Camau Strategol
Dal i rygnu ymlaen y mae’r dadleuon am strategaeth ddrama Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda’r dadlau – a’r drwgdeimlad, waeth bod yn onest – bron cyrraedd ei anterth.
‘Sbosib ei bod yn hysbys bellach mai’r ddadl rhwng y dyraniad Saesneg/Cymraeg yw asgwrn y gynnen, efo’r cyfryngau Cymraeg, a’r prif chwaraewyr (ym mhob ystyr!) bron yn solet o blaid Dafydd y ddarpariaeth Gymraeg yn erbyn y Goliath Saesneg.
Amrywiodd lefel y drafodaeth yn y wasg o gyfraniadau swmpus gan unigolion o wahanol gefndiroedd – academwyr, actorion, dramodwyr, pwyllgorwyr – yn dweud eu dweud. Hyn yn y cyfnodolion mwy swmpus, sydd yn medru fforddio moethusrwydd gofod ac amser i hel cyfraniadau ystyrlon. Y wasg wythnosol yn anorfod fwy pytiog, yn rhoi’r hanes diweddara, y darlun fel mae’n datblygu, a weithiau’n datgelu ei hanwybodaeth a’i phlwyfoldeb affwysol – ‘g_r o’r enw Terry Hands’ (!!)
Tydi’r ddadl ddim eto wedi tanio go-iawn yng ngholofnau na thudalen lythyrau Ein Papur Cenedlaethol, na’r hyn sy’n cyfateb i hynny yn y Gogledd, ac wrth gwrs, ni chlywyd bref o du unrhyw un o’r papurau y bydd mwyafrif pobl Cymru yn eu darllen. Prin, chwaith, y cyffyrddodd yr un o’r pleidiau gwleidyddol â’r pwnc, ar wahân i ambell i gyfeiriad yng nghynhadledd Plaid Cymru ym mis Hydref at ‘bolisi annoeth a negyddol’ Cyngor y Celfyddydau, wrth drafod y celfyddydau yn ehangach. Er hynny, roedd awgrymiadau pendant hytrach yn brin, os nad yn anweledig. Disgwyl am yr act nesaf fydd hi, felly.
awdur:Barn
cyfrol:441, Hydref 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com