O FORGANNWG I GLWYD
Her Newydd i Tim Baker
Mae’n gyfnod o newid yn y theatr Gymraeg, gyda dau o’r cyfarwyddwyr amlycaf yn dechrau ar swyddi newydd (Bu HUW ROBERTS yn holi Graham Laker, sy’n ymuno â staff Adran Theatr, Ffilm ac Astudiaethau Teledu Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar ôl saith mlynedd yn Theatr Gwynedd), a chafodd MENNA BAINES air gyda Tim Baker, sy’n symud o Theatr Gorllewin Morgannwg i Theatr Clwyd.
Er i Tim Baker gael ei fagu yn Reading, mae ganddo wreiddiau Cymreig. Wedi symud i Loegr o’r Rhondda yn ystod dirwasgiad y tridegau yr oedd ei rieni, a phan ddaeth y mab i Gymru yn y saithdegau, cafodd ei hun yn gweithio yn yr un ardal, yn wir yn yr union adeilad lle’r arferai ei fam fynd i’r ysgol. Yna roedd swyddfa Spectacle, y cwmni theatr mewn addysg a sefydlwyd gan Tim Baker. Yn yr wythdegau y symudodd i’r gogledd i weithio fel cerddor gyda Bara Caws, a dyna pryd y dysgodd Gymraeg. Pan ddaeth yn gyfarwyddwr Theatr Gorllewin Morgannwg yn fuan wedyn, un o’r pethau cyntaf a wnaeth oedd troi’r cwmni uniaith Saesneg hwnnw yn un dwyieithog.
Heddiw, mae’n methu credu ei fod wedi bod yno am bymtheng mlynedd. Mae’r amser, meddai, wedi gwibio. Creu theatr gymunedol o safon oedd y nod dechreuol, a buon y magodd y cwmni enw ledled Cymru am sioeau slic, egniol, llawn canu a symud, yn ymdrin trwy gyfrwng stori ddifyr â phob math o bynciau cyfoes. Ond Tim Baker yw’r cyntaf i gyfadde’ bod poblogrwydd yn gallu creu dilema.
‘Dwi wastad wedi credu bod ymateb i anghenion y gynulleidfa yn bwysig, ond erbyn dechrau’r nawdegau roedd yna deimlad bod hynny’n rhwystro’r cwmni rhag datblygu, ac mi wnaethon ni ymdrech ymwybodol i dorri allan o’r rhigol a dechrau dwyn elfennau newydd i mewn i’n gwaith, er enghraifft, gwneud cyd-gynyrchiadau gyda chwmnïau eraill. Elfen arall gyffroes yn ystod y tair blynedd ddiwethaf fu cynnal ysgolion sgriptio.’
Am y tro cyntaf hefyd, bu ymweliadau â gwledydd tramor; perfformiodd y cwmni mewn cynhadledd theatr ieuenctid yn Nhwrci, a bu Tim Baker yn Barcelona am dri mis yn gweithio gyda chwmni Catalaneg ar ddrama oedd wedi’i chreu gan Theatr Gorllewin Morgannwg. Yn ddiweddar mae hefyd wedi cyfarwyddo a chyd-gyfarwyddo dwy ddrama yn Theatr Clwyd, ac un arall i Mappa Mundi. Ac yntau wedi cael blas ar y gwaith hwnnw, fe ddaeth cynnig o swydd fel is-gyfarwyddwr yn Theatr Clwyd ar adeg pan oedd eisoes wedi dechrau ystyried symud ymlaen.
‘Fyddai aros am byth yn Theatr Gorllewin Morgannwg ddim wedi bod yn beth da i fi na’r cwmni, ro’n i eisiau aros yng Nghymru ac aros yn y theatr ac mae’r cyfleoedd yn ddigon prin. Roedd o fel petai yna ddrws yn agor.’
Fe fydd yn gweithio ochr yn ochr â Terry Hands, cyfarwyddwr artistig Theatr Clwyd, gyda chyfrifoldeb arbennig dros waith addysgol a datblygu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yw’n addo gwyrthiau dros nos ar yr ail gyfrif, ond mae’n ffyddiog fod yna newid agwedd graddol yn digwydd yn y sefydliad hwn y bu cymaint o feirniadu ar ei Seisnigrwydd.
‘Dwi wedi fy nghalonogi wrth weld pa mor bositif ydi agwedd Terry Hands – mae o’n sicr yn sylweddoli ei fod mewn gwlad wahanol, ac iddi ei hiaith a’i diwylliant ei hun, ond mae o’n dal yn ddieithryn yn y byd Cymreig ar hyn o bryd. Felly dyfal donc ydi hi o hyn ymlaen – mae’r ewyllys da yno. Fe fydd yna gynhyrchiad Cymraeg prif lwyfan yn yr ha’ – y cynta’ i Theatr Clwyd, a’r cynta’ o lawer, gobeithio.’
Yn y cyfamser, cynhyrchiad Cymreig tymor y gaeaf, dan gyfarwyddyd Tim Baker, fydd Rape of the Fair Country, addasiad Manon Eames o’r gyntaf o dair nofel gan Alex Cordell am fywyd yng Nghymru ar ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol. Bydd addasiadau o’r ddwy arall yn dilyn, nes bydd modd gweld y tair gyda’i gilydd erbyn 1999. Mae cast mawr Rape of the Fair Country yn rhan o dîm cyfan o bedwar ar hugain o actorion fydd yn gweithio, rhyngddynt, ar chwe chynhyrchiad yr un pryd yn Theatr Clwyd am saith mis.
‘Mae cael y cwmni sefydlog yma yn ddull hollol newydd o weithio yng Nghymru - y peth agosâ ato yw ffordd yr RSC o weithio. Mae o’n golygu ein bod ni’n cael cysondeb, teimlad teuluol ac ymrwymiad. Mae’n ddatblygiad cyffrous iawn.’
Mae dros draean o aelodau’r cwmni newydd yn Gymry Cymraeg, ac yn eu plith hoelion wyth Theatr Gorllewin Morgannwg - Gwyn Vaughan, Sara Harris-Davies a Manon Eames, ac actor arall sydd wedi gweithio gyda’r cwmni, Llion Williams. Cyd-ddigwyddiad yw hynny, yn ôl Tim Baker, gan fod y dewis terfynol wrth gastio yn nwylo pedwar o gyfarwyddwyr. Ond efallai y bydd presenoldeb wynebau cyfarwydd yn helpu iddo deimlo’n gartrefol wrth wynebu ei her newydd yn Theatr Clwyd.
awdur:Menna Baines
cyfrol:416 Medi 1997
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com