae hin werin.

Petair amser yn caniatu, gorchwyl diddorol fyddai cymharu Harri Edwards gyda chyfoed o Harri arall, Harri Vaughan, arwr Cysgod y Cryman, nofel boblogaidd Islwyn Ffowc Elis. Hudwyd yr Harri hwnnw hefyd gan sosialaeth ond fei gwrthododd gan arddel cenedlaetholdeb delfrydgar, Gwynforaidd y cyfnod.

Terfynaf hyn o ymdriniaeth o Wedir Drin gyda nodyn beirniadol yngl_n r unig un o blith y prif gymeriadau syn arwynebol ac yn ystrydebol, sef, Lillian Price, merch y machiafelaidd Syr Huw. Hoeden hunanol, faterol, wedi ei difetha gan ei thad; Susi Trefor arall, ond un nad ywn dod at ei choed, ac nad yw ei chyfraniad i frwydr y dde am deyrngarwch Harri Edwards yn un sylweddol. Anghyfartal ywr ymgiprys rhyngddi hi ar chwaer gydwybodol am enaid yr arwr. Buasain frwydr llawer mwy diddorol ac arwyddocaol petai Lillian a Jesebel gyfrwysgall a phetai atyniad rhywiol pwerus rhyngddi hi a Harri.

Un o nodweddion amlycaf dramu Cymraeg y cyfnod sydd dan sylw yw lluosogrwydd eu cymeriadau. Heddiw, yn anaml iawn y llwyfennir drama Gymraeg ac iddi ragor na phedwar cymeriad. Ai breuddwyd gwrach, felly, ywr gobaith y perfformir rhywbryd eto Gwyntoedd Croesion (on leiaf 17 cymeriad); Yr Anfarwol Ifan Harries (o leiaf 9 cymeriad); Cwm Glo (8 cymeriad); Wedir Drin (9 cymeriad)? Nid pe ceid cydweithrediad a phartneriaeth rhwng y theatr broffesiynol ar theatr amatur. Efallai yr holai rhai oni allai cymdeithas ddrama lewyrchus gynhyrchu dramu fel hyn heb fynd ar ofyn gweision cyflog or tu allan? Rwyn si_r y gallent. Ond tybiaf mai dim ond actorion proffesiynol, llawn-amser all wneud cyfiawnder holl bosibiliadau cymhleth cymeriadau grymus fel y Parchedig Trefnant Jones a Gomer Davies, yn Gwyntoedd Croesion, Marged a Dai Davies, yn Cwm Glo, a Syr Huw Price a Mair yn Wedir Drin.

Ond cyn inni ddechrau meddwl o ddifri yngl_n r hyjn y gallai cydweithrediad rhwng y theatr broffesiynol ar theatr amatur ei gyflawni, rhaid achub y ddrama Gymraeg or llanast y mae hi ynddo ar hyn o bryd oherwydd stiwardiaeth ddiddychymyg, fiwrocrataidd a threfedigaethol Cyngor Celfyddydau Cymru. Er mor enbyd ywr sefyllfa, credaf fod achubiaeth yn bosibl, gan fod y cwango celfyddydol, trefedigaethol yn atebol i gorff etholedig, democrataidd yn awr.

Ar derfyn ymdriniaeth faith a thrylwyr or ymgyrch brwd a fu gan wahanol garfanau yn ystod y chwedegau ar saithdegau tuar nod o sefydlu thea tr genedlaethol, esbonia Elan Closs Stephens fethiant y cyfan fel a ganlyn:

Yr hyn a ddawn gwbl amlwg yn yr hanes, fodd bynnag, ywr ffaith nad oedd fforwm iawn yn bod lle gellid fod wedi trafod y mater yn ddiduedd, nac unoliaeth gweledigaeth iw gwneud hin bosibl trafod anghenion y wlad yn ei chrynswth.

Maer fforwm hwnnwn bod heddiw, diolch ir Cynulliad Cenedlaethol a diolch yn arbennig i Cynog Dafis, sydd wrthin dwyn yr arolwg o ddiwylliant yng Nghymru i ben ar hyn o bryd ac i Elin Jones, Yr Aelod dros Geredigion, a welodd gyntaf yr angen am arolwg or fath.

Fel y deallaf i, un or cwestiynau sylfaenol y maer Arolwg yn rhoi ystyriaeth iddo yw hwn: Ai hyrwyddo diwylliant yng Nghymru yw swydd asiantaeth fel Cyngor y Celfyddydau ynteu hyrwyddo diwylliant Cymreig? Rwyn hyderus mai hyrwyddo diwylliant Cymreig yw ein blaenoriaeth. An bod yn gweld diwylliant fel cnwd i wreiddiau ym mhridd cymdeithas yn hytrach na chawodau ysbeidiol, cosmopolitanaidd, pr a ddihidlid arnom oddi fry, gan estroniaid athrylgar. Bid sicr fod gofyn gwrteithion maes ni gyda dylanwadau o feysydd eraill a hau ein grawn ni yn y meysydd hynny, o bryd iw gilydd, ond credaf yn angerddol y dylai hyrwyddo a datblygu creadigedd ymhlith pobl Cymru fod yn flaenoriaeth ym mholisir Cynulliad ar ddiwylliant.

Sut mae gwneud hynny ym myd y ddrama? Os ydym i fanteisio ar y cyfle a roddir innin awr i greu gwasanaeth theatr genedlaethol gyflawn a deniadol yng Nghymru, dylem gofio deubeth. Yn gyntaf, bod Cymrun genedl. Yn ail, ei bod hin genedl wahanol iawn o ran maint, poblogaeth, hanes a chyfansoddiad cymdeithasol i Loegr a Ffrainc, y cenhedloedd yr ydym wedi bod fwyaf chwannog i ddynwared eu dramu ac i ddyheu am feddu sefydliadau theatrig cyffelyb iw heiddo hwy.

Ni ddylem efelychu cognoscenti Seisnig a Ffrengig syn dibrisio gweithgareddau diwylliannol grwpiau ac unigolion amhroffesiynol na gresynu oherwydd fod diwylliant Cymru mor amaturaidd. Yn hytrach, dylem lawenhau fod cymaint o Gymry, hyd yn oed heddiw, yn mwynhau canu, chwarae offerynnau, actio, llenydda, barddoni, paentio, ac yn y blaen. Oni fun wir, ym mhob oes ac ym mhob gwlad a chymdeithas a gynhyrchodd artistiaid proffesiynol or radd flaenaf, na fuasai ddichon ir rheini greu eu campweithiau oni bai am ddiddordeb a chefnogaeth llu o amaturiaid ymroddgar a goleuedig.

Credaf mai un o amodau ffyniant y ddrama Gymraeg yw partneriaeth a chydweithrediad rhwng y theatr broffesiynol ar theatr amatur. Cyfarwyddwyr, actorion, awduron a thechnegwyr proffesiynol yn cyfrannur sgiliau a ddatblygir gan hyfforddiant ac ymarfer beunyddol, ar gwirfoddolwyr ewyllysgar yn rhoi ou hegni au brwdfrydedd; ymwybyddiaeth y garfan broffesiynol o syniadau a thueddiadau rhyngwladol yn gwarchod y gwirfoddolwyr lleol rhag plwyfoldeb a hwythaun gyswllt bywiol rhwng Mudiad y Ddrama, fel yi gwelid ar ddechraur ganrif ddiwethaf, a gwerin ein gwlad. Mae datblygiad or fath yn bosibl.

Erbyn y chwedegau, meddai Elan Closs Stephens yn ei harolwg ym 1979, y teledu oedd y prif gyfrwng adloniant yn y rhan fwyaf o gartrefi. yn ei blaen i ddisgrifio effaith hynny ar ddrama yng Nghymru, yn Gymraeg a Saesneg, yn llethol, bron na ellid dweud yn drychinebus.

Os cafodd y teledu oes aur erioed, daeth honno i ben beth amser yn l. Collodd cenedlaetholdeb Prydeinig ei rym ideolegol. Gallwn barchu coffadwriaeth Saunders Lewis a mawrygu ei gyfraniad unigryw i fywyd y genedl heb dderbyn pob sylw a datganiad o eiddon anfeirniadol, fel petain oracl anffaeledig. Dengys gwaith theatrau megis Theatr Felinfach fod cynnyrch cydweithrediad rhwng y theatr broffesiynol ar theatr amatur yn gallu denu cynulleidfaoedd sylweddol. Efallai ein bod ar drothwy Ail Oes Aur y Ddrama Gymraeg.

awdur:Gareth Miles
cyfrol:453, Hydref 2000

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk