Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

y ddrama yn y Cynulliad

Maer Strategaeth Ddrama wedi bod dan y chwyddwydr yn y Cynulliad hefyd. Gan nad adroddwyd fawr ddim ar y trafodaethau hyn, mae theatr yn cofnodi cyfraniadau ein cynrychiolwyr etholedig.

Jenny Randerson: A ywr Prif Ysgrifennydd yn fodlon gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru ohirio cyflwynor strategaeth ddrama newydd nes caiff y Cynulliad gyfle i adolygur polisi ar y celfyddydau yn ei gyfanrwydd yng Nghymru yng nghud-destun goblygiadaur cyfleoedd a geir drwy arian Amcan 1 i addysg, cymdeithas, yr economi a thrwistiaeth?

Y Prif Ysgrifennydd: Maer cwestiwn yn cymysgu dau fater gwahanol. Bwriad y strategaeth ddrama newydd yw gwario mwy ar brosiectau a chynyrchiadau, hynny yw, gwario mwy ar y gweithgareddau syn ymwneud phobl a llai ar adeiladau ac ar fiwrocratiaeth. Cefnogaf hynny. Ni fydd y strategaeth honnon rhwystro cyrff celfyddydol rhag cyflwyno ceisiadau o dan Amcan 1.

Jenny Randerson: Mae rhan or strategaeth ddrama yn awgrymu lleihau nifer y cwmnau yng Nghymru o wyth i bump. Byddai hynnyn arwain at golli swyddi. Er enghraifft, yng Nghaerdydd mae bwriad i dorri ar raglen ieuenctid Theatr y Sherman. Mae tua 250 o blant yn elwa ar y rhaglen honno bob wythnos yn Saesneg ac yn Gymraeg. Os torrir y rhaglen fe gollir 10 swydd. Gallai hynny hefyd beryglu cyllid i Theatr Sherman o Gyngor Sir Caerdydd, gan eu bod yn cyllidior Sherman oherwydd y prosiect ieuenctid hwnnw. Yr wyf yn derbyn ei bod yn bosibl bod anawsterau ymarferol ond oni fyddech yn cytuno fod moratoriwm yn briodol oherwydd pwysigrwydd sylfaenol y swyddi syn gysylltiedig r ailstrwythuro a gynigir.

Y Prif Ysgrifennydd: Ni fyddain iawn inni stopio gweithgareddau drama Cyngor y Celfyddydau Cymru yn stond. Yn yr ymatebion iw hymgynghoriad eang yr oedd y farn yn gryf y dylai Cyngor y Celfyddydau gyllido llai o gwmnau yn fwy effeithiol. Dyna a olygwn wrth sn am gyllido llai o fiwrocratiaeth a mwy o bobl, mwy o weithgareddau; y pethau syn cynnig rhywbeth i bobl Cymru.

Maer strategaeth yn cynnwys rl newydd i Theatr Sherman, Caerdydd wrth ddatblygu ysgrifennu newydd yn Gymraeg a Saesneg. O ganlyniad ir dadleuon a gyflwynwyd, mae llawer or problemau a fynegwyd i ddechrau wedi eu datrys drwy drafodaethau.

Elin Jones: A ywr Prif Ysgrifennydd yn cytuno mair prif reswm pam na ellid gohirio strategaeth ddrama Cyngor Celfyddydau yw oherwydd bod arian ychwanegol yn mynd i Clwyd Theatr Cymru eleni er mwyn creu cwmni drama cenedlaethol cyfrwng Saesneg a bod yr arian ychwanegol hwnnw yn dod o arbedion ariannol a wneir drwy leihau nifer y cwmnau theatr pobl ifanc yng Nghymru o wyth i bump? Er bod y cynllun ar arian eisioes yn bodoli ar gyfer creu cwmni drama cenedlaethol cyfrwng Saesneg, maen amlwg o gynllun corfforaethol y Cyngor Celfyddydau nad oes cynllun nac arian ychwanegol ar gyfer creu cwmni drama cenedlaethol cyfrwng Cymraeg. A wnaiff y Prif Ysgrifennydd sicrhau bod Tom Middlehurst yn gallu darparu cyllid digonol i ariannu cwmni drama cenedlaethol cyfrwng Cymraeg yn ogystal Clwyd Theatr Cymru?

Y Prif Ysgrifennydd: Y syniad yw cael yr arbenigedd a sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddion effeithiol. Bydd y strategaeth yn sefydlu Theatr Clwyd fel theatr genedlaethol cyfrwng Saesneg. Bydd hefyd yn datblygu theatr genedlaethol iaith Gymraeg newydd yng ngogledd Cymru. Mae yna ddatblygiad a fydd yn sicrhau pethau y bydd pawb yn y Cynulliad yn eu cefnogi. Wrth gwrs, pan geir newidiadau, bydd rhai pobl yn anhapus. Fodd bynnag, dyma sut maer arian yn cael ei ddefnyddio i weithredun fwy effeithiol ac i ddefnyddio doniau pobl mewn modd gwell.

awdur:Barn
cyfrol:441, Hydref 1999

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk