Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Rhegi dy fam

Cafodd BETHAN GWANAS ei chyfareddu gan Sundance, drama newydd Aled Jones Williams.

Mae’n gas gen i adolygu rhywbeth sydd ddim wedi fy mhlesio. Ond, diolch i’r nefoedd, mi fydd adolygu Sundance yn bleser. Newydd ddod yn ôl o Theatr Gwynedd ydw i heno, a phenderfynu mod i am ysgrifennu y munud yma, tra bo’r cwbl yn ffres yn y meddwl.

Hon yw pumed drama lwyfan Aled Jones Williams, y ficer o Borthmadog, ac mi hoffwn i allu dweud mai hon yw’r orau, ond welais i mo Cnawd, felly amhosib yw barnu hynny. Ond rydw i wedi gweld digon o’i waith i wybod fwy neu lai beth i’w ddisgwyl: drama ddewr, anghyfforddus a chwbl wahanol. Nid ‘feel good’ mo stwff y ficer. Ac mae Sundance yn dilyn yr un patrwm.

Enw’r cymeriad ydi ‘Sundance’, ac ar ddechrau’r ddrama mae’n gwylio ffilm gowbois tra’n gorwedd mewn bath, bath tebyg i’r un rydan ni wedi gweld cowbois c_l fel Clint ynddyn nhw. Mae yna gadair y tu ôl iddo, wedi ei gorchuddio gan ddefnydd gwyn, ac ar y dde, mae ffrog briodas wen, hir, hir a rguban coch hirach fyth wedi ei glymu am y canol. Mae’r cwbl mewn cell gyda bariau trwm ar y drws. I adleisio llais o’r gorffennol, mae’n set syml – ond effeithiol. Llawn symboliaeth, ond heb fod yn ormod felly; mae’n gas gen i symboliaeth sydd fel gordd.

O’r eiliadau cyntaf, mae’n berffaith amlwg fod Sundance ddiw cweit yr un fath â phawb arall, mae yna elfen gref o sgitsoffrenia ynddo, ac roedd Jonathan Nefydd yn cael hwyl arni. Castio arbennig yn fy marn i – mae ganddo’r wyneb sy’n gweddu rywsut. Roedd o’n amlwg yn gwasgu popeth allan o’r rhan ac mae o wedi hoelio ei hun i fy rhestr bersonol i o’n actorion gorau. Mae’n rhaid fod y rhan yma yn fêl ar dafod unrhyw actor; sialens yn sicr, ond bobol, y fath... mae’n anodd dod o hyd i air addas. Rhowch o fel hyn, mi ddylai actorion fod yn baglu dros ei gilydd am y rhan yma. Mae’n mynd o’r llon i’r lleddf fel sloth ar asid, ac mae’r clyfrwch geiriol yn feddwol:

... PEPCO ...The family friendly store....

Cut Price!

Price Cuts!

Prime Cuts!

5% off!

10% off!

20% off!

Every fucking thing’s off!

Buy two get one free.

Free gift!

Sbeshyl price!

Sbeshyl offer!

Get off her!

Off her!

Get off o’her cowboy!

Oes, mae yna gryn dipyn o’r iaith fain yn y ddrama, ond dyna sy’n digwydd pan fydd rhywun yn byw ei fywyd drwy’r sgrin fawr:

A mi es i mewn i’r pictiwrs y pnawn Sadwrn hwnnw a dwi ‘rioed ‘di dwad allan.

Mae yma lin ellau sy’n eich taro, eich cnocio. Rhai oherwydd eu bod nhw ,mor annisgwyl a digri o fewn eu cyd-destun:

Mae ‘na bob dim yn y bath ‘ma ond ffwcin d_r.

Eraill oherwydd eu bod mor fendigedig o farddonol:

Sbia! Sbâr eira yn hongian ar ochr yr Wyddfa fel paent yn plicio... O’dda chdi’n licio hynna?... Geiria sy’n ‘nal i hefo’i gilydd... fel seffti pins... Naci! Fel lasdig bands.... Am ‘y mod i’n medru deud petha dwi’n gwbod mod i yna....

Ac eraill oherwydd eu bod yn gwneud i chi wingo: ‘Ma mam yn medru difetha y resd o dy ffwcin oes di.’

Doedd fy nghyfaill ddim wedi mwynhau’r ddrama gymaint â mi, ond pan glywais i’r frawddeg yna, ro’n i’n gwybod y byddai hi’n teimlo’n annifyr. Mae ganddi fab. I mi, dyna brif thema Sundance: effaith mam ar blentyn, yn enwedig mam sydd yn marw.

Mam, sy’n

magu ac yn

mygu ac yn

mygu ac yn

magu.

Mae yma drais ac iaith gref na fydd at ddant pawb, ond mae pob rheg yn haeddu ei le. Dwi ddim yn credu i mi gael fy nghyfareddu gymaint gan b_er geiriau ar lwyfan ers gweld Marriage of Convenience gan Ian Rowlands. Nid cyd-ddigwyddiad mo’r ffaith mai awdur y ddrama fendigedig honno sydd wedi cyfarwyddo’r ddrama hon, ac mae’n si_r gen i fod a wnelo fo rhywbeth â’r syniad gwych o gynnwys y ddrama gyfan yn y rhaglen. Gwnaethpwyd yr un peth yn union gyda Marriage of Convenience.

Mewn erthygl yn Golwg, mae Aled Jones Williams yn dweud ei fod am oedi cyn ysgrifennu rhagor oherwydd ‘mod i wedi dangos dipyn o’n hun yn y dramâu, a mod i eisiau camu nôl.’ Digon teg, ond gobeithio na fydd yn oedi’n rhy hir. Mae gwir angen awdur fel hyn yng Nghymru heddiw, rhywun sy’n deall ei gyfrwng ac sydd â rhywbeth i’w ddweud.

awdur:Bethan Gwanas
cyfrol:441, Hydref 1999

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk