ATEB CWYN
(Colofn George Owen)
Gwelais yn ddiweddar ddwy sioe undyn ar ddwy noson olynol a chael fy ngwefreiddio gan ddwy sgript a dau actor. Dwy ddrama gwbl wahanol, un wedi ei lleoli ynghanol tomennydd glo Gogledd-Ddwyrain Cymru a’r llall yng ‘nghwm cul fel cam ceiliog’ Y Rhondda; un yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg. Anodd fyddai rhagori ar berfformiadau ysgytwol Dyfed Thomas yn Oedolion yn Unig a Gareth Potter yn Marriage of Convencience; ond, heb unrhyw amarch i’r actorion, y sgriptiau a’m cyfareddodd, a hynny am resymau arbennig.
Cwynion a glywaf gan gwmn_au amatur ar bob tu, ac fel arfer sgriptiau sydd wrth wraidd y gynnen. Gan y cynhyrchwyr ‘Lle mae’r deunydd newydd?’, gan yr actorion ‘Lle mae yna ddramâu â gafael ynddyn nhw?’; ac yn eironig ddigon cwyn y dramodwyr yw bod y cwmnïau’n eu hanwybyddu: ‘Pryd glywsoch chi ddwaetha am gwmni amatur yn gofyn i awdur ‘sgwennu iddyn nhw?’.
Cryfder Oedolion yn Unig a ysgrifennwyd ar y cyd gan Robin Griffith a Dyfed Thomas, oedd adnabyddiaeth yr awduron o ardal a’i phobl. Roedd y cymeriadau’n gredadwy - gallech eu gweld tu allan i’r ‘Stiwt yn y Rhos - ac yr oedd clust arbennig o fain gan yr awduron i fynegiant y cymeriadau; cyfoeth idiomau gan ambell un, bratiaith gan eraill a’r cyfan wedi ei bwytho’n gelfydd i bortreadu grymus o’r gwytnwch a oedd yn gwbl angenrheidiol i wynebu unigrwydd llwm eu bywydau.
Fel un a fagwyd yn y Porth ac a gafodd addysg Gymraeg yn Rhydfelen, g_yr Ian Rowlands, awdur Marriage of Convenience, yn well na neb sut brofiad oedd bod yn ‘Welshie’ yn y cymoedd bymtheg mlynedd yn ôl. Mewn cymdeithas glos, lle'r oedd pawb yn nabod pawb ac yn ddrwgdybus o bob dieithryn, gallai’r dref ei hun fod mor ddieithr â chyfandir hynod anghysurus i’r sawl oedd yn ‘wahanol’. Drama, nage, cerdd yn olrhain prifiant crwt o’r Rhondda sydd yma, yn dadlennu ei broblemau teuluol ac yn portreadu’n ysol y baich ychwanegol a oedd ganddo o ymhyfrydu yn ei Gymreictod. Hawdd y gallai Gareth Potter, a aeth drwy’r un gwewyr yn ystod ei lencyndod yntau yng Nghaerffili, uniaethu gyda sgript a oedd yn farddoniaeth bur.
Dwy ddrama wedi ei selio’n gadarn ar adnabyddiaeth lwyr o gymdeithas a’i phroblemau - man cychwyn diogel i unrhyw awdur. Mae Theatr Felinfach, dan arweiniad Euros Lewis, wedi bod yn flaenllaw yn y maes yma. Trwy gymorth arbenigwyr fe ddadansoddwyd problemau’r dalgylch - diweithdra, cymhlethdodau teuluol a chymdeithasol, alcoholiaeth a chyffuriau - gan edrych hefyd ar ddarpariaeth ar gyfer yr henoed ac anghenion y gwasanaethau iechyd yng nghefn gwlad. Llwyddwyd i ddenu tîm o ysgrifenwyr i fynychu gweithdai ac i bortreadu hynt a helynt eu cymdeithas eu hunain mewn opera sebon a Radio Ceredigion. Go brin fod cynhyrchwyr nac actorion Felinfach yn cwyno am ddiffyg deunydd.
Mae gwers yn y fan yna i gwmnïau cymunedol ledled Cymru; mae’r deunydd yn fynych ar garreg y drws ond i chi chwilio ac i chi roi’r cyfle i rai o’ch poetau eich hunain roi cynnig arni.
Ni ellir gwadu, serch hynny, fod yna brinder arswydus o ddramâu newydd. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi lansio strwythur hirdymor i geisio lliniaru peth ar bryderon caredigion y ddrama Gymraeg. Gobaith yr Eisteddfod yw cydlynu llafur ac ymdrechion nifer o gyrff sydd ag arbenigedd mewn hyfforddiant a chynnal gweithdai.
Y mae eisoes waith ardderchog yn cael ei wneud gan sefydliadau fel Canolfan T_ Newydd a Than y Bwlch. Mae rhai o’r cwmnïau proffesiynol yn trefnu gweithdai ysgrifennu. Mae gan Gymdeithas Ddrama Cymru ei chyrsiau a’i gweithdai. Cael pawb at ei gilydd oedd pwrpas cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llanbadarn ym mis Ionawr, a chafwyd ymateb calonogol gan sefydliadau megis CBAC, Cyngor Celfyddydau Cymru, Yr Urdd, Cymdeithas Ddrama Cymru ac amryw gwmnïau proffesiynol. Bydd y gweithgor a enwebwyd wedi cyfarfod ddwywaith cyn y cyfarfod cyffredinol nesaf yn Llanbadarn ar 25 Ebrill, ac mae gwahoddiad cynnes iawn i bawb sy’n ymddiddori yn y ddrama ddod yno.
Rhan allweddol o’r cynllun, a fydd yn cychwyn ym Mhrifwyl Môn ym 1999, fydd cydio yn nychymyg yr ifanc. I’r perwyl hwn gobeithir cael cydweithrediad ysgolion uwchradd pob dalgylch i dderbyn awdur gwadd i’w plith i weithio am gyfnodau byr gyda’r plant h_n ar brosiectau sgriptio a fydd yn seiliedig ar eu syniadau hwy.
Law yn llaw â hyn bydd dosbarthiadau nos a gweithdai i oedolion. Cyfres o sesiynau hyfforddiant a sgwennu ymarferol; cyfres arall i ddatblygu syniadau ac yna gyfle i’r gwaith mewn llaw weld olau dydd mewn gweithdai yn yr Eisteddfod. Nid oes angen na phrofiad na gradd yn y Gymraeg. Yr hyn sy’n allweddol i lwyddiant y fenter yw’r awch i ddatblygu syniadau a’r ymroddiad i ddod o hyd i’r mynegiant gorau i’r syniadau hynny.
Bydd testunau Môn yn ymddangos gyda hyn. Bydd rhai cystadlaethau’n arbennig ar gyfer y rhai sy’n ymlafnio i ddysgu sgriptio. Pob llwyddiant iddynt.
awdur:George Owen
cyfrol:422, Mawrth 1998
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com