Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

LLWYFAN RHWNG CLORIAU

Staging Wales; Welsh Theatre 1979 – 1997

Staging Wales; Welsh Theatre 1979 – 1997

Gol: Anna-Marie Taylor

Gwasg Prifysgol Cymru, £7.95

Mae llyfrau am y theatr yng Nghymru yn debyg i fysiau; gallwch ddisgwyl am un i ddod am hydoedd ac yna mi fydd dau yn troi lan yr un pryd. Yn dilyn Stage Welsh, llyfr tenau’r beirniaid theatr David Adams, dyma gyfrol swmpus, ddeallus, bryfoclyd, gydag agos at ugain o draethodau am y theatr yng Nghymru dros y deunaw mlynedd diwethaf. Dyma gyfnod rhwng dau refferendwm, pan oedd nifer o’r Cymry yn dal i wichian ar ^l y bleidlais ‘na’ ar Fawrth 1af, a chysgod y Ceidwadwyr dros y tir.

Mae cymaint wedi newid ers hynny, a’r llyfr hwn yn dystiolaeth o un newid mawr – y pontio rhwng dwy iaith o fewn un diwylliant. Yn hynny o beth mae Staging Wales yn parhau gyda gwaith da M. Wynn Thomas yn ei gyfrol Diffinio Dwy Lenyddiaeth.

Da o beth, felly, yw gweld traethodau megis llith Simon Baker sy’n trafod gwaith dramatig Cymreig y chwedegau, gan ddramodwyr fel Gwyn Thomas, Dannie Abse ac Alun Richards - ac absenoldeb gweithiau’r rhain ar lwyfannau nawr - ochr yn ochr â thraethodau sy’n edrych ar y theatr Gymraeg.

Mae’r academydd Nic Ros yn taflu goleuni dros gyfnod a oedd wedi cynnig digon i sgwennwyr gwleidydd0l-sensitif gnoi cil arno; cyfnod hefyd pan welwyd twf yn nifer sioeau wedi eu sgrifennu ar y cyd, a’r rheiny’n llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd da. Ond roedd ffactor arall yn nodweddiadol, sef prinder awduron cynhyrchiol, gyda dim mwy na llond llaw o ddramodwyr wedi ysgrifennu mwy nag un neu ddwy ddrama a dim ond tri sgwennwr wedi cynhyrchu tair neu fwy.

Gareth Miles yw’r pencampwr o’u plith, ac yntau wedi creu pentwr o waith yn yr amser rhwng ‘Na’ ac ‘Ie’, fel petai - dim llai na saith drama lawn a chwe addasiad. Cawn olwg gan Nic Ros ar y themâu sydd wedi denu sylw’r dramodydd deallus hwn yn ogystal â’r gwendidau ambell waith yn y ffordd y mae wedi eu mynegi. Ac mae campweithiau’r dyn, dramâu ysgytiol fel Hunllef yng Nghymru Fydd, yn haeddiannol hawlio’u lle ar y pedestal.

Tra bu Gareth Miles yn trafod gwleidyddiaeth mae Sion Eirian wedi bod yn sylwi ar amryfal haenau cymdeithas. Ef yn anad neb yw dramodydd Cymraeg yr isfyd, a’i gymeriadau yn aml yn rhai na fyddent yn t’wyllu drws capel na maes ‘Steddfod.

Mae asesiad Nic Ros o’r deunaw mlynedd yn nodi bod nifer o’r dramâu wedi’u hysgrifennu gan sgwenwyr o feysydd llenyddol eraill sydd wedi mentro troi eu llaw at waith i’r llwyfan. Rhestrir diffygion y rhain – tuedd i fod yn orierol ac, yn bwysicach efallai, diffyg gweledigaeth theatrig. Yn hynny o beth mae Nic Ros yn dweud cymaint o golled ydyw nad yw Ed Thomas, ‘bardd y llwyfan’, wedi ysgrifennu unrhyw beth yn Gymraeg ers Adar heb Adenydd.

Roedd bardd llwyfan arall, y diweddar Gwenlyn Parry, wedi sgrifennu ei waith gorau erbyn y cyfnod dan sylw, tra oedd Meic Povey ar fin dechrau perthynas glos a chynhyrchiol gyda’r llwyfan.

Wrth edrych ymlaen i’r dyfodol mae mwy nag un o gyfranwyr Staging Wales yn codi’r hen fater bytholwyrdd hwnnw, theatr genedlaethol, neu’n nodi’r marc cwestiwn sy’n hongian fel rhaff grocbren uwchben Theatr-Mewn-Addysg. Cawn ysgrifau gan rai o feddylwyr craffaf byd y theatr, fel Paul Davies o gwmni Volcano yn Abertawe sy’n gofyn pam bod cymaint o’n theatr yn troi o gwmpas Caerdydd.

Un cwmni, efallai, sydd wedi sefyll allan o safbwynt theatr radical, egniol a heriol yw Brith Gof, er nad ydynt wedi gallu denu cynulleidfaoedd mor fawr ac mor selog â, dyweder, Bara Caws. Yn Staging Wales cawn ddau bersbectif ar y cwmni arloesol hwn.

Mae Charmian Sevill yn bwrw golwg dros saithdeg o gynyrchiadau amrywiol gan Brith Gof ers sefydlu’r cwmni yn 1981. O’r gweithiau cynnar, a ddangosai ddylanwad theatr Noh o Siapan ar un o sefydlwyr B.G., Mike Pearson, mae Ms Savill yn dilyn hynt a helynt cwmni sydd wedi cenhadu ymhell ac wedi edrych yn ddwfn i mewn i’r seice Cymreig yr un pryd.

Bu Brith Gof â’u llygaid ar agor bob amser i weld y pictiwr mawr, yn barod i gynnig gweledigaeth ehangach, gyda dramâu a pherfformiadau’n mynd i’r afael â thestunau megis Patagonia neu holl hanes ‘Prydain’. Dyma gwmni gododd sgaffaldiau yn Neuadd Dewi Sant yn y brifddinas er mwyn i angylion ddisgyn i’n plith; cwmni, yn wir, sydd wedi profi bod modd troi unrhyw le, bron, yn theatr, boed yn hen ffatri neu’n bwll nofio. O dan ddylanwad y cyfarwyddwr Americanaidd Robert Wilson daeth y cyfarwyddwr artistig presennol, Clifford McLucas, i lunio gweithiau a oedd yn ‘elfennol’ yng ngwir ystyr y gair, gyda d_r a thân, daear ac awyr yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial dramatig.

O gofio’r cefndir yna, byddech yn disgwyl traethawd llawn sialens i’r ymennydd gan Mike Pearson o Brith Gof, a dyna a gewch. Ailbobiad sydd yma o anerchiad a roddodd ym Marcelona yn yr wythdegau pan ddisgrifiodd y theatr Gymreig fel un heb brin unrhyw berthynas â theatr Lloegr, fel theatr heb draddodiad mawr, heb theatr genedlaethol yn yr ystyr arferol o ddramâu chwaith.

Mae yma rhai ysgrifau sydd o ddiddordeb maer i Gymry Cymraeg – un gan Dafydd Arthur Jones, er enghraifft, yn cofnodi hanes a llwyddiant Theatr Fach Llangefni ac un arall gan y dramodydd o Ystradgynlais, Ewart Alexander, sy’n siarad o’i brofiad ac o’i galon am werth dramâu cymunedol. Mae Bob Roberts yn crisialu hanes Theatr Clwyd ac mae byd y ddawns yn cael sylw hefyd.

Dyma i chi lyfr a ddylai fod ar silff unrhyw un sydd â diddordeb mewn theatr, boed yn fynychwr neu’n berfformiwr. Mae ei dudalennau’n cynnig llwyfan da i’r atgofion, y dadleuon - a’r gobeithion. Ond ar ddiwedd y dydd y peth pwysicaf oll yn y theatr yng Nghymru yw’r gynulleidfa. Gadael y bocs a llenwi sedd yw’r nod.

awdur:John Gower
cyfrol:422, Mawrth 1998

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk