Ffrwd Ceinwen a’i ffawd
William Lewis yw awdur y ddrama gomisiwn yn yr Eisteddfod eleni. Aeth MEG ELIS i’w holi ar ran theatr.
Meg Elis: Ydi’r dramodydd wedi’i gau ei hun i fyny i greu’r ddrama yma?
William R. Lewis: Ddim o gwbl – mae wedi bod yn fater o weithio efo tîm – a bod yn ffodus iawn o weithio hefo Graham Laker, fel cynhyrchydd. Dwi’n leicio’r ffordd y mae o’n mynd at destun – mae’n rhaid cyfiawnhau gweithredoedd a theimladau, rhoi’r rheswm amdanyn nhw bob tro. Canlyniad hyn, wrth gwrs, ydi llawer mwy o gwestiynau a mwy o hunan-feirniadaeth nag y mae rhai dramodwyr yn hoffi. Ond mae profiad fel yr un diweddar, o fod mewn gweithdy efo fo, efo’r actorion, yn werthfawr tu hwnt. Roedd yn werthfawr cael barn yr actorion am eu cymeriadau, oherwydd yr hyn gaiff rhywun gan actorion ydi’r technegau gorau i greu thema ar lwyfan – cyn belled â bod hyn ddim yhn bwgwth y thema ganolog. Mae’n bwysig fod y teimlad, y thema yn cael ei ddatblygu yn glir i’r gynulleidfa – dyna sy’n gwneud drama mor wahanol i nofel, dyweder, lle mae gan y darllenydd gyfle i fynd yn ôl dros y gwaith, pendroni a phori. ‘Does dim modd gwneud hynny efo drama – ar waetha tuedd yr awdur i feddwl fod ei destun yn hollol gysegredig.
Ac i ddod at y testun – drama am be ydi hi?
Am deulu o Gymry; y fam, Dwynwen, yn byw ym Môn, ac yn bwriadu codi plac yn lleol er cof am ei g_r oedd yn gyfansoddwr. Mae hi am wadd ei phlant i’r digwyddiad, eu cael nhw i gyd at ei gilydd i’r achlysur yma fydd yn coffáu eu tad – a’r bwriad ar ôl y cyfarfod coffa ydi mynd, gadael y plasty ym Môn oedd yn gartref iddi. Mae hi’n cynnal perthynas efo Barry, entrepreneur lleol, ac mae gan hwnnw dipyn o heyrns yn y tân mewn mannau eraill, felly mi fyddan nhw yn symud i Loegr i fyw. Ond yn gynta, mae’r cyfarfod coffa, ac mae’r bwriad i ddwyn y plant ynghyd: Meilyr, sy’n ddarlithydd yng Nghaerdydd ym maes geneteg, a Rhys, offeiriad yn Sir Drefaldwyn. Gartra mae Dona, y ferch: mi ddechreuodd hi ar gwrs cerddorol yn Guildhall yn Llundain, ond cafodd blentyn, rhoi’r gorau i’r cwrs, a dychwelyd adra. Mae hi’n rhyw stwna erbyn hyn efo gr_p pop. Mae hyn i gyd yn digwydd, wedi ei leoli, ar ddiwrnod y Refferendwm.
Drama am drobwynt, felly?
Roedd y Refferendwm yn drobwynt, wrth gwrs, ac ydi, mae’r fam, Dwynwen, yn gweld codi’r plac yn drobwynt, neu yn fodd o gloi un bennod cyn symud ymlaen. Yn bersonol, felly, mae hi wrthi yn moderneiddio’r lle mae hi’n byw – yn ceisio mygu atgofion hwyrach. Ac wrth foderneiddio’r lle, mae yna darfu ar Ffrwd Ceinwen, sy’n rhedeg drwy’r tir. Mae argae yn cael ei chreu – ffordd o ddal a dofi’r d_r, ystumio natur i bwrpas dyn. Ac yn y pendraw, wrth gwrs, dyna mae Meilyr, y mab, y genetegydd yn ei wneud – ceisio rheoli bywyd. Mae o’n llawn sylweddoli’r llanast sy’n digwydd, ac y mae ganddo fo atgofion am ei dad. Mae o hefyd yn sylweddoli fod ei dad, y cyfansoddwr, wedi rhoi darn o gerddoriaeth iddo fo, yn etifeddiaeth ar ei ôl, ac y mae i hyn ran ganolog yn y chwarae.
I Meilyr, y gwyddonydd, y rhoddodd y tad y darn cerddoriaeth? Pam nad i Dona, sydd yn gerddor?
Dyhead ei dad oedd i Meilyr gael y darn cerddoriaeth, ar waethaf ei swydd. Mae’r tad, debyg, yn cynrychioli creadigrwydd na fedr Meilyr ffoi rhagddo. Mewn gwirionedd, mae’r plant i gyd ar gyfrgoll. Mae Meilyr, fel y deudais i, yn sylweddoli beth ydi pen draw ymyrryd â bywyd, ond y mae o hefyd, oherwydd ei ddaliadau, wedi cael dylanwad ar ei frawd Rhys, yr offeiriad. Mae Rhys ar chwâl, yn hoyw, yn ansicr ac yn amheus bellach o’i ffydd: ‘roedd clywed Meilyr yn traddodi darlith yn chwalu ei gred o. Pan oedd Rhys yn gadarn ei ffydd a’i gred, fe gafodd ddylanwad ar ei chwaer i beidio ag erthylu’r plentyn roedd hi’n gario – ceisio rheoli bywyd, rheoli teimladau eto. Ond os oes yma thema ganalog, ceisio sôn yr ydw i am fethu rheoli teimladau. Mae yna lot o fân gyfeiriadau, wrth gwrs, at ymyrryd a rheoli, a’r rheiny’n dod o bob cyfeiriad. Ond pobl, y teulu, sydd yn methu rheoli eu teimladau yn y pen draw.
Ond mae’r cyfan wedi ei osod yn erbyn cefndir y Refferendwm, ac y mae yna gyfeiriadau at bethau – at yr argae, er enghraifft, a’r bwriad i symud o Gymru i Loegr – sy’n gwneud i’r peth swnio fel drama wleidyddol.
Yr oedd hi’n demtasiwn i sgwennu drama wleidyddol, a dyna oedd y syniad cychwynnol oedd gen i. Ond pethau teuluol ydi tensiynau, a chynrychioli teimladau yn hytrach na syniadau wnaiff y cymeriadau – teimladau yng Nghymru, hwyrach, ond teimladau a thensiynau teuluol.
Y da yn erbyn y drwg?
Fedra’i ddim dweud. Mae’n amhosib dweud, hwyrach. Ond yn sicr y mae yna rywbeth dan yr wyneb yn rheoli bywydau pobl. Ac yn y ddrama, mae rhai o’r pethau yma yn dod i’r wyneb, a phobl yn cael eu gorfodi i’w hwynebu. Drama am faddeuant ydi hi, ac ymdrech i ail-ddechrau. Nid gorfodi maddeuant ar bobl, ond fod amgylchiadau yn gorfodi rhywun i dd_ad i ryw fath o ddealltwriaeth. Ac yn ein gorfodi hefyd i wynebu cwestiynau fel beth ydi ystyr da a drwg.
Ond sut mae modd ateb cwestiynau felly o safbwynt y genetegydd, rhywun fel Meilyr?
Wrth gwrs, mae modd defnyddio geneteg i gyfiawnhau pob dim. Dyma ben draw y diffyg syniad am foesoldeb, am y gorffennol. Mae’n ddadl mae Barry yn y ddrama yn medru ei defnyddio – ac y mae o yn gymeriad efo elfen neu ymdeimlad eitha’ cryf o grefydd – cofio bod yn hogyn bach yn yr eglwys ac ati. Ac yn naturuiol, o godi’r diffyg moesoldeb yma, holi os oes unrhyw werth i’r gorffennol, i hanes, mae’n rhaid i ni wynebu gofyn ai’r gwrthwyneb sy’n wir – fod geneteg, a DNA yn benodol, wedi datgelu unwaith ac am byth gynnwys y ffiol, ac nad ydan ninnau’n ddim ond ffiolau. Wrth gwrs, yn y ddrama, y genetegydd sy’n sylweddoli nad byd fel hyn mae arno fo’i isio, ac mi all fod yn hawdd taflu’r bai i gyd ar y gwyddonydd.
On’d ydi hi’n arwyddocaol, felly, mai’r gwyddonydd sy’n wynebu’r cwestiynau yma yn y ddrama, nid yr offeiriad?
‘Does neb wedi gwir wynebu hyn yn ddiwinyddol, ac efallai fod dryswch Rhys yn adlewyrchiad o’r peth. Ac eto, dyma’r unig gwestiwn pwysig. Hwyrach fod pobl yn chwilio am atebion, ond tasa gwyddonwyr wir yn medru cyfleu gogoniant a dirgeledd bywyd, efallai y buasai hynny yn rhoi bod i ysbrydolrwydd newydd. Wedi’r cyfan, mae harddwch y byd naturiol – a harddwch DNA – yn ei hanfod yn rhywbeth ysbrydol. Meddwl am fywyd naturiol a’r ffordd yr esblygodd bywyd – mae’r peth yn ymylu ar wyrth. Ydyn, mae gwyddonwyr hefyd yn dyheu am greadigrwydd, a dyna beth mae’r cyfansoddiad cerddorol Ffrwd Ceinwen yn ei wneud – cynrychioli’r dyhead, yr awydd am greadigrwydd.
A beth am ymateb y gynulleidfa, pan ddaw? Beth mae’r gynulleidfa Gymreig yn ddisgwyl?
Mi fydda’i yn meddwl weithiau fod y gynulleidfa Gymreig yn mynd i’r theatr efo rhagdybiaeth bendant: maen nhw’n mynd am ddifyrrwch arwynebol, yn hytrach na meddwl am y theatr fel lle i wyntyllu syniadau’r cyfnod. Ac eto, rhywbeth diweddar ydi hyn, rhywbeth o’r ganrif ddiwethaf, hwyrach, oherwydd ewch chi’n ôl yn gynhnarach, ac yr oedd llenyddiaeth yn naturiol yn fwy agos at y pridd. Oes, mae i lenyddiaeth swyddogaeth ddyrchafol – ond nid dehongliad cul sydd i hyn, nid mater o gyfrif rhegfeydd neu yrru llythyrau cas am iaith mewn dramâu – mae eisiau i gynulleidfa weld arwyddocâd y geiriau, ac mi ddylai’r dramodydd ddangos bywyd yn ei gyflawnder. Wedi’r cwbwl, os nad ydi llenyddiaeth yn ymdrin â’r holl ddyn, yna mae rhywbeth o’i le.
awdur:Meg Ellis
cyfrol:438/439, Gorffenaf/Awst 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com