Ymateb Dalier Sylw i gynlluniau’r CCC
Fel y gellir gweld yn yr adroddiad blaenorol, fe arweiniodd y penderfyniad i ohirio’r strategaeth gogyfer â Theatr i Bobl Ifanc at ddryswch yngl_n â rhannau eraill o’r Strategaeth. Awgrymodd Cynog Dafis y dylai’r Cyngor ystyried gohirio cynlluniau i gyfu
Erbyn i’r erthygl hon gael ei chyhoeddi, gobeithio y bydd y penderfyniad yngl_n â dyfodol ysgrifennu newydd wedi ei wneud gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn hysbys i ni i gyd. Mae’n bosib y bydd y bwriad i greu cwmni newydd dwyieithog yn cael ei ohirio neu’i ddileu, neu y bydd un ai Made in Wales neu Dalier Sylw – neu’r ddau gwmni os bydd cais y Sherman yn fuddugol – yn cau.
Beth bynnag yw’r penderfyniad mae Dalier Sylw yn credu y byddai cwmni i ddatblygu ysgrifennu newydd yn y ddwy iaith yn gam creadigol a chadarnhaol ymlaen i’r mileniwm nesaf os yw:
- y ddwy iaith yn cael triniaeth gyfartal
- y cwmni yn gweithredu’n genedlaethol mewn partneriaeth â chwmnïau a sefydliadau eraill;
- yr arian yn ddigonol (rydym wedi galw ar Gyngor Celfyddydau Cymru i adfer y £90mil sydd wedi diflannu o’r ddarpariaeth ysgrifennu newydd.)
Rydym yn derbyn bod rhaid bod yn bwyllog wrth wneud penderfyniadau pwysig, ond mae’r holl oedi a newid amserlen (roedd y penderfyniad yn wreiddiol i fod wedi’i wneud ym mis Rhagfyr y llynedd) yn rhoi Bwrdd Rheoli Dalier Sylw mewn sefyllfa anodd iawn yn gyfreithiol gyda phrin ddeufis cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae’n achos pryder fod y staff mewn sefyllfa mor ansicr, ac nad oes sicrwydd ariannol ar gyfer comisiynu.
Byddai penderfyniad i ohirio’r strategaeth sgwennu newydd yn codi cwestiynau yngl_n â’r dyfodol:
- A oes arian digonol ar gael i gefnogi’r ddau gwmni i’r graddau presennol ar ôl Ebrill 1af 2000?
- A fyddai’n rhaid mynd trwy broses gystadleuol eto?
- Beth yw goblygiadau unrhyw ohiriad i weddill y Strategaeth, ac yn arbennig i’r cynlluniau ar gyfer Y Pwerdy Cymraeg?
awdur:dalier sylw
cyfrol:445, Chwefror 2000
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com