Yr Ifanc a wyr
Ganol mis Mawrth, cynhaliwyd G_yl Theatr Ryngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc. Aeth Kate Woodward yno ar ran Barn.
Mae theatr mewn addysg a theatr i bobl ifanc yng Nghymru yn rhan o rwydwaith byd-eang theatr i’r ifanc. Mae ASSITEJ (l’Association Internationale du Theatre pour l’Enfance et la Jeunesse) yn un sefydliad sy’n gweithredu i hyrwyddo theatr broffesiynol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc mewn rhyw 80 o wledydd. Ond er gwaethaf y rhwydweithiau byd-eang hyn, prin iawn yw’r sylw a roddir i’r math yma o waith. Tardda hyn yn bennaf oddi wrth ddiffyg dealltwriaeth o’r hyn a gyflwynir gan ein cwmnïau theatr-mewn-addysg, neu’r camargraff nad ydyw yn ‘theatr go-iawn’. Yn anorfod, mae’r safon yn amrywio o gwmni i gwmni, ond dyma un maes celfyddydol lle gall Gymru hawlio fod ganddi olygon byd-eang, o’r un safon ac i’r un graddau â gwobr gelf yr Artes Mundi, a’r Biennale yn Fenis.
Er gwaetha’r diffyg cydnabyddiaeth yn y wasg ac ar y cyfryngau mae gwaith theatr-mewn-addysg yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth. Mae'r rhwydwaith o gwmnïau theatr-mewn-addysg (Arad Goch, Spectacle, Theatr Iolo, Theatr Gwent, Theatr na Nog, Clwyd Theatr Cymru, Theatr Powys a Chwmni’r Frân Wen) yn creu ac yn darparu cyflwyniadau sydd yn sylfaenol wahanol i’r hyn a gynigir gan y rhelyw o gwmnïau theatr yng Nghymru. Mae theatr i blant a phobl ifanc yn hanesyddol dlawd, gyda setiau syml, nifer bychan o berfformwyr, a gofodau ymarfer bychan. Rhydd y gwaith hefyd y gynulleidfa (sef y plant) wrth galon y cynhyrchiad, a gan nad yw’r plentyn wedi ei gyflyru gan ddisgwyliadau a chonfensiynau theatrig, ceir myrdd o bosibiliadau sy’n cynnig rhyddid creadigol. Ddwy flynedd yn ôl cydnabyddodd y Cynulliad a Chyngor y Celfyddydau bwysigrwydd theatr-mewn-addysg drwy roi cynnydd sylweddol o ran cyllid. Mae hyn wedi esgor ar gydweithio tynnach rhwng y cwmnïau.
Rhoddwyd ffenest siop ryngwladol i’r gwaith yn Aberystwyth a thu hwnt ganol Mawrth wrth i _yl Agor Drysau agor ei drysau am y pedwerydd tro. Er mai yn Aberystwyth mae calon yr _yl, mae ganddi olygon byd-eang ac amlygir hyn yn yr amrywiaeth o wledydd a gynrychiolwyd gan y cwmnïau niferus a deithiodd i Aberystwyth, ac ardaloedd eraill yng Nghymru, i berfformio eu gwaith. Mae’r _yl bellach yn ddigwyddiad bob-yn-ail flwyddyn, gyda 50 o berfformiadau o 30 o gynyrchiadau o Gymru a thu hwnt, a 22 o berfformiadau gan y cwmnïau tramor yn ysgolion a theatrau ledled Cymru. Wrth wraidd G_yl Agor Drysau mae Cwmni Theatr Arad Goch, a’r catalydd yw’r cyfarwyddwr artistig, Jeremy Turner.
Cafwyd cyfoeth o waith didwyll, anturus, yn cychwyn gyda Freefall, perfformiad beiddgar yn diferu o egni gan Two-in-one, gyda’r perfformwyr yn hanu o Awstria a Hwngari. O’r naw perfformiwr, roedd un yn DJ hip hop (oedd yn sgratsho a beat box-io trwy’r cyfan!), un arall ar djembe, a’r saith arall yn sgrialu eu ffordd ar hyd ramp sglefr-fyrddio, wrth ddefnyddio beiciau, sglefr-fyrddau a sglefr-olwynion, yn ogystal â dawnsio stryd cyfoes i symud o un ochr y ramp i’r llall. Troellant yn ddidrugaredd am dri chwarter awr i guriadau’r DJ oedd yn sefyll yng nghrombil y llwyfan. Nid darn o theatr oedd hyn, ac ni roddwyd unrhyw gyd-destun o fath yn y byd, ond perfformiad cyfoes syfrdanol o fywiog, gyda nerth rhyfeddol yn pefrio o bob curiad, symudiad a delwedd. Ymysg y hetiau baseball, y gerddoriaeth hip-hop a’r trainers, nid oedd unrhywbeth nodedig o ‘Awstriaidd’ neu ‘Hwngaraidd’ yn perthyn i’r perfformiad. Mae hyn yn tystio, mae’n si_r, i rym digyfaddawd diwylliant poblogaidd Eingl-Americanaidd. Tystiodd sgrechiadau’r merched ifanc ger y llwyfan i fwynhad yr ifanc yn y gynulleidfa!
Cynhyrchiad a chanddo nod arbennig oedd Mrch Dd@ (Cwmni’r Frân Wen) sef i addysgu pobl ifanc yn eu harddegau cynnar am beryglon niferus y we. Mae Eli, 13 oed, yn derbyn gliniadur yn anrheg pen-blwydd, ac yn datblygu perthynas gyda Sam, 14 oed, ar y we. Buan iawn y gwelwn natur anwadal a dirgel yr ystafelloedd sgyrsio bondigrybwyll. Thema gyfarwydd, fel y gwelwyd hefyd yng nghynhyrchiad Sgript Cymru o Clint yn ddiweddar, yn ogystal â Waves from a Chatroom gan Theatr y Sherman, oedd hefyd yn rhan o’r _yl. Trosglwyddwyd y neges amserol yn ddiamheuol, a hynny mewn modd llawdrwm braidd, er gwaetha’r ffaith ei fod yn anodd deall pob gair a lefarwyd gan yr actorion ifanc.
Cynhyrchiad echreiddig, a gwahanol iawn, gan Sean Tuan John o Gymru a Bert Van Gorp o Wlad Belg oedd Wonderfully Grimm. Dyma brawf nad yw theatr i blant bob tro yn annwyl ac yn neis-neis! Sioe ddawns feiddgar ydyw gan un o brif goreograffwyr ifanc Cymru, sydd wedi ei seilio ar fyd ffantasi straeon tylwyth teg y brodyr Grimm. Cyfunwyd dawns, storïa, cymeriadau ffôl a gwych iawn, ar y cyd â delweddau ffilm hudolus. Cyflwynir y plant i fyd gwallgof a gwirion dau gyflwynydd newyddion. Roedd y hiwmor yn ffraeth ac yn bisâr ar adegau (fel hiwmor rhaglenni plant ar fore Sadwrn) wrth i’r gynulleidfa glywed fod arlywydd Guyana wedi syrthio mewn cariad â gerbil o’r enw Jemima, a’u bod wedi mynd ar wyliau i Borthcawl, a bod crempog enfawr wedi cwympo o’r awyr ac wedi glanio ar faes awyr Caerdydd! Cerbyd yw’r straeon mewn gwirionedd i gyfuno cyfres o ddawnsfeydd gan Tuan Jon a Van Gorp, ac anogwyd y gynulleidfa i gymryd rhan. Rhyfeddol oedd gweld theatr o blant saith oed yn chwifio hancesi gwyn uwch eu pennau i sain y gân ‘Perfect Day’!
Cynhyrchiad hwyliog, chwareus a gafwyd gan Theatergruenesosse o’r Almaen, a gyflwynodd dehongliad o Henry V. Chwaraewyd y ddrama o gylch castell tywod enfawr, soffistigedig, ac roedd symlrwydd y set (a oedd yn cynnwys dim llawer mwy na chastell tywod a rhaff yn diffinio’r gofod) yn gamarweiniol wrth ystyried dwyster y pwnc, sef oferedd a seithugrwydd rhyfel, oedd yn arbennig o ddirdynnol yn yr hinsawdd sydd ohoni. Cafwyd wibdaith trwy hanes Henry V, gan ddefnyddio cyfres o fal_ns i fynegi lluoedd Prydain a Ffrainc. Llwyddwyd i fynegi’r hanes Shakesperaidd mewn modd syml a doniol i’r plant.
Perfformiad tu hwnt o swynol a gafwyd gan Teater Patrasker o Ddenmarc. Yn The Bear Who Asked Why cafwyd gwledd i blant rhwng 6-9 oed, wrth i’r unig berfformiwr, Dirck Backer, eu tywys i fyd antur y tedi-bêr, gan droi yn aderyn, yn neidr, ac yn fadfall ymhlith anifeiliaid eraill, o flaen llygaid ei gynulleidfa ifanc. Dyma dedi-bêr oedd yn canu’r bl_s i sain ei organ geg, sef yr unig prop a ddefnyddiwyd trwy’r cynhyrchiad gyfan.
Eto yn syml, ond hynod effeithiol oedd This and That – Faites Divers, cynhyrchiad dwyieithog gan Compagnie Sac-à-Dos o Wlad Belg, a oedd yn dychwelyd i’r _yl am yr eilwaith. Defnyddiwyd hen bapurau newydd i greu cymeriadau bach, a syndod oedd gweld y fath graddau roedd plant y gynulleidfa (a’r oedolion!) yn llithro i fyd y cymeriad bach papur hwn, wrth i’r ddau berfformiwr weu naratif effeithiol.
Dau gynhyrchiad a gyflwynwyd gan Gwmni Arad Goch i bobl yn eu harddegau oedd Riff a Crash, y ddau gynhyrchiad dan arweiniad Sêra Moore Williams ac yn cynnwys cerddoriaeth fyw. Roedd neges amlwg i’r ddau; y cyntaf yn ymdrin â hanes erchyll y saethu yn Columbine, UDA, a’r llall yn archwilio effeithiau yfed a lladrata ceir. I mi, roedd Crash yn rhagori tipyn ar Riff, ac yn llwyddo i drosglwyddo’r neges mewn mantell o hiwmor (yn bennaf trwy berfformiad gwych Rhys ap Trefor a’i ‘one-liners’ tu hwnt o ddoniol), gyda’r actorion eraill hefyd yn cyfrannu perfformiadau grymus a chredadwy, ac yn llithro yn ddiymdrech o’r llon i’r lleddf.
Yr hyn a’m trawodd am y perfformiadau i gyd oedd eu didwylledd a’u gonestrwydd. Heb setiau astrus ag effeithiau technegol rhwysgfawr, rhoddwyd y perfformiwr a’r gwyliwr wrth wraidd y perfformiadau, ac roedd y perfformwyr dawnus yn medru tywys y plant ar deithiau dychmygol a swreal i fydoedd gwych a gwallgof heb unrhyw adnoddau yn y byd heblaw am stori dda ac ambell brop syml. Yn ystod yr _yl, cyhoeddodd Peter Tyndall, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, fod Cwmni Theatr Arad Goch wedi derbyn cymhorthdal o £1.8 miliwn o bunnoedd ganddyn nhw er mwyn addasu ac ehangu eu pencadlys yn Aberystwyth. Hir fu’r aros am y math yma o fuddsoddiad, a braf yw gweld cyfoeth artistig y theatr hanesyddol dlawd hon yn cael ei gydnabod.
awdur:kate woodward
cyfrol:507 ebrill 2005
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com