Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Tranc y Dramodydd?

Mae DAFYDD LLYWELYN yn bwrw golwg ar ddogfen newydd sy’n honni nad yw Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwneud ndigon i hyrwyddo ysgrifennu creadigol gan ddramodwyr.

Daw’r erthygl yma o’r rhif 491/492, Rhagfyr/Ionawr 2003/04

A hithau’n dymor ewyllys da, dyma gyrraedd yr adeg honno o’r flwyddyn pan mae rhywun yn edrych ar y flwyddyn a fu, gan anelu am y flwyddyn newydd gyda gobaith. Yn sicr, o safbwynt y theatr Gymraeg, bu’r deuddeg mis diwethaf yn ddigon prysur a difyr, ac am y tro cyntaf ers oes, mae optemistiaeth i’w weld yn y maes yn dilyn yr holl sylw a’r heip parthed y Theatr Genedlaethol newydd.

Eto’i gyd, mae’n ymddangos nad yw pawb yn rhannu’r un gobaith a hyder o safbwynt y dyfodol. Yn ddiweddar, lluniwyd datganiad gan nifer o bobl ynghlwm wrth y theatr yn mynegi pryder am ddiffyg parch a chyfleoedd teilwng i ddramodwyr yng Nghymru. Frwyth llafur nifer o unigolion amlwg a blaenllaw ym myd y theatr – gan gynnwys awduron – yw’r datganiad hwn, a’r pryder sy’n amlygu’i hun yn y ddogfen yw’r ffaith bod byd y ddrama yn cael ei wthio i’r cysgodion, ac os na newidir pethau yn fuan yna dim ond mater o amser yn unig fydd hi nes y gwelir tranc y dramodydd yng Nghymru.

Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n dod dan y lach, a hynny am i swyddogion y corff hwnnw gydnabod yn agored nad oes ganddynt unrhyw ‘strategaeth ar gyfer ysgrifennu newydd’. Dadl Sgript Cymru yw bod y talent creadigol a geir yma yng Nghymru gystal os nad gwell na’r hyn a geir yn y gweldydd eraill, ac felly dylid rhoi’r un parch i’n hawduron ni ag i’r rhai a geir dros Glawdd Offa. A dyfynnu’r dogfen, dywedir nad: ‘yw Cymru wedi poeni digon i ddarparu dramodwydd Cymraeg a Chymreig gydag awyrgylch lle y gallent flodeuo a mynd o nerth i nerth’. Yn nhyb Sgript Cymru,n mawr yw’r angen i fabwysiadu strategaeth gynhwysfawr a sylweddol er mwyn cywiro’r diffyg hwn, ac er mwyn cyflawni hyn cynigia’r datganiad chwe phwynt y dylid eu gweithredu ar fyrder.

Yn gyntaf, gelwir am fwy o gynhyrchiadau. Bu Sgript Cymru yn annog a hyrwyddo ysgrifennu newydd, a dywedir mai mawr yw’r angen am fwy o nawdd i’w galluogi hwy, ynghyd â nifer o gwmnïau eraill, i gomisiynu dramodwyr i lunio gweithiau gwreiddiol. Tystiodd cyfieithiad ysblennydd y Prifardd T. James Jones, Dan y Wenallt gan Theatr Gwynedd, yn gynharach eleni fod modd cael cyfieithiad byrlymus a phwerus. Er hynny, dylid rhoi blaenoriaeth i weithiau gwreiddiol. Dywedir droeon fod byd y theatr yn adlewyrchiad o gyflwr unrhyw genedl, a dylem yng Nghymrufeddu ar ddigon o hunan-hyder ynom ein hunain i gynnig llwyfan a chyfleoedd i’n hawduron gyflwyno gwaith gwreiddiol Cymraeg a Chymreig i’w cynulleidfa.

Yn ail, mynegir pryder oherwydd y polisi o ddefnyddio niferoedd y cynulleidfaoedd fel unig ffon fesur llwyddiant unrhyw gynhyrchiad. O ganlyniad honnir na cheir cynyrchiadau herfeiddiol a gwahanol, yn hytrach, gwelir cwmnïau yn amharod i dorri tir newydd, gan fodloni ar gynnig darpariaeth ‘ddiogel’ a chydymffurfiol. Yn sicr, mae goblygiadau polisi o’r fath yn andwyol i’r theatr, ond wedi dweud hynny, rhaid peidio â cheisio defnyddio’r ffaith bod cynhyrchiad yn ‘arbrofol’ fel esgus neu gyfiawnhad tila dros gynhyrchiad gwael a di-ddim. Yn y gorffenol, mae gormod o snobyddiaeth wedi’i fynegi tuag at gynhyrchiadau ‘poblogaidd’ – gyda nifer yn eu hystyried yn eilradd. Y gwir amdani yw y gall cynhyrchiad ‘poblogaidd’ fod yr un mor theatrig a herfeiddiol â drama ‘arbrofol’ lle y gwelir rhywun yn neidio i fyny ac i lawr yn borcyn yn gweiddi Gweddi’r Arglwydd yn enw ‘celfyddyd aruchel’. Oherwydd bod y theatr wedi bod trwy gyfnod hesb yn ystod y degawd diwethaf, mae’n rhaid ceisio ail-addysgu gynulleidfa a’u hargyhoeddi o werth y profiad o ymweld â theatr – a’r ffordd orau i wneud hyn yw cael cynhyrchiadau ‘poblogaidd’, gan obeithio yr ysgogir hwy i fynychu cynhyrchiadau eraill.

Yn drydydd, cyfeirir at y ffaith mai prin iawn yw’r cyfleoedd hynny a ddaw i ran ein dramodwyr i dderbyn nawdd a chymorth ariannol o’i gymharu ag unigolion eraill sy’n mela yn y byd ‘sgwennu creadigol. Gelwir am newid yn y modd y cyllidir rhai dramodwyr a chwmnïau, gyda swm y nawdd yn gyson â’r hyn a gynigir i nofelwyr a beirdd. Dywedir droeon nad oes gan y ddrama yr un traddodiad a hanes cyfoethog mewn cymhariaeth â ffurfiau eraill o lenyddiaeth Gymraeg, ond os y derbynnir y fath osodiad, yna siawns nad yw hynny’n fwy o reswm byth dros gyhoeddi dramâu. O gofio cymaint o lenyddiaeth a rhyddiaith a gyhoeddir yn flynyddol, mae’n waradwyddus o beth nad oes cynllun cyffelub ar gyfer cyhoeddi gwaith dramodwyr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, daeth yn ffasiynol i ambell gwmni gyhoeddi’r sgript fel rhan o’r rhaglen a werthi’r cyn y perfformiad, ond fe ddylid mabwysiadu polisi llawer mwy cynhwysfawr yn hytrach na disgwyl i gwmnïau unigol ymgymryd â’r gwaith hwn.

Yr awgrym mwyaf beiddgar o bosib yw hwnnw sy’n galw am sefydlu canolfan benodol ar gyfer ysgrifennu newydd. Dywedir y gellid dilyn yr esiamplau a gafwyd mewn rhannu eraill o Brydain, megis The Bush a Soho yn Llundain a The Tron yn Glasgow. Yn y Gymru sydd ohoni, mae bwriad o’r fath i’w weld yn uchelgeisiol a dweud y lleiaf, ac mae’r problemau ymarferol i’w weld yn rhai sylweddol. Yn sicr, bu cynllun o’r fath yn llwyddiant dros Glawdd Offa, ond rhaid cwestiynu addasrwydd canolfan yng Nghymru, oni bai iddi gael ei lleoli yng Nghaerdydd, ac efallai y byddai cam o’r fath yn rhoi ffocws penodol i weithgareddau theatrig y brifddinas.

Os mai pryder sy’n nodweddu’r datganiad drwyddo draw, fe fynegir bod camau breision wedi’u cymryd ym myd Theatr i Bobl Ifanc yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a nodir y dyhead i’r wyth cwmni sy’n arbenigo yn y maes hwn yng Nghymru weithio’n glós gyda’r CCC er mwyn sicrhau’r nawdd ychwanegol a roddir iddynt yn y dyfodol agos.

Yn olaf, pledir am fwy o gydweithrediad rhwng y cyrff a’r sefydliadau hynny sy’n ymwneud â’r ddrama. Yn sicr, o ran y gwahanol gwmnïau theatr yng Nghymru, mae lle i glosio a chyd-weithio’n fwy. Os yw Siôn Corn yn digwydd darllen yr erthygl hon, yna hoffwn awgrymu ei fod yn rhoi dyddiadur i bob cwmni theatr, fel bod modd iddynt drefnu teithiau gwahanol gynyrchiadau’n well. Ar hyn o bryd, ceir misoedd lawer o ddiffeithiwch theatrig, ac yna, fwya’ sydyn, ceir pedwar neu bump o gynyrchiadau yn ymweld ag ardal o fewn ychydig wythnosau i’w gilydd.

Yn ogystal, mae lle i gryfhau’r berthynas rhwng y cwmnïau theatr a’r cyfryngau’n gyffredinol yng Nghymru. Mynegir yn aml bod S4C wedi amddifadu’r theatr Gymraeg o awduron, ac er bod gosodiad o’r fath yn rhy simplistig o’r hanner, fe allai’r cyfryngau a’r theatr yng Nghymru gynorthwyo ei gilydd yn llawer gwell. Nid cyd-ddigwyddiad mo’r ffaith bod y dramodwyr mwyaf llwyddianus ym myd teledu a’r theatr yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf, sef Meic Povey a Mei Jones, wedi eu trwytho ym myd y theatr ac wedi bwrw eu prentisiaeth yno cyn mynd ati i lunio cyfresi poblogaidd megis Deryn, C’mon Midffîld, Cerddwn Ymlaen a Talcen Caled. Mae gormod o ysgrifenwyr ifanc heddiw yn or-awyddus i fynd i ysgrifennu’n syth ar gyfer y teledu. Yn ddi-os, mae apêl ariannol y teledu yn abwyd atyniadol iawn i awduron newydd, ond ar ddiwedd y dydd mae’r profiad o weithio ym myd y theatr yn amhirisiadwy o safbwynt ymarfer y grefft a magu hyder yn y byd ‘sgwennu. Yn ystod yr _yl Ffilmiau a bgynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd eleni, gwelwyd drama lwyfan o eiddo Gareth F. Williams, Siôn a Siân, yn cael ei haddasu ar gyfer arlwy Nadolig ein sianel. Yr oedd yr addasiad hwn o eiddo Eryl Phillips a chwmni Opus wedi gweithio’n ddigon twt, ac yn tystio i’r ffaith nad oes raid i’r ddau gyfrwng – teledu a theatr – fod yn ddrwgdybus a gelyniaethus tuag at ei gilydd.

Yn sicr, mae’r ddogfen hon yn codi nifer o bwyntiau dilys, ac mae’n ddatganiad sydd yn haeddu cael ei drafod yn fanwl. Mae’n ddi-flewyn ar dafod yn ei beirniadaeth o ddiffyg gweledigaeth y CCC tuag at ddramodwyr, a byd y ddrama yn gyffredinol. Gyda lwc, bydd 2004 yn dynodi pennod newydd yn hanes y theatr Gymraeg, ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mae hyder newydd yn perthyn i’r maes. Er hynny, os na fydd mwy o barch yn cael ei roi i ddramodwyr, mae peryg gwirioneddol mai tudalen wag heb eiriau fydd tudalen gyntaf pennod ddiweddaraf hanes y theatr Gymraeg.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:491/492, Rhagfyr/Ionawr 2003/04

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk