Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

AMDDIFFYN WBW GYMRO

Yn y rhifyn diwethaf o theatr roedd Emyr Edwards yn beirniadu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Wbw Frenin, yn hallt. Dyma ymateb GARETH MILES, a addasodd y ddrama o’r Ffrangeg gwreiddiol, a MENNA PRICE, a gyfarwyddodd y cynhyrchiad.

MEDDAI GARETH MILES: Dengys cyfeiriadau Mr Edwards at ‘Pa a Ma Wbw’ na seiliwyd ei ‘adolygiad’ o’m cyfieithiad i o Ubo Roi ar adnabyddiaeth o’r testun gwreiddiol. Pe medrai’r Ffrangeg, gwyddai nad yw ‘Merdre!’ yn ebychiad mor arw â ‘Shit’ neu ‘Cachu!’ a bod seisnigiad Cyril Connolly yn llawer mwy ‘ffiaidd a masweddus’ nag argot bechgyn Lycee Ubu a’i gymrodyr.

Er y buasai hynny’n ddigon o garn i anwybyddu gwenwyn Mr Edwards rwyf am ymateb i’w erthygl gan iddi godi pwynt y mae’n werth ei ystyried gan bawb sydd â diddordeb yn y theatr Gymraeg. Sef, y gwahaniaeth barn rhwng athrawon a darlithwyr, ar y naill law, ac awduron proffesiynol a gomisiynir i drosi drama ar gyfer ei pherfformio, ar y llaw arall.

I’r darlithydd, testun yw drama, i’w dadansoddi, ei dadelfennu a’i dodi yn ei gyd-destun hanesyddol ger bron myfyrwyr edmygus sy’n ei ‘hastudio ..... yn amlach na’i gweld mewn perfformiad’. I ddramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion y theatr broffesiynol, creadigaeth gelfyddydol a luniwyd er diddanwch cynulleidfa yw drama. Nod y cyfieithydd sy’n arddel yr egwyddor honno yw darparu testun perfformiadwy a fydd yn gwarchod gweledigaeth hanfodol yr awdur. Weithiau, rhaid newid mwy na’r geiriau er mwyn diogelu’r Gair. Yn aml, gall treigl amser neu wahaniaethau diwylliannol wneud jôc neu gyfeiriad yn annealladwy i gynulleidfa’r ‘ail iaith’. Bryd hynny, dyletswydd y cyfieithydd tuag ati hi, yn ogystal ag at yr actorion ac at awdur y ddrama, yw addasu neu ddileu.

‘Quant à l’action ... elle se passe en Pologne, c’est à dire Nulle Part.’ / ‘Digwydd y chwarae yng Ngwlad Pwyl, sef, Dim UN Man.’ (Alfred Jarry, wrth gyflwyno’r perfformiad cyntaf o Ubu Roi, Rhagfyr 10, 1896.

Bachgen ysgol oedd Alfred Jarry pan ddechreuodd ef a’i ffrindiau, dros ganrif yn ôl, ddyfeisio sioeau pypedau am y Pere Ubu melltigedig. Y cwbl a wyddent hwy a’u cyfoedion, ynghyd â’r rhan fwyaf o Ffrancwyr, am Wlad Pwyl, oedd ei bod ymhell o Ffrainc, yn agos at Rwsia, lle ceid eirth a llawer o eira, a bod enwau bedydd y brodorion yn diweddu gyda –las a’u cyfenwau gyda –ski.

Erbyn heddiw, nid gwledydd pellennig mo Pwyl na Rwsia ac mae hanes diweddar y ddwy wlad yn gyfarwydd i bawb sy’n debygol o fynd i weld y ddrama. Dyna pam y dyfeisies Nulle Part Cymraeg, sef, Ynys y Cedryn, a throi’r gynnen oesol rhwng y Pwyliaid a’r Rwsiaid yn wrthdaro rhwng Tywysogion Gwynedd a Choron Llundain.

Trwy’r ‘naïfrwydd’ hwn, yn ôl Mr Edwards, ‘collais y dimensiwn Ewropeaidd eang sydd yn y gwreiddiol’. Onid yw Cymru, Lloegr ac Iwerddon lawn mor Ewropeaidd â Gwlad Pwyl, Rwsia a Ffrainc?

Cofiais, wrth ddarllen nodiadau Mr Edwards, mai gwrtharwr dramodigau cynharaf Jarry a’i gyd-ddisgyblion yn y Lycee de Rennes oedd yr athro Ffiseg, Monsieur Hébert, a lysenwyd Père Heb, Eb, Ebé, Ebon, Ebance neu Ebouville. Mae’n debyg fod hwnnw’n ddyn braidd yn fawreddog ac awdurdodol.

MEDDAI MENNA PRICE: hoffwn ymateb i adolygiad Emyr Edwards drwy roi’r cynhyrchiad, a Chwmni Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, yn eu cyd-destun.

Mae C Th I C yn cwrdd unwaith y flwyddyn ac yn treulio tair wythnos a hanner yn hyfforddi ac yn paratoi darn o theatr. Mae’r broses waith yn cael ei hystyried cyn bwysiced â’r cynhyrchiad. Bob blwyddyn dewisir tua chwedeg o bobl ifanc o bob rhan o Gymru i gael eu hyfforddi fel actorion, technegwyr neu gyfarwyddwyr. Yn y gorffennol rhennid y criw yn ddau gwmni, un Cymraeg ac un Saesneg. Eleni ceisiwyd pontio’r gagendor diwylliannol yma drwy gael un cwmni dwyieithog i gyflwyno dau gynhyrchiad. Ar sail llwyddiant yr arbrawf eleni, bwriedir datblygu ar hyd y llinellau uchod yn y dyfodol agos. Fel y gwyr Emyr Edwards ei hunan, nid peth rhwydd yw dewis testun addas ar gyfer cwmni mor fawr ac mor ifanc; nid hawdd ychwaith ysbrydoli chwedeg o fyfyrwyr (gyda phymtheg yn unig yn siarad Cymraeg) i roi o’u gorau.

Ffwlbri llwyr felly oedd cymharu’r cynhyrchiad yma gydag eiddo cwmnïau proffesiynol megis y Royal Cour (1967) a’r Brifysgol Agored a’r BBC yn y saithdegau. Dylai Emyr Edwards wybod yn well. Does dim cyfeiriad yn ei erthygl sur, negyddol, faint sylweddol y gynulleidfa a chynhesrwydd eu hymateb, nac ychwaith at dalent a gwaith caled yr actorion. Nid yw’r adolygiad ond yn tanlinellu’r ffaith sylfaenol nad oes adolygwyr theatr safonol i’w cael yng Nghymru.

awdur:Gareth Miles a Menna Price
cyfrol:422, Mawrth 1998

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk