Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Clapio yn y gwagle

Mae’r trafod diweddar ar ddrama yn digwydd yn erbyn cefndir o gynulleidfaoedd yn crebachu. Bu DAFYDD LLYWELYN yn tyrchu ymhellach...

Neithiwr bûm mewn theatr yn gwylio drama. Chwip o ddrama a bod yn onest, un sy’n haeddu canmoliaeth. Dim ond yn gynharach y prynhawn hwnnw y penderfynais fynd i weld y cynhyrchiad, a dyma ffonio ‘enaid hoff cytûn’ a gofynodd a oedd hi eisiau dôs o ddiwylliant. Wrth gytuno i gyfarfod y tu allan i’r theatr dyma’r ffrind yn holi a oedd angen archebu tocyn o flaen llaw, neu a fyddai’n well mynd tuag ugain munud ynghynt er mwyn bod yn saff o docyn. Roedd hi’n amlwg, yn ôl ei phryderon, nad oedd fy nghwmni am y noson honno wedi mynychu’r theatr yn ddiweddar. Pe bai pawb yn y theatr y noson honno wedi mynnu prynu rhes gyfan o seddi iddyn nhw eu hunain, mi fyddai dros draean y theatr o hyd yn wag. Doedd weiran gaws ddim ynddi.

Wedi’r cynhyrchiad, a phawb wedi clapio fel melinau gwynt er mwyn ceisio perswadio’r actorion druan nad oedden nhw newydd gwblhau perfformiad ym mynwent y dref, dyma fynd draw i’r dafarn am beint o Guinness i actio Quincy, a chynnig post-mortem ar y noson. Oedd, mi oedd hi’n ddrama dda, safon yr actio’n uchel, a’r cynhyrchiad drwyddi draw yn dynn a chaboledig. Pam felly bod mwy o lampau yn goleuo’r ddarpariaeth nag oedd yna o gynulleidfa? Dechreuwyd ar y dadansoddi, gan gychwyn gyda’r ystrydebol.

‘Tydi teledu wedi difetha pob dim?’ Mae wedi dod yn ffasiynol iawn i feio teledu am bob dim, o gynnydd yn yr ystadegau troseddu i ddiffyg treuliad y gath drws nesaf. Yn sicr, y mae diffyg darpariaeth gynhwysfawr presennol S4C o safbwynt drama wedi cael effaith andwyol ar fyd y ddrama lwyfan. Ni ddylai S4C deimlo unrhyw euogrwydd am hyn, oherwydd nid ei chyfrifoldeb hi yw gofalu am les y ddrama lwyfan. Fodd bynnag, y mae’n wendid ar ei rhan nad ydyw’n llwyddo i sylweddoli grym a sgôp y ddrama unigol. Gall rhywun weld rhesymeg y tu cefn i bolisi sy’n hyrwyddo cyfresi, yn yr ystyr ei fod yn ariannol yn fwy ymarferol, a bod modd denu cynulleidfa ffyddlon a datblygu cymeriadau a phlotiau dros gyfnod. Ond nid yw hynny’n cyfiawnhau’r diffyg yn nifer y dramâu unigol sydd ar gael ar y sianel y dyddiau hyn. Yn gynharach eleni, hysbysebwyd yn y cylchgrawn hwn fod cwmni Bracan wedi comisiynu tair drama newydd gogyfer â chyfres o’r fath. Chwa o awyr iach, ond beth ddigwyddodd? Cawsant eu darlledu ar S4C Digidol. Rwy’n argyhoeddi y dylid buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf ac ati, ond a bod yn hollol onest, faint o Gymry welodd y dramâu hyn? Fe haerwn i fod y ffigwr hwn yn eithaf tebyg i niferoedd yr Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig. Yr unig rai sy’n meddu ar y dechnoleg hon yw’r dosbarth canol cyfforddus, a faint o ddiddordeb sy gan y dosbarth hwnnw ym myd y ddrama?

Er nad wyf yn amau bod y teledu, a’r cyfryngau eraill, yn ffactor dylanwadol iawn wrth drafod tueddiadau cymdeithasol y boblogaeth, mae’n ateb rhy simplistig o’r hanner yng nhgyd-destun diffyg cynulleidfa i’r ddrama lwyfan. Meddylier am weithgareddau cymdeithasol eraill, megis ymweld â’r sinema. Gyda dyfodiad y fideo bu darogan mawr y byddai tranc ar yr arfer o fynd i’r sinema, ond ofer fu’r fath ragolygon negyddol, ac yn wir gwelwyd dadeni yn hanes y sinema yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Meddylier hefyd am fyd pêl-droed. O gofio cymaint o gyfleoedd sydd yna ar y teledu y dyddiau hyn i wylio gemau pêl-droed, hawdd fyddai dychmygu gostyngiad yn nifer y rhai sydd yn mynychu’r gemau hynny. Ymddengys unwaith yn rhagor fod y fath honiad yn gyfeiliornus, oherwydd mae gwerthiant tocynau ar gyfer y gemau hyn wedi cynyddu. Er y llewyrch hyn, cred rhai fod gwreiddiau’r gêm wedi’u colli yn sgil yr ymdrechion i’w moderneiddio, a bod y sgarff lliwgar a’r stwmp sigaret wedi ildio’u lle i siwt a thei unlliw a chlamp o sigar.

Aed ymlaen wedyn i drafod goblygiadau y pedwar gair anfaddeuol sef, ‘anaddas i rai dan bymtheg’,` oedd wedi’i argraffu ar waelod yh poster hysbysu. Weithiau cyfnewidir y geiriau hyn am ddatganiad cliriach fel ‘defnyddir iaith gref’, neu a’i roi mewn dull syml, lot o regi a sôn am bethau ffiaidd fel rhyw a phethau nad yw unrho Gymro neu Gymraes barchus yn ei wneud na’i ddweud. Mae gennyf gof i athrawes Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd ddweud unwaith mai adlewyrchiad o ddiffyg geirfa gyfoethog yw rhegi. Ni allaf ond amenïo ei geiriau, gan ei bod yn athrawes uffernol o dda, ond ar nodyn difrifol, fe godir pwynt pwysig yma. Ymae nifer yn rhegi, oherwydd eu methiant i gyfathrebu, a’u methiant i gyfleu eu gwir deimladau, a ayna gynhwysyn delfrydol ar gyfer cymeriad mewn drama. Rhag i un ohonoch estyn am eich beiro a’ch papur persawr i ysgrifennu llythyr yn cwyno yn fy erbyn, nid wyf yn ceisio honni am eiliad bod cyfiawnhad dros gynnwys rhegfeydd di-ben-draw a dibwrpas. Os defnyddir rhegfeydd yn rhy aml, yna fe gollir eu heffaith, does dim dwywaith am hynny. Fodd bynnag, hyd yn oed os nad ydym yn eu defnyddio nhw ein hunain, ni all neb honni nad yw rhegfeydd i’w clywed yn yr iard chwarae ac yn y stryd fawr, ac nid ffenomen gwbl newydd mo’r ddawn i regi chwaith. Mae gwadu ffaith o’r fath yn atgoffa rhywun o brotest blaenor yn erbyn marchnad ar y Sul, sef bod y siopwyr yn ei rwystro rhag llenwi ei gar gyda phetrol er mwyn cael mynd i’r capel. Rhagrith yw rhagrith, pa mor dda bynnag fo’r cyfiawnhad. Meddylier am yr awdur Dennis Potter. Cafodd ei feirniadu a’i labylu’n ‘dirty Den’ a phethau gwaeth, a hynny’n syml am ei fod yn datgelu gwirioneddau mor agos at y gwir nes peri i rai aelodau o’r dosbarth canol honedig barchus fynd i gredu y dylid ei dawelu. Mae gwahaniaeth dybryd rhwng gwirionedd sy’n brifo a phrocio cydwybod rhywun cyfforddus ei fyd a chyfres o regfeydd sy’n hyll i’r glust.

Yn gysylltiedig â’r pwynt uchod, aed ati i ddadansoddi pwy’n union oedd wedi mynychu’r ddrama. Oherwydd prinder adnoddau i gyflogi cyfreithiwr, ni fynnaf enwi unigolion penodol, ond mae’n deg casglu bod cynrychiolaeth o’r dosbarth canol yn wan iawn, a hynny mewn ardal a ystyrir gan nifer yn galon i ardal ddiwyllianol Gymraeg a Chymreig. Tybed a ydi aelodau’r dosbarth hwn yn fwy na pharod bellach i fodloni ar eu dogn diwylliannol blynyddol yn yr Eisteddfod, a bod mathau eraill o adloniant yn cael eu gweld yn fwy parchus a diwylliedig? Ond nid ffenomen unigryw i’r ardal hon yw diffyg cefnogaeth i’r ddrama ymhlith y gyrwyr Volcos a chefnogwyr y Blaid a Bryn Terfel. Yn ystod fy oes (gymharol fer) rwyf wedi llwyddo i weld nifer o wahanol gynhyrchiadau mewn sawl neuadd a chanolfan, ac ni raid wrth Einstein i gasglu bod crebachiad sylweddol wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ym maint cynulleidfa o’r fath, boed yn y gogledd, de neu’r canolbarth. Y mae aelodau’r dosbarth canol Cymraeg bellach wedi troi cefn ar y ddrama yng Nghymru ac wedi eu dallu gan sbloets a syrcas sioeau cerdd dros Glawdd Offa. Arwydd o statws yn cael rhestru’r sioeau a fynychwyd yn Llundain, gan gilwenu wrth gyfeirio at ymdrechion pitw nes adref.

Wrth ystyried y posibilrwydd o greu ymgyrch i bardduo’r dosbarth canol cyfforddus, fe ddywedodd un cyfalafwr bach yn y gornel – neu ai creadigaeth fy nghydwybod i ydoedd – pam ar wyneb y ddaear y dylai pobl deimlo rheidrwydd i fynd draw i weld drama? Onid oes rhywbeth afiach yn y syniad bod yn rhaid inni gefnogi’r Pethe? Os yw rhywbeth yn dda ac yn safonol yna fe ledaenir y neges yn ddigon buan ar hyd y lle. Mae’r oes lle mae rhywun yn mynychu noson o’r fath er mwyn cadw wyneb wedi hen fynd, a diolch byth am hynny. Drwyddi draw mae’r ddarpariaeth ar gyfer y ddrama lwyfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod mor wael a gwan, fel bod bobl bellach wedi colli amynedd a diddordeb. Efallai fod caredigion y ddrama wedi dibynnu gormod ar ewyllys dda y bobl ar hyd y blynyddoedd, a bod angen iddynt sylweddoli bod cenhedlaeth newydd bellach wedi codi, cenhedlaeth sydd ddim wedi arfer mynychu’r theatr o ran dyletswydd. Nid yw aelodau’r genhedlaeth hon yn meddu ar gydwybod, a’r unig beth sydd am eu denu yn ôl i’r awditoriwm yw chwip o ddrama a phrofiad theatrig go iawn. Dyna’r unig ffordd i sicrhau theatr Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:441, Hydref 1999

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk