Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

I ACADEMIA, OND NID I GUDDIO

Newid byd i Graham Laker

Mae’n gyfnod o newid yn y theatr Gymraeg, gyda dau o’r cyfarwyddwyr amlycaf yn dechrau ar swyddi newydd. Bu HUW ROBERTS yn holi Graham Laker, sy’n ymuno â staff Adran Theatr, Ffilm ac Astudiaethau Teledu Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar ôl saith mlynedd yn Theatr Gwynedd, (a chafodd MENNA BAINES air gyda Tim Baker, sy’n symud o Theatr Gorllewin Morgannwg i Theatr Clwyd.)

Mae Graham Laker yn hapus iawn i ddatgan mai ei amser yn Theatr Gwynedd yw’r cyfnod o’i fywyd sydd wedi rhoi mwyaf o foddhad iddo hyd yn hyn.

‘Mae wedi bod yn fraint cael cydweithio gyda chymaint o bobl dalentog, yn sgrifennwyr, actorion, cynllunwyr a thechnegwyr,’ meddai’r dyn a fagwyd yng nghyffiniau Brighton, ac a ddaeth i Ogledd Cymru i ddechrau fel darlithydd yn yr Adran Ddrama a oedd yng Ngholeg y Prifysgol, Bangor ar y pryd. Dysgodd Gymraeg, a phenodwyd ef yn Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Cwmni Theatr Gwynedd ym 1990. Polisi’r cwmni ar hyd y blynyddoedd fu cyflwyno, gyda graen proffesiynol, amrywiaeth o gynyrchiadau, o glasuron Cymraeg fel Cyfyng Gyngor a Gymerwch Chi Sigaret? I glasuron rhyngwladol fel Y Gelli Geirios a Ddoe yn Ôl, heb sôn am ddramâu newydd fel Leni a Golff, ac ambell sioe lai syber fel Awe Bryn Coch.

Yn gellweirus mae Graham Laker yn egluro bod y fath amrywiaeth eang yn arwydd ei fod ef ei hun yn ddiedifar ddiletantaidd yn ei agwedd tuag at theatr. Ond arwydd ydy o, ddwedwn i, o agwedd bositif tuag at theatr dda a’i gallu i ddifyrru a chyffroi’r gynulleidfa ar wahanol lefelau. Mae llwyddiant y cwmni ar hyd y blynyddoedd yn dangos yn glir ei allu i greu cyflwyniadau caboledig a chofiadwy allan o ystod eang iawn o ddefnyddiau crai. Steil hwnna ydi o.

Os pwysir arno mae’n amlwg fod ei gyflwyniad campus o addasiad John Ogwen o’r nofel O Law i Law yn un a roddodd fwynhad mawr iddo; fel y gwnaeth i’r miloedd a ddaeth i’r theatr i’w weld. Mae cofio am ei waith ar Y Werin Wydr, cyfieithiad Annes Gruffydd o The Glass Menagerie, yn dod â phleser mawr iddo hefyd. Dim ond yn Theatr Gwynedd y gwelwyd y cynhyrchiad ond mae’r cyfarwyddwr yn ystyried mai gyda hwnnw y daeth y cwmni agosaf at y perffeithrwydd anghredadwy y mae pob celfyddyd yn amcanu ato. Y mae’n falch hefyd ei fod wedi gallu cyflwyno Cwm Glo, sydd, yn ei farn ef, yn un o glasuron coll y theatr Gymraeg.

Yn gymysg â’r balchder, fodd bynnag, mae yna siom hefyd - siom yn y modd y mae hinsawdd ariannol y blynyddoedd diwethaf wedi gorfodi’r cwmni i ailystyried eu rôl, a siom yn argymhelliad diweddar Cyngor y Celfyddydau eu bod yn rhoi’r gorau i deithio’n genedlaethol ac yn canolbwyntio’n hytrach ar wasanaethu’r gymuned leol, gyda phum cynhyrchiad y flwyddyn yn Theatr Gwynedd. Ddeng mlynedd a llai yn ôl roedd y cwmni yn gallu llwyfannu Y Gelli Geirios gyda thri ar ddeg yn y cast ac Enoc Huws gyda chast mawr a cherddorfa. Ond o dderbyn argymhelliad y Cyngor, mas Graham Laker yn gweld diwedd ar gynyrchiadau felly.

‘Os bydd pum cynhyrchiad y flwyddyn, dim ond cast o ryw dri actor fydd yn bosib i bob un, hyd y gwela’ i. Mae derbyn yr argymhelliad hefyd yn golygu newid polisi sylfaenol, ac er bod yna rinwedd yn y syniad o wasanaethu’r gymuned leol, mae’n si_r o gyfyngu ar y math o waith sy’n cael ei lwyfannu. Er enghraifft, fe fyddai’n anodd iawn cyfiawnhau gwneud sioe fel Yr Aduniad, oedd wedi’i lleoli yn Llanelli, neu Cwm Glo. Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi fod Panel Drama Cyngor y Celfyddydau wedi ystyried oblygiadau’r newid yn ddigon gofalus.’

Fodd bynnag, nid troi ei gefn ar broblemau’r proffesiwn ac encilio i’r twr ifori yw bwriad Graham Laker. Apêl y swydd newydd yn y coleg yn Aberystwyth, meddai, yw’r cyfle i gyfuno astudiaeth academaidd o ddrama ac agweddau ymarferol y pwnc, ac mae’n croesawu’r cyfle i edrych ar y theatr Gymraeg o bersbectif gwahanol. Da clywed nad yw’n bwriadu bod yn ddistaw ac y bydd yn dweud ei feddwl.

Mae’n dda deall hefyd na fydd yn colli cysylltiad â chwmni Theatr Gwynedd. Mae ei banel artistig, a fu’n gymaint o gefn iddo, yn dal yr awenau yno ar hyn o bryd a bydd lle iddo yntau yn y trafodaethau. Gwn hefyd y bydd croeso mawr iddo gyflwyno cynyrchiadau yn awr ac yn y man, os yw ei brysurdeb newydd yn caniatáu. Rhwng popeth, bydd presenoldeb y dyn d_ad dawnus hwn yn nhirlun ein theatr i’w deimlo o hyd.

Mae Huw Roberts, awdur yr erthygl uchod, yn aelod o Fwrdd Rheoli Theatr Gwynedd.

awdur:Menna Baines
cyfrol:416 Medi 1997

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk