Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Bargen Newydd ir Ddrama Gymraeg

Cafodd PAUL GRIFITHS ei siomi gan ddiffyg darpariaeth dramatig yr Eisteddfod. Diffyg sydd, yn ei farn ef, yn adlewyrchu diffyg parch cyffrediinol ein cymdeithas at ddoniaur llwyfan. Ac nid oes diben ychwaith beio Cyngor Celfyddydau Cymru o hyd ac o hyd.

Dont make a drama out of a crisis! dyna maen nhwn ei ddweud. Gresyn na fyddai ambell i greisus yn esgor ar ddrama. Meddyliwch yn wir am y Drasiedi Fawr honno fydd yn cael ei chyfansoddi cyn bo hir am hanes y ddrama yng Nghymru rhwng 1990 ar flwyddyn 2000. Ond gwirion yw hyd yn oed meddwl am hynny welith y ddrama honno fyth olau dydd. Na, nid oherwydd difyg nawdd gan Gyngor y Celfyddydau nac oherwydd diffyg adnoddau artistig. Y drafferth mwyaf fydd canfod rhywun iw chyfansoddi!

Yn dilyn y creisus presennol a chreisus ydir gair o hyd maen amlwg iawn i mi fod mwy a mwy o ddramodwyr wedi syrffedu ar gyfansoddi dramu ar gyfer y llwyfan. Does dim ond rhaid edrych ar gystadlaethau cyfansoddir Eisteddfod Genedlaethol yn y blynyddoedd a aeth heibio. Eleni, gwelwyd pedwar ymgeisydd wedi rhaffu eu hinc cyfrifiadurol ar bentyrrau o bapur, i ymgiprys am Dlw... maddeuwch i mi, mi feddyliais i am funud fod na Dlws, Medal, Coron neu Gadair iw gael am ennill un o Brif Wobraur Eisteddfod Genedlaethol - ... i ymgiprys am y Wobr ariannol a roddir am gyfansoddi drama hir. Pedwar, a dau or rheiny, fel maen digwydd bod, yn deilwng. Ond faint tybed fun chwysu chwartiau yn rhaffu geiriau i lunio cyfrol o ryddiaith greadigol? Yr ateb; dau awdur ar hugain! Does na fawr o syndod a deud y gwir. Ylwch chir clod, y mawl, y parch ar bri maer ennillydd yn ei dderbyn. Medal hardd, ei gyfarch gan yr Orsedd, cael cyhoeddir gwaith, cael sylwr Cyfryngau, a gwobr ariannol yn ogystal!

Mae arna i ofn, gyfeillion, fod ein dramun cael eu troin nofelau, a straeon byrion. Yn wir, holais sawl dramodydd yr _yl, gan ofyn iddynt Ti di trio am y ddrama leni? Na oedd yr ateb bob tro. Fyddain well gen i drio am y Fedal Ryddiaeth...!

Petair drasiedi honno y soniais amdani ynghynt yn cael ei chyfansoddi, byddai un olygfa yn sicr wedii lleoli yn Theatr y Maes, ar brynhawn dydd Mawrth, Awst y 3ydd, yn Eisteddfod Genedlaethol Mn 1999. Yr achlysur oedd seremoni cyhoeddi enillwyr cystadleuthau cyfansoddir Adran Ddrama. Roedd yna gwta ddeg ar hugain o bobl yn bresennol, a hanner or rheiny, gan fy nghynnwys i fy hun, wediu gwahodd yno i dderbyn gwobr. Welis ir un cynrychiolydd o Gyngor y Celfyddydau yno, nar un aelod or cwmnau syn crefun flynyddol am sgriptiau newydd. Welis ir un aelod or wasg na ffotograffydd, g_r camera nar un peiriant o fath yn y byd i gofnodir digwyddiad. Yn amlwg, roedd pawb wedi anghofio am y seremoni ddi-nod yma. Pa ryfedd, a hithau wedii gwthio i gornel bellar maes, allan o sylw a chlyw r byd. Pwy sydd am wybod enw enillydd y Brif Gystadleuaeth yn adran Ddramar Genedlaethol?! Hyd yn oed petai diddordeb gennych, tasg amhosib oedd ceisio gwneud hynny, hyd yn oed dridiau ar l y Seremoni! Ni chrybwyllwyd canlyniadaur gystadleuaeth ar raglennir teledu nar radio, a gorfu imi brynu chwyddwydr i ddarllen amdanynt yhn y Daily Post! Dim llun, dim stori, dim cyfarchion a dim cyhoeddi. Siawns nad ellir mynd gam ymhellach ac ychwanegu, dim perfformiad hefyd! Trasiedi, ddwedis i?

I fod yn gwbl onest, tydw i ddim yn dallt y peth. Iawn, falla mod in ifanc wel, tydi chwech ar hugain ddim yn hen ond, maen amlwg i mi fod yn rhaid inni wneud rhywbeth yn fuan iawn am y sefyllfa. Onid y cam cyntaf yw adfer Parch ir Ddrama yn ein Prifwyl?

Mae na gwyno parhaol fod yna brinder o sgwenwyr ifanc. Dwin amau hynnyn fawr. Does dim ond rhaid edrych ar y niferoedd syn ymgiprys am y Fedal Ddrama... (o, ia!) yn Eisteddfodaur Urdd. Pedwar ar hugain ym 1999, deg ym 1998, un ar ddeg ym 1997, un deg saith ym 1996, wyth ym 1995... I bler aeth yr holl ddramodwyr hyn? Pan na chafodd y rhai a ddangosodd fymryn o addewid eu gwahodd i dreulio cyfnod yn cyd-weithio gydag awdur profiadol i ddysgu a meithrin eu crefft?

Fel un o gyn-enillwyr y gystadleuaeth, gallaf ddweud yn gwbl onest mai prin iawn oedd y gwahoddiadau. Un gwahoddiad yn unig, a hynny nl ym 1996, i dreulio amser gyda chwmni profiadol, a dwin dal i ddigwydd cael trafodaeth ar y gwaith.

Yn ystod yr un cyfnod, rhoddais gynnig ar gael mynychu cwrs wedii drefnu yn arbennig gan gwmni theatr arall. Cefais wahoddiad am gyfweliad, a chael fy holi gan y cyfarwyddwyr ar etholedig rai oedd ar y panel dewis. Un or cwestiynnau a ofynnwyd oedd, A fyddwn in fodlon i anghofio popeth yr oeddwn wedii ddysgu am ysgrifennu hyd yma, a chychwyn or newydd? Sut mae unrhyw awdur i fod i ymateb ir ffasiwn syniad? Onid adeiladu ar gryfderaur unigolyn ydi pwrpas cwrs or fath, ac nid i greu dramodwyr newydd i siwtio arddull y cyfarwyddwr. Synnech chi fawr o glywed na fues in llwyddiannus, er fy mod i wedi ennill ddwy waith wedyn yn yr Urdd. Tydi cyfansoddi drama ddim yn joban hawdd. Yn wahanol i gerdd a chynghanedd, does ganddoch chi ddim patrwm sefydlog iw ddilyn. Yr ymarfer gorau y gall unrhyw ddramodydd ei gael yw clywed ei waith yn cael ei ddarllen, a chael profir wefr o weld actorion yn anadlu bywyd iw gymeriadau. Dim ond trwy glywed y gwaith y gall rhywun weld y potensial dramatig sydd yn y gofod du hwnnw. A thrwy wneud hynny gall ein hactorion ddysgu am bresenoldeb llwyfan a llefaru clir dau beth sydd wediu colli ers blynyddoedd yn enw cynildeb. Y math yma o gyd-weithio sydd ei angen. Dramodwyr yn arbrofi gyda actorion a chyfarwyddwyr, ar naill yn dysgu gan y llall.

Sawl gwaith y clywson nir frawddeg mai peth marw yw drama ar bapur? Gellir dadlau bod y frawddeg honno yn eironig iawn y dyddiau yma, a hynny ar lwyfan yn ogystal. I ble aeth ein Hactorion? Pryd oedd y tro diwethaf inni weld rhai on actorion mwyaf profiadol ar lwyfan? Actorion a ddysgodd eu crefft yng nghwmnir Meistri fel Wilbert Lloyd Roberts a John Gwilym Jones. Actorion a roddodd wefr i sawl cynulleidfa flynyddoedd yn l gyda Chwmni Theatr Cymru. Actorion sydd yn gwybod ystyr presenoldeb llwyfan a llefaru clir, rhai a wrandawodd ac a ddeallodd bregeth John Gwil nid iaith rhaff-drwy-dwll mor Gymraeg. Actorion sydd r gallu i ddysgur myfyrwyr syn gadael ein colegau draman flynyddol, ac iw harbed rhag treulio gweddill eu dyddiaun wynebu dosbarthiadau on blant ysgol.

Pa ryfedd felly fod yna brinder o bobl syn barod i gyfansoddi dramu. O wylio ambell i gynhyrchiad diweddar, rydw innaun dechrau amau a oes gwerth imi ddal ati i gyfansoddi gwaith ar gyfer y llwyfan; y llwyfan yng Nghymru yn sicr.

Maen hen bryd inni roir gorau ar feio Cyngor y Celfyddydau. Y dewis ar diffyg gweledigaeth artistig sydd iw feio. Meddyliwch pryd oedd y tro diwethaf ichi weld clasur o ddrama yn y Gymraeg? Anodd tydi? Pryd oedd y tro diwethaf inni weld cynhyrchiad o Blodeuwedd neu Cymru Fydd? Pryd gwelwyd unrhyw gwmni profiadol yn mynd ir afael ag un o ddramu Shakespeare yn y Gymraeg? Dwi di laru ar y cyfieithiadau gwael o ddramu Saesneg or West End syn brithon llwyfannau taswn i wirioneddol eisiauu gweld nhw, yna faswn in dal y trn i Lundain, au gweld nhwn cael eu gwneud yn iawn.

Beth am y dramu syn cael eu tynnun grau yn ein hysgolion ar colegau ar gyfer arholiadau TGAU, Lefel A neu Radd y Brifysgol? Pam na chawn ni weld rheiny? Rheiny yn l yr athrawon yw Clasuron. Rydan nin clywed yn ddigon aml am yr effaith gafodd yr alwad ffn honno ar ddiwedd Saer Doliau, neur disgrifiad gwych hwnnw o grogi Gwilym Brewys yn Siwan ond byth yn cael eu gweld nau clywed. Pa obaith sydd na i ddenu cynulleidfa newydd heb ddangos p_er y cyfrwng iddynt? Wedi meithrin y gynulleidfa, a dawn yr actorion, onid dynar adeg i gyflwyno gwaith newydd ir naill fel y llall?

Mae hin adeg o newid ar lwyfannau ein theatrau y ddyddiau hyn, ar sn am greu pwerdy drama newydd yn y Gogledd ar De yn ennyn ymateb cymysg. Yn bersonol, rwyn croesawur syniad, ar yr amod bod y cyfan yn cael ei arwain ir cyfeiriaid cywir, nid yn unig yn ariannol, ond yn artistig hefyd. O ddileu rhai cwmnau, dylid sicrhau bod lle teilwng ir talentau hynny syn gwybod ystyr geiriau fel dramatig neu theatrig maen nhwn brin, credwch fi.

Yn sgil sefydlur cwmnau newydd yma, onid oes gobaith cyfunor hen ar newydd? Ar gychwyn canrif newydd yn ein hanes, maen gyfle gwych i ail-godir llen ar glasuron ein hiaith, a thrwy hynny, greu clasuron newydd ir dyfodol. Cyd-weithio ywr nod. Meithrin a hyfforddi talent, nid ei fygu mewn methiant a chenfigen.

Fe wawriodd cyfnod newydd ar hanes y ddrama yng Nghymru ugain mlynedd yn l, yn dilyn perfformio Bargen gan Theatr Bara Caws. Tybed, ydi hin amser i hynny ddigwydd eto?...

awdur:Paul Griffiths
cyfrol:441, Hydref 1999

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk